Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

e-hangu gorwelion Agorodd oes y dechnoleg newydd bosibiliadau rhyfeddol mewn sawl maes, ond yn arbennig felly ym maes addysg. Yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf mae dros 700,000 o Gymry yn defnyddio'r rhyngrwyd yn gyson chwarter y boblogaeth ac y mae 60% o'r rheini'n defnyddio'r we i ddibenion addysgol. Dyma faes y gwelodd Adran y Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yn dda i gynllunio ar ei gyfer. Mewn cyfnod o dair blynedd cynyddodd y myfyrwyr o ddim i 1500 ac mae'r gwasanaeth ar gael mewn 29 o wahanol wledydd. Daw'r mwyafrif ohonynt o Gymru gyda llawer yn dewis y dull hwn o astudio oherwydd y cyfyngiadau ariannol. Yn ôl yrAthro David Thorne, "mae datblygiadau ym maes technoleg gwybodaeth wedi newid y ffordd rydym yn byw, yn gweithio, yn chwarae ac yn dysgu Mae www.e-addysg.com eisoes yn adran go iawn o fewn yr e-brifysgol fyd eang ac yn cynnig modiwlau a achredwyd gan Brifysgol Cymru." Gwelodd Coleg yr Annibynwyr Cymraeg ers blynyddoedd lawer bwysigrwydd cynnig addysg i bobl yn nes i'w cynefin trwy sefydlu canolfannau addysgol lleol. Yr oedd datblygu y wedd hon yn rhan bwysig o'n strategaeth i ddeffro'r eglwysi i'w tasg addysgol. Bu'n fenter llwyddiannus eisoes gyda tho newydd o arweinwyr a gweinidogion yn cael eu meithrin. Y nod yw ehangu a chadarnhau'r ddarpariaeth hon trwy osod cyrsiau ym maes Diwinyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar y we. Mewn partneriaeth gydag Adran y Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan bydd modd i fyfyrwyr astudio diwinyddiaeth yn eu cynefin. Bydd y cyrsiau yn cael eu hachredu gan Brifysgol Cymru ac yn y diwedd yn cynnwys deuddeng modiwl 20 credyd. Bwriedir lansio'r safle yn yr Hydref gyda thri modiwl: Cristionogaeth yng Nghymru; Yr Efengylau; Cenhadu a Chyfathrebu Paratowyd y modiwlau hyn gan arbenigwyr yn eu meysydd ac y maent yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am Iyfrau ac ysgrifau a gwefannau IIe gall myfyrwyr gael cymorth i astudio ymhellach. Y mae llyfrgell adran e-addysg Llambed yn batrwm i ni yn y maes hwn ac yn adnodd gwerthfawr sy'n cynnwys Geiriadur Digidol Cymraeg sy'n cael ei ddatblygu gan yr Adran. Yr amcan yw cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr nad ydynt yn gallu teithio ymhell i grynhoi defnyddiau. Ymhellach, bydd aelodau staff y Coleg ar gael i ateb unrhyw gwestiynau ac i gynnal seminarau ar y we. gan Euros Wyn Jones Partneriaeth Darparodd y colegau diwinyddol addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Diwinyddiaeth ers hanner canrif a mwy. Gwnaed hynny yng Nghymru mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Cymru (ac ambell dro er gwaetha'r sefydliad hwnnw!). Dyma gyfle godidog yn awr i ehangu'r bartneriaeth honno i faes newydd a chyffrous. Ond mae'n bwysig cofio mai partneriaeth ydyw ac nid oes angen i unrhyw sefydliad ildio ei hunaniaeth mewn unrhyw fodd. Sefydliadau secwlar mewn byd secwlar yw'r prifysgolion ac yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni y mae pynciau fel Diwinyddiaeth yn wynebu anawsterau mawr yn y sector hwn. Dyna pam na allwn ddibynnu yn unig ar y Brifysgol fel darparwr a bod partneriaeth lle mae hynny yn bosibl yn llawer mwy dymunol. Mae'n bwysig ein bod yn glynu wrth ein hannibyniaeth a'n rhyddid cyffesiol. Cadarnhawyd yr argyhoeddiad hwn gan David Ford mewn cyfres o erthyglau tra diddorol ar gyflwr dysgu diwinyddiaeth ym Mhrydain yn y Church Times y llynedd. Er eu bod yn agored i fyfyrwyr o bob argyhoeddiad nid colegau secwlar yw'r colegau diwinyddol a'u nod o hyd yw hyfforddi pobl ar gyfer gwaith a gwasanaeth yn Eglwys lesu Grist. Gwneir hynny heb gyfaddawdu o gwbl ar safonau academaidd, na'n hargyhoeddiadau Cristionogol. Yr angen am hyfforddiant Y mae angen hyfforddiant o'r fath er mwyn: ·:· Cynorthwyo pobl i ddeall y Ffydd yn well; ·:· Codi to newydd o arweinwyr i wasanaethu ein heglwysi; ·:· Herio pob aelod eglwysig i brofi eu galwad yng ngwasanaeth Crist. Y gobaith yw bydd y safle www.e-addysg.com a'r cyrsiau mewn diwinyddiaeth a gynigir ami yn gyfle i bobl ehangu eu gorwelion ac i ystyried o ddifrif cynnig eu hunain i wasanaethu eu heglwysi.