Skip navigation

Cristion

 - 

114 Medi/Hyd. 2002

e-hangu gorwelion

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
e-hangu gorwelion
Agorodd oes y dechnoleg newydd bosibiliadau rhyfeddol
mewn sawl maes, ond yn arbennig felly ym maes addysg.
Yn l yr amcangyfrif diweddaraf mae dros 700,000 o Gymry
yn defnyddio'r rhyngrwyd yn gyson chwarter y boblogaeth
ac y mae 60% o'r rheini'n defnyddio'r we i ddibenion
addysgol.
Dyma faes y gwelodd Adran y Gymraeg Coleg
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yn dda i gynllunio
ar ei gyfer. Mewn cyfnod o dair blynedd cynyddodd y
myfyrwyr o ddim i 1500 ac mae'r gwasanaeth ar gael mewn
29 o wahanol wledydd. Daw'r mwyafrif ohonynt o Gymru
gyda llawer yn dewis y dull hwn o astudio oherwydd y
cyfyngiadau ariannol. Yn l yrAthro David Thorne, "mae
datblygiadau ym maes technoleg gwybodaeth wedi newid
y ffordd rydym yn byw, yn gweithio, yn chwarae ac yn
dysgu Mae www.e-addysg.com eisoes yn adran go iawn
o fewn yr e-brifysgol fyd eang ac yn cynnig modiwlau a
achredwyd gan Brifysgol Cymru."
Gwelodd Coleg yr Annibynwyr Cymraeg ers
blynyddoedd lawer bwysigrwydd cynnig addysg i bobl yn
nes i'w cynefin trwy sefydlu canolfannau addysgol lleol. Yr
oedd datblygu y wedd hon yn rhan bwysig o'n strategaeth
i ddeffro'r eglwysi i'w tasg addysgol. Bu'n fenter llwyddiannus
eisoes gyda tho newydd o arweinwyr a gweinidogion yn
cael eu meithrin. Y nod yw ehangu a chadarnhau'r
ddarpariaeth hon trwy osod cyrsiau ym maes Diwinyddiaeth
trwy gyfrwng y Gymraeg ar y we. Mewn partneriaeth gydag
Adran y Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont
Steffan bydd modd i fyfyrwyr astudio diwinyddiaeth yn eu
cynefin. Bydd y cyrsiau yn cael eu hachredu gan Brifysgol
Cymru ac yn y diwedd yn cynnwys deuddeng modiwl 20
credyd. Bwriedir lansio'r safle yn yr Hydref gyda thri modiwl:
Cristionogaeth yng Nghymru; Yr Efengylau; Cenhadu
a Chyfathrebu
Paratowyd y modiwlau hyn gan arbenigwyr yn eu
meysydd ac y maent yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf
am Iyfrau ac ysgrifau a gwefannau IIe gall myfyrwyr gael
cymorth i astudio ymhellach. Y mae llyfrgell adran e-addysg
Llambed yn batrwm i ni yn y maes hwn ac yn adnodd
gwerthfawr sy'n cynnwys Geiriadur Digidol Cymraeg sy'n
cael ei ddatblygu gan yr Adran. Yr amcan yw cynnig
cefnogaeth i fyfyrwyr nad ydynt yn gallu teithio ymhell i
grynhoi defnyddiau. Ymhellach, bydd aelodau staff y Coleg
ar gael i ateb unrhyw gwestiynau ac i gynnal seminarau ar
y we.
gan Euros Wyn Jones
Partneriaeth
Darparodd y colegau diwinyddol addysg trwy gyfrwng y
Gymraeg ym maes Diwinyddiaeth ers hanner canrif a mwy.
Gwnaed hynny yng Nghymru mewn partneriaeth gyda
Phrifysgol Cymru (ac ambell dro er gwaetha'r sefydliad
hwnnw!). Dyma gyfle godidog yn awr i ehangu'r bartneriaeth
honno i faes newydd a chyffrous. Ond mae'n bwysig cofio
mai partneriaeth ydyw ac nid oes angen i unrhyw sefydliad
ildio ei hunaniaeth mewn unrhyw fodd.
Sefydliadau secwlar mewn byd secwlar yw'r
prifysgolion ac yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni y
mae pynciau fel Diwinyddiaeth yn wynebu anawsterau mawr
yn y sector hwn. Dyna pam na allwn ddibynnu yn unig ar y
Brifysgol fel darparwr a bod partneriaeth lle mae hynny yn
bosibl yn llawer mwy dymunol. Mae'n bwysig ein bod yn
glynu wrth ein hannibyniaeth a'n rhyddid cyffesiol.
Cadarnhawyd yr argyhoeddiad hwn gan David Ford mewn
cyfres o erthyglau tra diddorol ar gyflwr dysgu diwinyddiaeth
ym Mhrydain yn y Church Times y llynedd.
Er eu bod yn agored i fyfyrwyr o bob argyhoeddiad
nid colegau secwlar yw'r colegau diwinyddol a'u nod o hyd
yw hyfforddi pobl ar gyfer gwaith a gwasanaeth yn Eglwys
lesu Grist. Gwneir hynny heb gyfaddawdu o gwbl ar safonau
academaidd, na'n hargyhoeddiadau Cristionogol.
Yr angen am hyfforddiant
Y mae angen hyfforddiant o'r fath er mwyn:
: Cynorthwyo pobl i ddeall y Ffydd yn well;
: Codi to newydd o arweinwyr i wasanaethu ein
heglwysi;
: Herio pob aelod eglwysig i brofi eu galwad yng
ngwasanaeth Crist.
Y gobaith yw bydd y safle www.e-addysg.com a'r cyrsiau
mewn diwinyddiaeth a gynigir ami yn gyfle i bobl ehangu
eu gorwelion ac i ystyried o ddifrif cynnig eu hunain i
wasanaethu eu heglwysi.
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for non-commercial purposes only while respecting the moral rights of the creators.