Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"O Gornel y Cynulliad" gan Aled Edwards Yn ddiweddar, cyhoeddwyd Nodi'r Gwahaniaeth fel papur briffio ar wefan Canolfan yr Eglwysi ar Gyfer y Cynulliad. Arachlysurtrydydd pen-blwydd y Cynulliad Cenedlaethol, mae'r papur yn rhestru tua 230 o wahaniaethau ers cychwyn datganoli. A wnewch chi gysylltu â'r Ganolfan os hoffech gael copi o'r papur. Yn ystod yr wythnosau diwethaf hyn, cyhoeddodd y Cynulliad sawl peth sydd o bwys i'r eglwysi. Am resymau bugeiliol, cofnodir y canlynol: Gofalwyr Mae Jane Hutt, gweinidog lechyd Cymru wedi dyrannu £ 4.6 miliwn ychwanegol mewn grantiau ar gyfer gofalwyr yn y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Bydd yr arian ychwanegol yn helpu ehangu'r gwasanaethau i ofalwyrsy'n darparu gofal yn eu cartrefi. Archwiliadau di-dâl Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyflwyno archwiliad di-dâl ar iechyd y llygaid i helpu'r rhai hynny a allai fod mewn perygl o ddatblygu clefyd y llygaid. Mae dallineb yn effeithio ar dros 18,0000 bobl yng Nghymru. Bydd y cynllun yn cynorthwyo: pobl sy'n gweld gydag un llygad yn unig, pobl sydd â nam ar y clyw, pobl sy'n dioddef o retinitis pigmentosa a phobl sydd o dras DuAffricanaidd, Du Caribiaidd, Indiaidd, Pacistani a Bangladeshi. Gwasanaethau Arbenigol i blant Cyhoeddwyd ychwanegiad arbennig o £ miliwn i Wasanaethau Arbenigol i Blant yng Nghymru. Mae'r newyddion yn dilyn cyhoeddi dau adroddiad gan Gomisiwn Gwasanaeth lechyd Arbenigol Cymru, sef Adolygiad o Wasanaethau Trydyddol i Blant a Gwasanaeth Arbennig, Dyfodol Gofal Iechyd Arbenigol i Blant Cymru. Polisi Cynllunio Arbennig Wrth roi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Dethol y DTLR, dywedodd Sue Essex, Gweinidog dros yr Amgylchedd yng Nghymru: "Mae gan Gymru ei nodweddion arbennig ei hun, a rhaid adlewyrchu hyn mewn cyfundrefn cynllunio pwrpasol. Bwriad ein papur ymgynghori yw ceisio sicrhau bod ein cyfundrefn cynllunio yn ateb gofynion arbennig y Cynulliad, yn cynnwys ein hymrwymiad i ddatblygu cynaladwy, cyfleoedd cyfartal a chefnogi'r iaith Gymraeg." Cymunedau'n Gyntaf Mae'r bobl sydd yn byw yn y rhannau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn dechrau gweld manteision, yn dilyn ariannu Cynllun Cymunedau'n gyntaf gan y Cynulliad. Mae Edwina Hart wedi clustnodi £ 2.2 miliwn ychwanegol i'r cynllun yn ddiweddar. Gofalu am blant Mae Gymdeithas Genedlaethol Gofalu am Blant Cymru (National Childminders Association in Wales) wedi ennill cytundeb newydd sylweddol ganAwdurdod Datblygu Cymru, gwerth mwy na £ 1 .6 miliwn dros gyfnod o dair blynedd, er mwyn cefnogi newydd-ddyfodiaid i yrfa gofalu am blant. Tai cymdeithasol Cyhoeddodd y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Edwina Hart, y bydd llawer mwy o arian ar gael i brosiectau newydd dan Raglen Grantiau Rheoli Tai Cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad. Mae'r arian ychwanegol yn cydnabod y gwaith pwysig y mae'r prosiectau arloesol yn ei wneud i godi safonau gwaith rheoli tai cymdeithasol a gwireddu amcanion y strategaeth dai genedlaethol i Gymru. Bydd £ 1 .36 miliwn ar gael yn 2002- 03. Pris presgripsiynau Bydd pris presgripsiynau yn aros yr un fath yng Nghymru am ail flwyddyn yn olynol, gan sicrhau mai £ 6 fydd pris presgripsiwn yng Nghymru o hyd. Gofal lliniarol Cyhoeddodd Jane Hutt hwb o £ 85, 000 o arian ychwanegol ar gyfer cleifion yng Nghymru sydd angen gofal lliniarol. Bydd yr arian hwn, a gaiff ei wario dros y tair blynedd nesaf, yn helpu sicrhau bod cleifion sydd yn derbyn gofal yn eu cartrefi yn gallu derbyn gwasanaeth fferyllfa ddydd a nos. Cyngor Rhyng-Grefyddol Cymru Cadeiriwyd cyfarfod y Cyngor Rhyng-Grefyddol gan Brif Weinidog Cymru. Roedd cynrychiolwyr o'r gymuned Gristnogol, yr Hindwiaid, yr Iddewon, y Mwslemiaid, y Siciaid a'r Bahai yn bresennol. Disgrifrwyd y cyfarfod cyntaf fel "digwyddiad hanesyddol" gan Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan. "Bydd y Cyngor Rhyng-Grefyddol yn caniatáu i ni fanteisio ar ysbryd undod a chydweithio a welwyd yn arbennig ar ôl Medi 11." Ceir manylion pellach gan Ganolfan yr Eglwysi ar Gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, Y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3AP. 02920 255506.