Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TROI ARGYFWNG YN GYFLE Yn ystod y flwyddyn 2000 trefnodd y Cyfundeb i E C Harris ddod draw i archwilio'r adeiladau, roedd dirywiad cynyddol i'w weld yn rhai ohonynt yn arbennig yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Brawychwyd pawb o ddeall y byddai angen gwario o leiaf rhyw £ 150,000 i uwchraddio ac atgyweirio'r pum capel, ac i beth? Yn yr adroddiad a baratowyd yn 1967, nid oedd sôn am y diffygion a'r gwariant.A gafwyd dirywiad sydyn? Pwy fyddai'n talu? Onid oedd cymaint wedi blino ceisio cynnal a chadw hen adeiladau oedd yn perthyn i'r bedwaredd ganrif a'r bymtheg ? Onid oedd hi'n bryd symud oddi wrth gynhalieth i genhadaeth? Yn y cyfamser, sef haf 2001, anfonodd swyddogion Berea Iythyr i'r Graig a Thwrgwyn ac i eglwys Fethodistaidd Moreia, (sydd gyferbyn a'r hen Berea) i estyn gwahoddiad iddynt i drafod y dyfodol.Yn ddiweddarach, ar eu cais hwy eu hunain, y daeth Caerhun a Phentir i gymryd diddordeb yn y newydd, ac roedd pawb yn hynod falch o hynny. Ni ddaeth ateb o Moreia hyd yma. GWAITH A GWEDDI Gwaith caled oedd paratoi ein haelodau, dros 500 ohonynt ar gyfer y pleidelisio. Gwnaed hynny trwy baratoir llythyrau a holiaduron, cynnal trafodaethau, a defnyddiwyd y pulpud weithiau. Cynhaliwyd dwy bleidlais ym mhob eglwys, gyda aelodau Berea ei hun yn gorfod pleidleiso bum gwaith er mwyn dangos eu parodrwydd i dderbyn y gweddill atynt. Credaf mai'r cam cyntaf a fu'n gwbl allweddol i'r llwyddiant, sef sicrhau unryfdedd a chadernid ymhlith 22 o flaenoriaid.Diolch am flaenoriaid call a chadarn.Pleidleisiodd y mwyafrif llethol o blaid ffurfio un eglwys Bresbyteraidd, yn y capel newydd, a ddaw i fodolaeth yn lonawr 2003. Tipyn o wyrth oedd trefnu hyn oll mewn rhyw bedwar mis o amser, a daeth y pleidleisio olaf i ben ar y Sul cyntaf o Fai eleni. Ni ddylid anghofio cofnodi bod ambell i gyfarfod gweddi wedi ei gynnal yn ystod y cyfnod cyffrous hwn. Onid yr amod i unrhyw Iwyddiant ydyw y briodas rhwng gwaith a gweddi? Onid mantais fawr oedd medru cynnig cychwyn newydd i bawb mewn adeilad newydd, yn hytrach nag uno yn un o'r hen gapeli? Aoes gwers i ardaloedd eraill yma? MWY 0 WAiTH. Eisoes cyfarfu nifer dda o bwyllgorau, tri ohonynt ambell i noson! Daeth cynrychiolwyr y pum eglwys at ei gilydd yn eiddgar i ddod i adnabod ei gilydd yn well ac i sicrhau llwyddiant y fenter newydd. Bydd angen oddeutu ugain o is-bwyllgorau i gael trefn ar yr holl agweddau sydd i fywyd eglwys. Cafwyd pleidlais unfrydol o blaid yr enw ar y capel newydd, sef BEREA NEWYDD- ystyr Berea yw "rhodd", sy'n addas iawn o dan yr amgylchiadau. Disgrifir pobl Berea fel rhai "eangfrydig a bonheddig" yn Llyfr yr Actau., sy'n ddisgrifiad y gallwn geisio ei wireddu. Y mae mynydd o waith wedi ei goncro eisoes ond y mae mwy o fynyddoedd o'n blaenau.Yn ystod y misoedd diwethaf golygodd yrholl waith bod y gweinidog wedi troi'n weinyddwr amser llawn, ac yn fugail rhan amser! Ni fu amser i ddarllen na myfyrio'n iawn, dim ond canolbwyntio ar rai blaenoriaethau, gan bwyso ar "eangfrydedd" a "boneddigeiddrwydd" trwch yr aelodau. Bu'n ymarfer da iddynt! HER ENFAWR Gwleir diflaniad pum capel arall ddiwedd y flwyddyn hon. Dyma'r patrwm yn Henaduriaeth Arfon, fel aml i gylch arall erbyn hyn. Ystyriwch hyn, daeth 35 0 gapeli yn ddianghenraid yn yr Henaduriaeth hon yn ystod y tair mlynedd a'r ddeg ddiwethaf. Hawdd ydyw deall pam bod hynny wedi digwydd, ond gwaetha'r modd, collwyd dros 2,000 o aelodau, a thros 700 0 blant. A oes cysylltiad rhwng colli adeiladau a cholli aelodau? Os oes, mae hynny'n frawychus iawn, iawn. Diolch i Dduw, dyma gyfle i gychwyn o'r newydd yn y ddinas hon a'r cyffiniau. Sylweddolwn bod brwydr galed o'n blaenau, ond o leiaf y mae gennym adeilad addas, ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith, cawn ganolbwyntio arfod yn eglwys ac nid gwarchodwyr hen adeiladau. Hyderaf y byddwn mor brysur gyda'r her enfawr a wynebwn, sef addoli, gwasanaethu a chenhadu, fel y gwelwn werth y pump yn un, ac na fydd amser i'r un fod yn bump byth eto