Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EH AMGA' MRYD ♦ EHANGA' MRYD Cymorth Cristnogol "Fel yr amlhaodd dy fasnach fe'th lanwyd a thrais, ac fe bechaist." ESECIEL 28:16. Masnach ryngwladol yw un o'r grymoedd mwyaf pwerus yn y byd. Y mae'n werth 10,000,000 doler y funud ac mae'n effeithio ar fywyd pob person ar y blaned. Does dim amheuaeth fod y ffordd mae'n gweithio yn ffactor allweddol i benderfynu pa mor gyfoethog neu dlawd yw pobl yn rhannau gwahanol y byd. O'i weithredu'n gywir fe allai fod yr ateb gorau i dlodi byd-eang, gan amddiffyn y gwanaf a'r rhai sydd lleiaf abl i edrych ar eu hôl eu hunain. Y mae gan masnach y gallu i greu gwaith, gwella gofal iechyd a chodi safon byw. Gall ddod â buddsoddiad ac incwm. Gall helpu i sicrhau cynnyrch a thechnoleg newydd. Fe allai fod yn ffactor bwysig yn y gwaith o ddileu tlodi o'n byd. Does dim rhyfedd fod Kofi Annan, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi dweud, "Wrth i ni ddechrau mileniwm newydd, rhaid cael masnach i weithio er mwyn y tlodion." Adyna yw'r broblem sylfaenol. Oherwydd heddiw, fel ag erioed, dydi masnach ryngwladol ddim yn gweithio er mwyn y tlodion. Yn wir fe allai condemniad Amos o fasnachwyr Israel yn yr 8ed Ganrif C.C., "yn sathru'r anghenus ac yn difa'r tlodion.yn prynu'r tlawd am arian a'r anghenus am bâr o esgidiau" fod wedi eu llefaru ar gyfer ein dyddiau ni. Beth sydd o'i Ie felly? Un o'r problemau sylfaenol yw fod dwy ran o dair o fasnach ryngwladol yn cael ei rheoli gan gwmni rhyngwladol enfawr, ac oherwydd eu maint y mae ganddynt dipyn o ddylanwad ar y ffordd y mae masnach yn cael ei rhedeg, ac y maent yn credu fod ganddynt hawl i fwy fyth o ddylanwad. Y mae Eseciel yn cyhuddo masnachwyr Tyrus(ai hwy yw America eu dydd?) o ganiatáu i'w llwyddiant mewn masnach fynd i'w pennau, "trwy dy fedr mewn masnach cynyddaist dy gyfoeth, ac aeth dy galon i ymfalchïo ynddo.oherwydd iti dybio dy fod fel duw. Yn 1995, gyda lot fawr o rwysg a bri heb sôn am addewidion, fe sefydlwyd y Gyfundrefn Fasnach Byd(CMB), gyda'r dasg o weithredu ar yr holl faterion sy'n ymwneud â masnach. Y mae'n gorff sydd â statws cyfreithiol tebyg i'r Cenhedloedd Unedig, sy'n golygu fod yn rhaid i'w rheolau gael eu cadw. Os na chedwir at y rheolau gall osod dirwyon enfawr a sancsiynau. Fe'i sefydlwyd fel corff democrataidd, gyda phob un o'r 140 o wledydd sy'n aelodau ag un bleidlais yr un. Yn ymarferol wrth gwrs y mae'r sefyllfa yn dra gwahanol, gyda nifer o'r gwledydd tlotaf yn methu fforddio anfon eu cynrychiolydd yn gyson, os o gwbl. Ar y llaw arall y mae rhai o'r gwledydd cyfoethocaf yn anfon, yn ogystal â'u cynrychiolwyr, nifer sylweddol o lobiwyr, sydd fel arfer â chysylltiad clos iawn â chwmnïau rhyngwladol. Does dim rhyfedd fod rhai yn cyhuddo'r CMB o fod yn ddim ond cwmni rhyngwladol sy'n galw ei hun yn gorff cyhoeddus, sy'n bodoli yn unig er mwyn hyrwyddo buddiannau cwmnïau rhyngwladol! Rhan o waith y CMB yw gosod rheolau ar gyfer masnach ryngwladol, ond yn anffodus mae'n ymddangos mai nod y rheolau hyn yw cynyddu masnach doed a ddelo. Dychmygwch e.e. tase Rheolau'r Ffordd fawr wedi eu trefnu nid er mwyn diogelwch pawb sy'n defnyddio'r ffordd, ond er mwyn cynyddu'r traffig sydd ar y'ffordd! Dyna'r gwir am reolau masnach fyd-eang, fe'u crëwyd gan Iywodraethau a chwmnïau cyfoethog a phwerus er mwyn hyrwyddo eu buddiannau eu hunain. Cynyddu Anghyfartaledd Y mae yna nifer o fesurau dadleuol. Cymerwch e.e. GATS -Cytundeb Cyffredinol ar Fasnach mewn Gwasanaethau. Bwriad y cytundeb hwn yw sicrhau fod gwasanaethau sylfaenol un wlad yn agored i gystadleuaeth ryngwladol. Wrth gwrs fe bwysleisirfod gan Iywodraeth yr hawl i ddewis pa wasanaethau y maent am eu cynnwys mewn unrhyw gytundeb, er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus sylfaenol, ond nid oes gan Iywodraeth yr hawl i eithrio unrhyw wasanaeth sydd eisoes yn agored i'r sector preifat. Aphrin fod unrhyw wasanaeth cyhoeddus yn unman bellach lle nad yw'r sector preifat wedi cael troedle rhywle ynddo. A beth sy'n digwydd pan fydd gwasanaeth cyhoeddus sy'n cael ei redeg yn unol â'r egwyddor o angen