Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Emyn Gŵyl Ddewi Am bob tymor yn ei dro John Gruffydd Jones YR EMYN: Methiant y cynllun uno fu'n sbardun i'r emyn. Gwahoddiad y golygydd i gyfrannu emyn i Cristion fu'r symbyliad i'w gwblhau. YR AWDUR: Brodor o Nanhoron, Llyn yw'r Prifardd John Gruffydd Jones. Enillodd y Fedal Lenyddiaeth ym Machynlleth yn 1981. Cipiodd y Fedal Ddrama yn Abergwaun yn 1986 a'r Goron ym Mhorthmadog yn 1987. Y mae'n byw ar hyn o bryd yn Abergele ac ef wrth gwrs yw Golygydd presennol Y Goleuad. Tôn: St Magnus I ganol ein gwahanrwydd ni O lesu tyrd yn awr, A chuddia graith ein methiant trist Yn dy faddeuant mawr. Rhag i ni fyw ar bethau ddoe, O hen orffennol pell, Gad i'n wynebu'r dwthwn hwn Yng ngobaith dyddiau gwell. Am i ni rannu D'eglwys Di A hen ddadleuon gwael, Dwg ni yn un, ac adfer ni Yng ngrym dy gariad hael. Rho undod bellach yn ein gwlad, Un wlad, un Crist, un Duw, A thrwy'r blynyddoedd sydd o'n blaen Dysg i ni werth cyd fyw.