Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Efengylu i'r Ifanc gan Gwyn Rhydderch Dywed y Pregethwr "Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn dyfod y dyddiau blin". Ond sut all yr ieuenctid gofio, os na chlywsant am eu Creawdwr. Dyna'r sefyllfa drist sydd yn ein hwynebu bellach, sef bod cymaint o blant na wyddant ddim am yr efengyl. Felly rhaid gofyn y cwestiwn, beth ydym am ei wneud am y miloedd o ieuenctid yn ein gwlad sydd heb glywed? A ydym yn aros yn ein comel yn gweddïo y daw bendith? Ynteu a ydym am wrando ar y gorchymyn i fynd allan i'r priffyrdd a'r caeau i'w ceisio? Oni fu ein Gwaredwr yn dysgu o gwch, o fynwent ac o dŷ. Felly mae cyfrifoldeb arnom ni i geisio cysylltu â'n hieuenctid a'n plant ni. Meddylfryd yr Ifanc Mae'n hawdd anghofio ein bod ni wedi bod yn ifanc un waith, ac edrych ar yr ieuenctid felly trwy Iygaid hunangyfiawn oedolion parchus. Mae Steve Chalke yn cyflwyno'r dyfyniad canlynol: The world is passing through troublesome times. The young people of today think of nothing but themselves. They have no reverence for parents or old age. They are impatient of all restraint. They talk as if they know everything, and what passes as wisdom in us is foolishness to them. As forgirls, they are immodest and unwomanlyin speech, behaviour and dress. Geiriau Pedr y mynach yn 1274. Aristotle a ddywedodd: Wrth imifeddwl am y genhedlaeth iau, rwy'n anobeithio am ddyfodol gwareiddiad. Felly mae'n amlwg nad yw popbl ifanc wedi newid, ac nad yw agwedd pobl tuag atynt wedi newid ychwaith. Ac eto wrth gwrs mae rhai pethau wedi newid. Mae'n ymddangos fod gwrthryfel agored wedi dod yn fwy amlwg, gyda ieuenctid yn fwy hyderus i fynegi eu barn nag y buont genhedlaeth neu ddwy yn ôl. Gellir nodi o leiaf dri rheswm am hyn: Dirywiad Cristnogaeth Feiblaidd, y rhagrith crefyddol fu yn ystod y ganrif hon, a sham diwylliant y gorllewin. Dadleua Steve Chalke fod y newid mawr wedi digwydd yn ystod y pumdegau. Cyfeiria yn arbennig at 1953, pan oedd yna gân yn y siartiau gan Bill Haley and the Comets o'r enw Crazy, man, crazy. Dyma'radeg pan anwyd y teenager, ac y daeth y gwrthryfel yn fwy cyhoeddus. Wrth gwrs cyn hyn yr oedd yn rhaid i ieuenctid fynd trwy yr un newidiadau, ond gwnaent hynny yn ddistaw, heb y mynegiant cyhoeddus. Cymhara James Dobson flynyddoedd llencyndod i fordaith arw, lle mae'r plentyn yn gadael harbwr diogel ei blentyndod, ac yn hwylio allan i fôr mawr bywyd. Golyga hyn fod ieuenctid angen cydymdeimlad wrth ddelio â'r newidiadau mawr y mae'n rhaid iddynt eu hwynebu. Mae newidiadau corfforol, sydd yn golygu eu bod ar adegau â chywilydd o'u corff. Maent yn gallu bod yn fwy trwsgl wrth i'w corff dyfu. Ceir eithafion emosiynol, gyda newidiadau sydyn o hapusrwydd i ddigalondid, ac yn ôl. Maent yn ymwybodol iawn o bwysau cyfoedion i gydymffurfio â phawb arall o'r un grŵp, mewn golwg, gwisg ac eiddo. Dywedodd un cynhyrchydd teledu yn ddiweddar: We don't influence young people. We own them. Felly mae angen dealltwriaeth a chydymdeimlad â hwy yn y cyfnod cythryblus hwn. Ein Perthynas ni â hwy Awgryma Ann Townsend 2 fod llawer iawn o bobl ifanc yn cael mwy o drafferth gyda'u rhieni, nag y mae'r rhieni gyda hwy. Gall agwedd cymdeithas hefyd, a ninnau fel Cristnogion hyn fod yn annaturiol gyda'r bobl ifanc. Nid yn aml y bydd rhieni yn ymddiheuro i'w plant. Mae'r oedolyn bob amser yn iawn. Felly dylem feithrin dwy agwedd tuag atynt: Yn gyntaf, cydymdeimlad. Mae hen ddihareb gan yr Indiaid Cochion, sef na ddylem feirniadu neb nes ein bod wedi cerdded yn eu mocasinau hwy. Hynny yw, ni ddylem feirniadu neb nes ein bod yn deall eu hamgylchiadau. Dylem ddysgu oddi wrth ymgnawdoliad Crist. Wrth drafod Philipiaid 2: 6-8 dywed Gwyn Davies: Fe ymwacaodd yr lesu o ogoniant a breintiau ac anrhydeddau Duwdod Ni pheidiodd yr lesu â bod yn Dduw, ond gadawodd y stad nefol ar ôl, gan ymfodloni ar fyw mewn byd o bechod a phoen ac annuwioldeb. Roedd ganddo ogoniant dwyfol yng nghwmni'r Tad cyn bod y byd. (loan 15: 5), ond dewisodd osod y gogoniant hwn o'r neilltu.3 Credaf y dylem fabwysiadu'r egwyddor hon ein hunain gyda'n pobl ifainc, sef ein bod yn uniaethu gyda hwy. Nid ydym i fabwysiadu eu ffyrdd na'u syniadau, ond wrth uniaethu â hwy gallwn ddod i ddeall eu pryderon a'u gofidiau. Rydym i wisgo Crist, i gymryd ei nodweddion a'i fwriadau ynom ein hunain. Gofyn hyn am beidio barnu'r ifainc ar ymddangosiadau allanol, ond ein bod yn eu derbyn fel ag y maent heb eithriad. Golyga gymryd amser gyda hwy ar eu tir eu hunain, yn siarad â hwy ac yn gwrando amynt. Golyga fod o'u plaid beth bynnag fo 'r gost. Fel Crist rhaid i ni fod o blaid yr ifainc. Gallwn fod iddynt yn amddiffynwyr, yn anogwyr, ac ar adegau yn