Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFRES NEWYDD: Beth yw. 1. Beth yw Eglwys? gan Glyn Tudwal Jones Ymhen dwy flynedd bydd Archesgob Caerefrog, Dr. David Hope, yn rhoi'r gorau i'w swydd bresennol, ond yn wahanol i bob Esgob acArchesgob o'i flaen ei fwriad yw dychwelyd atwaith offeiriad plwyf hyd nes y bydd yn cyrraedd oedran ymddeol. Y rheswm mae wedi'i roi am ei benderfyniad annisgwyl yw ei fod yn llwyr argyhoeddedig mai yn y plwyfi lleol y mae dyfodol yr eglwys a'r allwedd i'w llwyddiant. Mae'rArchesgob yn llygad ei Ie. Beth yw'r eglwys? Cymuned o bobl sy'n dod ynghyd addoli Duw yn enw lesu Grist. Aoedd hi ym mwriad lesu i sefydlu eglwys o gwbl? Byddai rhai'n amau hynny, ond o edrych ar dystiolaeth yr Efengylau gwelwn fod lesu wedi sefydlu cymuned o bobl o'i amgylch o'r cychwyn cyntaf: 'Penododd ddeuddeg er mwyn iddynt fod gydag ef. Yn ddiweddarach, wrth fwrdd y Swper Olaf, daeth perthynas newydd, ddyfnach i fod rhyngddo a'i ddisgyblion a rhyngddynt hwy a'i gilydd; perthynas a fyddai'n parhau hyd yn oed wedi iddo ef eu gadael. Nid criw o ddisgyblion teithiol fydden nhw mwyach yn dilyn eu meistr o Ie i Ie, ond cymdeithas glos a gafodd ei dyfnhau trwy ei farw aberthol drostynt. Ond y Pasg a roes fod i'r eglwys. Pobl y Pasg ydym ni. Yna, yn glo cynhyrfus i'r holl broses o'i chreu, derbyniodd yr eglwys sêl yr Ysbryd ar ddydd y Pentecost. O hynny ymlaen, medd Hans Kung, yr eglwys yw 'Cymuned y rhai sydd ynglŷn ag achos lesu Grist ac sy'n tystio iddo fel gobaith pob un'. POBL NID ADEILAD Ystrydeb bellach yw dweud mai pobl ac nid adeilad sy'n gwneud eglwys, ond nid yw'n llai gwir oherwydd hynny. Daw'r gair Cymraeg 'eglwys', fel y Ffrangeg Teglise', o'r Groeg ecclesia. Ystyr y gair hwnnw yw 'pobl wedi dod ynghyd'. Ceir yr un gair yn Lladin, oherwydd ym myd sifil yr Ymerodraeth, pan fyddai clerc rhyw dref neu ddinas yn galw pobl ynghyd i drafod rhyw fater arbennig, y gair a ddefnyddid am y cynulliad hwnnw oedd ecclesia. Benthyg y gair hwnnw a wnaeth y Cristnogion cynnar er mwyn disgrifio'u dyfodiad at ei gilydd yn enw lesu. Ni ellir gor-bwysleisio gwerth y 'dod ynghyd' hwn ym mywyd y Cristion: yn rhinwedd ei berthynas â'r gymuned Gristnogol y mae'r Cristion yn aros ac yn tyfu 'yng Nghrist'. Dyna pam y cyfeirir droeon at 'y saint' yn y Testament Newydd, ond byth at 'sant' yn yr unigol. Ystyr y term 'saint' yn y Testament Newydd yw pobl yr Arglwydd IIe bynnag y bônt: dim mwy a dim lIai! Petawn yn chwilio am ddigwyddiad yn y Testament Newydd sy'n pwysleisio gwerth yr eglwys yng ngolwg lesu byddwn yn troi at hanes tröedigaeth Saul o Darsus. Pan ddaeth y Crist atgyfodedig i'w gyfarfod ar ffordd Damascus, ei gwestiwn iddo oedd, 'Pam yr wyt yn fy erlid i?' Yn awr, does yna ddim sôn bod Saul wedi cyfarfod ag lesu ei hun, felly a bod yn fanwl gywir ni allai fod wedi ei erlid. Erlid yr eglwys a wnaeth Saul, wrth gwrs, felly dweud a wnaeth lesu bod y sawl sy'n erlid ei eglwys yn ei erlid ef ei hun. Dyna ddangos meddwl mor uchel sydd ganddo o'i eglwys: ei gorff yn y byd ydyw; parhad o'i ymgnawdoliad. El FFAELEDDAU Hyd yma mae hyn yn swnio'n ganmoladwy iawn, ond beth bynnag arall yw'r eglwys, mae'n gymdeithas ddynol gyda llawer o ffaeleddau amlwg. Oherwydd hynny, mae'n rhaid iddi gael ei diwygio'n barhaus. Nid corff sefydlog, statig mohoni. Dywedodd John Henry Newman fod 'bywyn golygu newid, ac ystyr perffeithrwydd yw newid yn amf. Os ydym yn sefyll yn ffordd newid yna nid ydym yn ffyddlon i Grist, dim ond i'r pethau hynny sy'n rhoi cysur a sefydlogrwydd i ni. Dywedodd lesu fod y 'gwynt yn chwythu lle y myn'. Nid ni sydd i benderfynu ar ffurf na chyfeiriad yr eglwys heddiw nac yfory, ond lesu ei hun. Camgymeriad a wnawn yn aml yw cymharu sefyllfa'r eglwys heddiw a'r hyn ydoedd mewn rhyw gyfnod yn ei gorffennol. Yn wir, rydym byth a beunydd yn ein cystwyo'n hunain wrth wneud hynny, gan deimlo'n bod rywsut wedi gadael ein Harglwydd i lawr. Mae'n werth dyfynnu ychydig o waith hanesydd eglwysig o'r enw Gavin White, awdur The Mother Church your Mother never Told you About a How the Churches got to be the Way theyare: dwy gyfrol ogleisiol, lle mae'n ysgrifennu heb flewyn ar dafod. 'lfwe are not living in a golden age today, we did not come from one either. 'ln the history of the church the old may suddenly become the new, and the new may suddenly become the old. What seemed to be permanent often fades away, and what seemed to have faded is there after all. The church is pushed this way and that by waves and by winds, and yet it never quite goes on the rocks'. Mewn gair, cymdeithas yrArglwydd lesu ei hun yw'r eglwys: bydd ef yn ei harddel ac ef fydd yn ei harwain, a rhaid i ni fod yn ddigon ufudd a hyblyg i'w ddilyn. CWESTIYNAU SYLFAENOL Cwestiwn a ofynnir yn aml y dyddiau hyn mewn cylchoedd diwinyddol yw 'Sut mae bod yn eglwys yn y byd heddiw?' Hynny yw, sut fedrwn ni ymateb i'r her o fod yn gorff Crist ac yn barhad o'r ymgnawdoliad mewn cyd destun sydd mor ddieithr a gwahanol i lawer ohonom? Neu sut fedrwn ni fod yn ufudd i alwad Crist heb edrych yn ôl yn barhaus? Yn awr, mae'n gwestiwn teg am ei fod yn mynd a ni at hanfod natur yr eglwys: i beth mae'n dda mwyach? Os ydym am barhau i wasanaethu Crist yn y byd trwy gyfrwng