Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Israel a Phalestina Adroddiad gan John Butler o ymweliad gan y Gaplaniaeth Anglicanaidd, Prifysgol Cymru, Bangor: Hydref 17-26, 2002 Teithiodd ein grwp gyda chwmni teithio o Balestina (ATG www.Data.ora) Mae'r Palestiniaid yn awyddus i ni fynd ymweld â nhw rhag iddyn nhw gael eu hanghofio ac er mwyn i'w stori gael ei hadrodd. Dechreuodd y daith ym Methlehem lle mae rheolfa byddin Israel ar y ffordd gymerwyd gan y Doethion yn rhwystro neb rhag mynd i mewn ac allan heb ganiatâd prin. Y diwrnod cyn i ni gyrraedd caewyd y groesfan yn llwyr. Roedd ein tywysydd yn dyheu am gael mynd i'r mannau sanctaidd ond er nad oedd Jerwsalem ond bum milltir dros y bryn fe'i gwaherddir ers deng mlynedd rhag mynd yno. Yn y Brifysgol fe gwrddon ni â myfyrwyr oedd yn cofio'r gwarchae diweddar ar Eglwys y Geni lle saethwyd y clochydd diniwed yn farw wrth iddo ddringo'r grisiau i gell y gloch yn ôl ei arfer ers blynyddoedd. Ni ellid cael at ei gorff am ddyddiau. "Mae fy chwaer fenga yn ofni mynd i'r ystafell molchi ar ei phen ei hun rwan. Swn saethu gynnau oedd ein cerddoriaeth ni", meddai un myfyriwr. Yn ddiweddar lladdwyd Palestiniad gan fyddin Israel drwy ddyfais wedi ei rheoli o bell osodwyd mewn bwth ffôn. "Felly, ddylen ni symud y ddau giosg sydd ar y campws?", gofynnodd y Dirprwy Gyfarwyddwr. Chwalwyd y gwydrau lliw yng nghapel y Brifysgol lawer gwaith. Mae'r ddelw o'r Forwyn Fair sydd uwchben yr ysbyty yn llawn tyllau bwledi. Mae twristiaeth wedi darfod. Ond pethau bychain yw'r rhain o'u cymharu â'r trueni gormesol, y creulonder a'r anwybyddu ar iawnderau dynol sy'n wynebu'r Palestiniaid ddydd ar ôl dydd. Aethom i siarad â chynrychiolwyr Canolfan Wybodaeth Israel ar lawnderau Dynol yn Nhiroedd y Meddiant, 'B'tselem, yn Jerwsalem (www.btselem.org). Cofnodwyd yn fanwl dystiolaeth milwyr Israel a Phalestiniaid. Mewn ymateb i don o ymosodiadau hunanleiddiol yn gynharach eleni dioddefodd holl boblogaeth y Lan Orllewinol. "Lladdwyd dwsinau o Balestiniaid, anafwyd cannoedd, cadwyd miloedd yn gaeth, a charcharwyd cannoedd o filoedd yn eu cartrefi heb na bwyd na diod.Lladdwyd ugeiniau o ddinasyddion preifat, gan gynnwys llawer oedd dan oed." Mae'r mudiad yn tystio i saethu bwriadol at ddinasyddion di-arfau gyda bwledi byw, chwalu tai, poenydio, rhwystro triniaeth feddygol a cham-drin. Bu inni ymweld â chartref Lutheraidd i blant amddifad, yn Gristnogion a Mwslemiaid. Does gan rai ohonyn nhw ddim rhieni o gwbl. Eleni roedd 200 o geisiadau ar gyfer 47 lle. Derbynnir y rhai sydd mewn mwyaf o angen, ond does neb yno o Gaza gan fod yr Israeliaid yn eu rhwystro rhag dod. Ac ni chaniateir i neb o'r tu allan i Gaza, yr ardal fwyaf trwchus ei phoblogaeth yn y byd, fynd i chwilio amdanyn nhw. A hwythau wedi eu trawmateiddio, mae ar y plant hyn angen llawer o help proffesiynol. Pan gymerodd y milwyr y tŵr trosodd cadwyd y plant mewn un ystafell am 48 awr. Yn Gaza aethom i weld ysbyty Arab Anglicanaidd Ahli. Weithiau does yno ddim ocsigen, dro arall dim anesthetig. "Dyw ysbyty heb ocsigen ddim yn ysbyty", meddai'r Cyfarwyddwr. Delir y staff wrth y rheolfeydd am 3 i 4 awr ar y tro. Mae moddion yn cymryd 6 mis i ddod o lorddonen. Mae problem cael trwydded ar gyfer y staff. Mae'n anodd cael gafael ar beirianwyr i drwsio offer hynafol. Rhwystrau bwriadol yw'r diffygion annynol hyn. Bob dydd lleddir gweithredwyr a cheir bomio yn rhywle. Rhaid i'r ysbyty fod yn barod ac yn weithredol bob amser. Mae 30% o gleifion sydd angen ffisiotherapi yn dioddef effeithiau cael eu clwyfo gan fwledi. Mae 1,200,000o bobl yn byw yma, yn cynnwys 800,000 o ffoaduriaid, mae 80% ohonyn nhw yn byw o dan y ffin dlodi, mae diweithdra yn 65% ac yng ngwersyll ffoaduriaid Beach, yr ymwelsom ag o, mae 70,000 mewn hanner cilomedr sgwâr. Israel yw'r bumed gryfaf o wledydd y byd. Daeth y rhan fwyaf o'r mewnfudwyr o'r Unol Daleithiau, ac mae rhai ohonyn nhw'n benboeth ideolegol, yn benderfynol o feddiannu ar gyfer Israel bob modfedd sgwâr o'r tiroedd a feddiannwyd yn anghyfreithlon. Yn Hebron, lle lladdodd Baruch Goldstein 29 o Fwslemiaid oedd yn addoli yn y mosg yn 1994 mae un o'r treflannau mwyaf mileinig yn union yng nghanol y ddinas Arabaidd, wedi ei gwarchod gan safle milwrol anferth. Yma cyfarfuom â thîm Cristnogion dros Heddwch (www.cpt.org ) Fe'u hysbrydolir gan y traddodiad Mennonaidd a'r Bregeth ar y Mynydd, gan ddyheu am gyfiawnder.