Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EGLWYS UNEDIG GYMRAEG LLANDUDNO Dechrau'r Daith gan John Lewis Jones Bras gamu ymlaen tuag at uno fu'n hanes fel eglwysi Cymraeg Llandudno yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac, ar gais y golygydd, fe geisiaf nodi'r prif ddigwyddiadau ar y daith a'u harwyddocâd i ni heddiw. I wneud hynny, mae'n rhaid mynd yn ôl i fis Mehefin yn 1996 pan benderfynwyd yng Nghyngor Eglwysi Rhyddion Llandudno gyflwyno argymhelliad i'r eglwysi i symud ymlaen i sefydlu Eglwys Gyd-enwadol Gymraeg yn y dref erbyn y Sul cyntaf ym mis lonawr 2000. Ymateb yr eglwysi Yn fuan, wedi argymhelliad Cyngor Eglwysi Rhyddion Llandudno, daeth yn amlwg fod nifer dda o'r aelodau o'r pedwar enwad yn cynhesu tuag at uno, a phasiwyd yn y pedair Eglwys ein bod yn cael trafodaethau pellach. Ffrwyth y cyfan oedd penderfynu mynd i bleidlais. Dull y bleidlais Cafwyd trafodaeth lawn ar y dull o bleidleisio, a phenderfynwyd mai'r cynulleidfaoedd yn bresennol ar Sul arbennig fyddai yn pleidleisio. Penderfynwyd i'r pedair Eglwys bleidleisio yn eu capeli eu hunain yn oedfa'r bore, arSul Ebrill 5ed 1998, ac i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi noson drannoeth mewn cyfarfod defosiynol. Cafwyd trafodaeth hefyd ynglŷn â'r gwahanol ganlyniadau posibl i'r bleidlais, a phenderfynwyd symud ymlaen i sefydlu Eglwys gyd-enwadol yn Llandudno, hyd yn oed pe byddai ond dwy Eglwys yn fodlon cyd-weithio ar y cynllun. Mynegwyd y gobaith, fodd bynnag, y byddai'r pedair Eglwys o blaid uno. Canlyniad y bleidlais Daeth cynulleidfa gref ynghyd i festri Ebeneser, Llandudno, nos Lun, Ebrill 6ed, 1998. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parchedig Idwal Wynne Jones, a chyhoeddwyd fod tair Eglwys o enwadau gwahanol, sef Seilo, DeganwyAvenue, ac Ebeneserwedi penderfynu o blaid uno i sefydlu Eglwys Gyd-enwadol Gymraeg. Roedd canran y rhai a bleidleisiodd o blaid yn y tair Eglwys yn uchel iawn, ac yn arwydd pen- dant o ddymuniad yr aelodau i uno yn un gynulleidfa erbyn y Sul cyntaf yn 2000. Yn gymysg â llawenydd canlyniad y bleidlais, roedd ymdeimlad o dristwch pan gyhoeddwyd nad oedd aelodau Eglwys y Tabernacl yn gweld y ffordd yn glir i ymuno yn y symudiad pwysig hwn. Mae'n dda dweud fod y Bedyddwyrwedi ail feddwl, a'u bod bellach yn rhan bwysig o'r symudiad hwn. Pwyllgor Uno Yn dilyn canlyniad y bleidlais, aed ati i ffurfio 'Pwyllgor Uno', a phenderfynwyd cael tri chynrychiolydd o bob Eglwys ynghÿd â'r gweinidogion. Yn fuan iawn, yn wyneb y ffaith fod y rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn ddynion, penderfynwyd fod rhaid cael un chwaer o leiaf i gynrychioli pob Eglwys. Y mae aelodau'r 'Pwyllgor Uno' wedi cynnal nifer fawr o gyfarfodydd, ac y maent wedi dysgu llawer am ei gilydd, a'r modd i symud ymlaen gyda'r gwaith. Ymhlith nifer o benderfyniadau a wnaed oedd y rhai canlynol: (1) Y pedair eglwys i gyd-addoli'n gyson o lonawr 2000 ymlaen, ond i gadw eu hunaniaeth am y tro. Y nod, fodd bynnag, yw ymdoddi a sefydlu Eglwys Unedig Gymraeg yn Llandudno. (2) Y pedair eglwys i gael gwasanaeth pensaer i wneud archwiliad o'r adeiladau a pharatoi adroddiadau ar eu cyflwr. Y mae'r dasg o benderfynu pa adeilad sydd fwyaf addas yn anodd, gan nad oes un o'r capeli yn rhagori yn amlwg ar y lleill. Fodd bynnag, y mae dwy fantais yn perthyn i eglwysi Llandudno, sef bod y rhan fwyaf o'r aelodau yn 'bobl ddwad', ac nad oes mynwent ynghlwm wrth unrhyw un o'r capeli, dwy ffaith sy'n llacio gafael yr aelodau ar yraelodau. Ond y mae anawsterau wedi arafu ein penderfyniad ynglýn â pha gapel i gartrefu ynddo. Dyw'r ffaith fod dau o'r capeli ar lês gan ystad Arglwydd Mostyn, a hefyd wedi eu cofrestru fel adeiladau hynafol i'w cadw fel ag y maent dim yn hwyluso pethau Y mae anawsterau eraill hefyd wedi codi, ond yr ydym yn benderfynol mai anawsterau i'w goresgyn ydynt. Nid oes synnwyr yn y tymor hir mewn cadw pedwar adeilad a'u defnyddio ond am dri mis yn unig yn ystod y flwyddyn. Credwn yn Llandudno fod y cyfarfod yn bwysicach na'r man cyfarfod. Nid adeilad yw Eglwys. Nid enwad yw Eglwys, ac nid ni biau'r Eglwys. Pobl yn credu yn yr Arglwydd lesu Grist sy'n gwneud Eglwys ac nid brics a cherrig.Y mae'r uniad rhyngom fel eglwysi yn bwysicach nag adeiladau, ac y mae'n rhaid penderfynu ar un adeilad yn fuan. Dyma'r nod yr ydym ar fin ei gyrraedd! (3) Y pedair eglwys i gynnal holl gyfarfodydd wythnosol gyda'i gilydd. Y mae hyn wedi digwydd bellach ers tair blynedd, ac nid