Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EHANGA' AARYD ♦ EHANGA' MRYD Pwy yw fy nghymydog? ymladd HIV/AIDS yn Brasil Seiliwyd yr erthygl hon ar erthygl wreiddiol gan Judith Escribano, Adran America Ladin, Cymorth Cristnogol. "Os hoeliwn ein llygaid ar y man lle mae cwrs y byd ar ei fan isaf, lle mae ei wacter mor amlwg, lle mae ei riddfan fwyaf chwerw yno down wyneb yn wyneb â lesu Grist" (Karl Barth, Yr Epistol at y Rhufeiniaid) Yn Brasil y mae mwy na 222,000 0 bobl wedi eu cofrestru fel rhai sydd yn byw gyda HIV/AIDS. Fodd bynnag, y mae llawer yn credu fod y gwir ffigwr lawer yn uwch. Mae un archwiliad yn awgrymu y gallai cynifer ag un miliwn o'r boblogaeth o 170 miliwn fod yn HIV positif, neu yn byw gydag afiechyd cysylltiedig ag AIDS. Mae bron i hanner y rhai sydd wedi eu cofrestru yn wragedd. Ac o'r gwragedd hynny cafodd 82 y cant eu heintio gan eu partneriaid. Mae'r ystadegau yn arswydus, ond y mae gobaith. Drwy gyfuniad o addysg, ymgyrchu a lobïo gan asiantaethau, ynghyd â pholisïau iechyd goleuedig gan y llywodraeth, gwelwyd gwelliannau sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Hanerwyd nifer y rhai sy'n marw o HIV/AIDs a gwelwyd gostyngiad o 80 y cant yn nifer y bobl sy'n gorfod aros mewn ysbytai am driniaeth. Camu'n Ddewr Un o'r rhesymau pam y mae'r rhagolygon yn gwella i'r rhai sy'n byw gyda HIV/AIDS yn Brasil yw bod cyffuriau rhatach neu am ddim ar gael yn nawr. Ar un adeg roedd y cyffuriau yma cyffuriau gwrth ôl-firol (anti-retrovirol)- yn cael eu cynhyrchu gan fonopoli o gwmnïau fferyllol yn yr Unol Daleithiau; roedd y cwmnïau yma yn rheoli prisiau'r cyffuriau ac yn eu cadw yn afresymol o uchel. Ni fedrai llawer o lywodraethau'r gwledydd llai datblygedig fforddio talu'r prisiau uchel. Cymerodd llywodraeth Brasil gam dewr wrth roi caniatâd i gwmnïau fferyllol brodorol gynhyrchu cyffuriau gwrth ôl-firol eu hunain a fyddai lawer yn rhatach na'r rhai o'r Unol Daleithiau. Syrthiodd cost cynhyrchu a dosbarthu'r cyffuriau rhwng 64% a 95%. Heriodd y cwmnïau mawr hawl Brasil i wneud hyn gan ddwyn achos yn eu herbyn yn y Sefydliad Masnach Byd- eang (WTO). Meddai Marijane Santos Nascimiento, sy'n gweithio i'r mudiad Gapa-Bahia yng ngogledd-ddwyrain Brasil: 'Dwi ddim yn gwybod llawer am rôl y WTO yn y drafodaeth ar gyffuriau, ond mae'r hyn rwyf yn ei wybod yn eithaf syml heb yr hawl i gynhyrchu'r cyffuriau yma, fyddai'r nifer sy'n marw yn ddiangen yn cynyddu yn sylweddol. Os mai prin fforddio'r cyffuriau y medrwn ni yn awr ac weithiau, gan Jeff Williams hyd yn oed yn awr, dydyn ni ddim yn medru gwneud dychmygwch y sefyllfa pe bai'r cyffuriau'n ddrutach. Mae gyda ni hawl moesol i'w cynhyrchu, does dim dadl! Mae'r hawl i fywyd yn gwbl sylfaenol. Rym ni'n ennill yn nhermau bywyd, mae'rcwmni'au'n colli yn nhermau arian. Ond does bosib nad yw'n hawl ni i fyw yn bwysicach na'u hawl nhw i wneud arian.' Mewn canlyniad i ymgyrch rymus a drefnwyd gan Gapa- Bahia, a grwpiau eraill gan gynnwys CESE (mudiad ecwmenaidd Brasil), nid aethpwyd ymlaen â'r achos yn erbyn Brasil. Yn y tair blynedd ers 1996, pan ddechreuodd llywodraeth Brasil ddosbarthu cyffuriau gwrth ôl-firol am ddim, gwelwyd graddfa cynnydd AIDS yn aros ar 22,000 achos newydd y flwyddyn. Yn y flwyddyn 2000 disgynnodd nifer yr achosion newydd i 15,000. Erbyn 2001 roedd y llywodraeth yn dosbarthu'r cyffuriau am ddim i 110,000 o bobl sydd wedi eu cofrestru yn HIV positif. Rhagolygon Gwell Mae'r rhagolygon yn gwella i genhedloedd eraill sydd â lefelau uchel o HIV/AIDS ac sydd yn ei chael hi'n anodd, neu yn amhosibl, prynu'r cyffuriau drud a gynhyrchwyd gan y cwmnïau mawr rhyngwladol. Mae pedair o Iywodraethau Affrica eisoes wedi arwyddo cytundebau gyda Brasil i gael y cyffuriau rhatach, a chwe llywodraeth arall yn cynnal trafodaethau. Mae Marijane Santos Nascimiento yn addysgwraig gymunedol gyda Gapa-Bahia. Byddyn mynd i'r ganolfan gymuned leol i ddweud wrth bobl am bynciau iechyd gan gynnwys HIY/AIDS