Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EHANGA' MRYD ♦ EHANGA' MRYD Un o nifer o fudiadau sydd yn gweithio ar HIV/AIDS yn Brasil yw Gapa-Bahia ac mae'n cael ei gefnogi gan Cymorth Cristnogol. Mae Gapa-Bahia yn gweithio gyda phobl sy'n HIV positif a'r rhai sydd wedi datblygu afiechydon cysylltiedig ag AIDS; ond efallai mai ei waith pwysicaf yw'r gwaith a wna yn y cymunedau ymhlith pobl nad ydynt yn byw gyda HIV/AIDS. Drwy ei waith addysgiadol sydd yn cynnwys cynhyrchu rhaglenni radio a deunydd ysgrifenedig mae Gapa-Bahia yn gobeithio atal eraill rhag cael eu heintio. Mae Gapa-Bahia yn cynnig cyngor a seicotherapi i bobl sydd wedi eu heffeithio mewn unrhyw ffordd gan HIV/AIDS. Mae'n rhedeg gweithdai ar bynciau meddygol, cyfreithiol, hawliau dynol a gwybodaeth ar fyw gyda HIV/AIDS a'r cyfan yn anelu atfeithrin hunan-barch a pharch tuag ateraill. Mae'r mudiad hefyd yn darparu gofal ac addysg yn y cartref i gleifion a'u teuluoedd. Mae pobl fel Marijane yn cael eu hyfforddi i godi ymwybyddiaeth yn eu cymdogaethau eu hunain. Ysbrydolwyd Marijane i weithio i Gapa-Bahia pan fu cyfaill iddi farw o AIDS. Roedd hi wedi gofalu am ei chyfaill drwy ei hafiechyd, ond sylwodd bod pobl eraill yn ei gwrthod. Roedd Marijane yn benderfynol o ddysgu mwy am y firws a rhannu'r hyn a ddysgodd yn ei chymdogaeth. Meddai Marijane, 'Roedd hi'n bwysig i fi mod i'n aros yn fy nghymdogaeth a derbyn hyfforddiant yn yr hyn sy'n ymarferol ac yn berthnasol i'r gymuned. rhaid oedd bod yn gymydog da.' Mae Gapa-Bahiayn credu ei bodyn bwysig i bobl ifanc ymestyn allan at bobl ifanc eraill a throsglwyddo neges ddifrifol mewn ffordd ysgafn enillgar. Mae Fabiane dos Santos Costa yn paratoi i berfformio mewn drama addysgiadol am HW/AIDS. Mae wedi gwisgofelfirws HIV i godi ofn ar y gynulleidfa! Mae Marijane yn dysgu ei chymdogion am HIV/AIDS yn y ganolfan wybodaeth a sefydlwyd gan Gapa-Bahia. Mae hi hefyd yn cyflwyno addysg rhyw i bobl ifanc ac yn cydlynu grwp theatr. Mae'r grwp yn perfformio ar y stryd ac mewn eglwysi lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth pobl o HIV/AIDS. 'Rwy'n mwynhau pob agwedd o'rgwaith', meddai Marijane, 'yn arbennig y cyfle i rannu gwybodaeth i blant a phobl ifanc. Ac ystyried y broblem yn y rhan hon o Brasil gyda HIV/ AIDS, mae gwybodaeth yn gyfystyr â bywyd. Drwy godi ymwybyddiaeth rydych chi'n cyflwyno gwybodaeth ac mi fedrwch chi weld pobl yn dysgu, yn deffro i fywyd, ac mae nhw'n dechrau dweud, "Nid problem fy nghymydog yn unig mo hyn, ond fy mhroblem i hefyd" Onid oes her i ni fel Cristnogion ac Eglwysi yng Nghymru i ymateb yn yr un ffordd â Marijane? Fe ddywedir wrthym gan yr elusennau sy'n ymwneud â HIV/AIDS yng Nghymru bod perygl i ni fod yn rhy ddiystyriol o fygythiad HIV/AIDS, gan nad ydym yn ei weld yn amlwg yn ein bywyd beunyddiol. Ond mae'r perygl yn bodoli, a'r unig ffordd o'i oresgyn yw trwy wneud yr un peth ag y mae Gapa-Bahia yn ei wneud sef addysgu ein hunain a'n cymunedau mai nid problem i eraill yw hon, ond problem sydd yn gyfrifoldeb arnom ni i gyd. Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen Pontrhydfendigaid 2003 "Pan rodiwyf ddaear Ystrad Fflur O'm dolur ymdawelaf" T.G.J. yn Neuadd Pantyfedwen DYDD GWENER, MAI 2 DYDD SADWRN, MAI3 DYDD LLUN GWYL CALAN MAI MAI 5 Hefyd Gwyl Ddrama'r Eisteddfodau Mai 23/24 Manylion pellach oddi wrth yr Ysgrifenyddion Cyffredinol: Selwyn a Neli Jones, Glanrhyd, Maesydderwen, Pontrhydfendigaid, Ystrad Meurig, Ceredigion SY25 6EU Rhif ffôn: 01974 831695