Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'AT IWS Y BOBOL' uMae mam ishio gwely wensgod a'r wraig ishio gwely haearn; tor y ddadl yn t9 ni os gweli'n dda, edrach gawn ni gysgu mewn heddwch, pa wely bynnag y bo". Dyna, meddai Ifan Gruffydd yn ei gyfrol Gwro Baradwys, oedd gweddi daer un o ffyddloniaid Caersalem, capel dan gesail Mynydd Bodafon, ym mherfeddion Môn rhywbryd yn nau- ddegau'rganrif ddiwethaf. Noson Seiat oedd hi, gyda'r brawd ymbilgar yn annog y Bod Mawr i estyn cymorth iddo ac yntau mewn cyfyng-gyngor ddigon enbyd. Roedd o wedi priodi yn ddiweddar a chynnen ffyrnig wedi codi rhwng ei wraig a'i fam, ynglŷn â phrynu dodrefn ar gyfer y cartref newydd. Lle gwell na'r Seiat i ddod â phroblem o'r fath, meddai Gruffydd a hynny medda fo, yn arferiad ddigon cyffredin bryd hynny. Mewn iaith sy'n taro dyn yn hynod hen ffasiwn erbyn hyn, mae Gruffydd yn dweud yn ddigon naturiol "y deuai rhai â'u problemau teuluol a chymdeithasol i'r seiat a'r cyfarfod gweddi a gwneud cyffes deg wrth Orsedd Gras" Dim Sentiment Mae na bron i ddeugain mlynedd ers i'r Gŵro Baradwys weld golau dydd am y tro cyntaf: honno'n bortread byw a chynnes o fywyd yng nghornel Môn yn y blynyddoedd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y gyfrol yn darllen fel chwa o awyr iach pan gafodd ei chyhoeddi a'r hyn sy'n fwyaf trawiadol, hyd yn oed rwan, yw'r gonestrwydd a'r diffyg sentiment sydd yn y disgrifiad o'r oes a fu. Nid fod yr amgylchiadau byw 'roedd Ifan Colofn Stevenson Gruffudd yn ei disgrifio, yn unigryw. Roedd bywyd yn ddigon tebyg mewn sawl ardal arall heblaw am Fôn. Yn wir gall Ifan Gruffydd fod yn disgrifio llawer o ardaloedd gwledig eraill ledled gwledydd Prydain bryd hynny. Caledi a thlodi, diffyg cyfle a diffyg chwarae teg i weithwyr cyffredin a'u teulu: dyna rai o nodweddion yr oes a'r gymdeithas hon. Cymdeithas lle roedd y diciâu yn rhemp; adnoddau mamolaeth yn brin iawn gyda sawl baban bychan yn marw oherwydd diffyg maeth a moddion priodol. Dyma fyd y caru yn y gwely rhwng cyplau dibriod a lle roedd llawer o ferched oedd yn beichiogi'r tu allan i briodas yn cael eu hanfon i Ysbyty Gogledd Cymru, yr hen Seilam, yn Ninbych a'u cadw yno am flynyddoedd maith. Mae'r Gŵr o Baradwys yn rhoi cipolwg o gornel cymharol fychan o Fôn mewn cyfnod lle roedd ymgyrch ddygn ymlaen i drefnu gweision fferm a gweithwyr eraill o fewn Undeb Lafur. Methiant yn y pendraw oedd ceisio sefydlu Undeb Gweithwyr Môn yn nau ddegau'r ganrif ddiwethaf a does dim rhyfedd o gofio gelyniaeth chwerw'r sefydliadau crefyddol i fenter o'r fath. Dyma'r cyfnod lle oedd gair y stiward a'r man swyddogion eraill oedd yn gweithredu ar warant y plastai mawr yn ddeddf a lle 'roedd y ffermwr cefnog yn cymryd ei Ie, bron fel rhan o drefn rhagluniaeth ei hun, fel blaenor yn y Sêt Fawr. Pe bai modd codi to dros Sir Fôn, meddai rhyw wag neu'i gilydd, yna mi fyddai'r Ynys yn gapel Methodus enfawr. Y gyfrinach o geisio deall y gymdeithas roedd Ifan Gruffydd yn ei disgrifio mor fyw a chywrain yw cofio fod hon yn gymdeithas lle roedd John capelyddiaeth yn ei anterth ac yn llawer mwy na defod ar gyfer Sul a dillad parch. Sawl tro yn y Gymru sydd ohoni, mae athronwyr a diwinyddion (os oes na ddiwinyddion gwerth eu halen yng Nghymru heddiw, heblaw am y gwr sydd arfin cael ei gadeirio'n Archesgob Caergaint) wedi ceisio diffinio a chloriannu tranc y traddodiad capelyddol hwnnw yng Nghymru. Bod yn berthnasol Mae gen gwestiwn mae'n RHAID i mi ei ofyn! Pa mor amal, mewn Sasiwn ac Undeb, cwrdd dosbarth a chwrdd chwarter, mae'n harweinwyr enwadol wedi cynnig rhywbeth amgenach a mwy beiddgar na'r un hen ystrydebau blinedig i'r hyn y galwodd J.R.Jones flynyddoedd yn ôl, yn "argyfwng gwacter ysytyr". Ymadrodd academaidd crand ydi hynny am y ffenomena honno lle mae pobol yn methu deall geiriau, cenadwri ac ystyr y grefydd mae'r cyfundrefnau yn gynnig iddyn nhw ac yn bwysicach na methu deall, lle mae pobol wedi colli pob diddordeb mewn ceisio deall. Dwi'n perthyn i'r genhedlaeth honno o'r chwedegau gafodd eu magu ar "ddulliau newydd o gyflwyno'r Gair i'r to ifanc". Pwy, o'r sawl ohonom gafodd ein magu yn y cyfnod hwnnw, all fyth anghofio gwingo mewn embaras pur o gofio rhyw 'Gymanfa Ieuenctid' mewn festri rhynllyd, gyda chriw o gywion gweinidogaethol blewog yn y sedd fawr yn ceisio cadw consart. Roedd 'na rai yn gallu strymio, ac roedd mentrau o'r fath yn esgor ar gryn hunanfodlonrwydd ymhlith y rhai drefnodd gyfarfodydd o'r fath. Mae'n rhaid cyfaddef, rhagor na chwarter canrif yn ddiweddarach, ein bod ninnau wedi bod yn hynod nawddoglyd ynglŷn ag ymdrechion o'r fath. Ond mi roedd y Beatles yn well ac mi roedd yna lot gwell i'w glywed ar Radio Luxemburg. Pa ddiben strymio'n amaturaidd ac ystrydebol i geisio creu crefydd ffasiwn newydd fyddai'n apelio i'r ifanc (ac i'r sawl ohonom ni sydd heb fod mor ifanc erbyn hyn) heb wneud ymdrech i geisio dadansoddi ac ail