Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddarganfod y gwirionedd y tu mewn i'r plisgyn o gwmpas y genadwri graidd. Mae canu am y Duw "i fyny fanna" gyda gitâr yr un mor amherthnasol yn y byd sydd ohoni a chanu'r un geiriau dan gyfeiliant harmoniwm yn nullyroeso'rblaen. Peidied neb â meddwl am funud mod i'n dibrisio crefydd ac angerdd y profiad ysbrydol feddiannodd y gwroniaid blannodd hen grefydd Ymneilltuol y Bedyddwyra'rAnnibynwyryng Nghymru na chwaith ymroddiad y rhai sefydlodd yr enwadau mwy diweddar fel y Presbyteriaid a'rWesleaid. Yr hyn dwi'n geisio ei wneud yw annog ymdrech i geisio darganfod a dehongli gwirionedd, fel y gwnaeth pobol yn y canrifoedd o'n blaen, sy'n berthnasol i ni yn y byd a'r amgylchiadau rŷm ni'n byw ynddyn nhw heddiw. CYFLE ARALL? Blwyddyn newydd dda i ddarllenwyr Cristion a diolch am eich cefnogaeth i'r cylchgrawn hwn yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Ar wahan i'r ffaith i mi gael fy mhenodi'n olygydd mae'n debyg y bydd haneswyr y byd crefyddol yng Nghymru yn cofio am y flwyddyn 2002 fel y flwyddyn yr aeth ymgais arall i uno yrenwadau i'rgwynt. Clywais sôn mai ar yr hen Annibynwyr hynny 'roedd y bai.Ond er tegwch i'm cyfeillion annibynnol mae gennyf ryw deimlad ym mêr fy esgyrn mai dal her 'roedd y gweddill, a neidio o'r cwch cyn ei rhwyfo i'r Ian fyddai eu hanes hwythau yn hwyr neu hwyrach. Erfod gwir awydd ymhlith rhai aelodau'r enwadau i wireddu'r Roedd y diweddar Walter John, un o gewri'r Bedyddwyr Cymraeg, yn hoff o ddweud stori amdano'n mynd i bregethu i gapel bychan yng ngefn gwlad Gorllewin Cymru. Yn wahanol iawn i'r gynulleidfa luosog oedd yn arfer dod i wrando arno yng nghapel y Bedyddwyr Cymraeg yn Castle Street, Llundain, prin ddyrnaid oedd yno i wrando. Ond yr hyn oedd o'n gofio am yr ymweliad, medda fo, oedd y plac ar flaen yr addoldy. Neges syml y garreg nadd oedd fod hwn yn adeilad crefyddol wedi ei godi "at iws y bobl". Cred angerddol y diweddar Eirwyn Morgan oedd mai un o briodoleddau amlycaf a mwyaf gwerthfawr y Bedyddwyr Cymraeg oedd 'cynhesrwydd cymdeithas'. Yr hyn 'dwi'n geisio'i ddarlunio wrth ddyfynnu dau o'r cewri Bedyddiedig yw tanlinellu gwers anfwriadol Ifan Gruffydd gyda'r hanesyn am y gweddïwr ymbilgar ym Môn. 'Roedd o'n gofyn o fewn cymdeithas glos ei eglwys leol, am gymorth i cynllun rhaid i ni gyfaddef mai digon claearfu ymateb y mwyafrif llethol. Onid y gwir plaen yw fod mwyafrif o'n heglwysi wedi colli golwg ar eu gwir bwrpas ac yn poeni affliw o ddim byd am yr hyn sy'n digwydd o'u cwmpas. Y nod, rhywfodd rhywsut, yw goroesi. Ai blwyddyn arall o ddal y slac yn dyn yw hi i fod yn ein hanes neu tybed a oes rhyw gyffro yn y gwynt? Yn groes i'r graen ac yn llawn rhagfarnau derbyniais wahoddiad i gyfarfod a drefnwyd gan y "Coalisiwn Cenedlaethol er Efengyleiddio" Diau y daw mwy o fanylion eto i dudalennau CRISTION am y symudiad hwn, ond digon am y tro yw dweud i'r sinig hwn brofi bendith a chwa o awyr iach y prynahwn hwnnw. O gwmpas y bwrdd yr oedd y gymysgfa ryfeddaf o Gristnogion yn cynnwys Cynulliadau Duw(Assemblies of God); Y Pentecostaliaid; Eglwys Rhufain; Y Mudiad Efengylaidd; Yr Eglwys yng Nghymru, cyfeillion o argyhoeddiadau a daliadau diwinyddol cwbl wahanol i'w gilydd, ond yn gyffredin i bawb ohonom oedd yr Un enw. Enw lesu Grist. Y weledigaeth yw eglwys yn ystyried o'r ddatrys problem o'i fywyd pob dydd: cymodi ei fam a'i wraig "fel y cawn ni heddwch, pa wely bynnag y bo". Yng nghymdeithas y Gwr 0 Baradwys, 'roedd crefydd yn dal i fod yn rym nerthol a dylanwadol gyda bysedd oer y sêt fawr a'r cyfarfod blaenoriaid yn dal i fod yn bell, bell gyrhaeddol. Ond yn fwy na dim, roedd hi'n grefydd Iwyddodd i ymdreiddio, fel tamprwydd, i bob twll a chornel o fywyd pob dydd ac oherwydd hynny, i gael ei ystyried fel rhywbeth oedd "at iws y bobol" Mae Ifan Gruffydd wedi'n gadael a'r bywyd mae wedi ei ddisgrifio wedi hen, hen ddiflannu ym Môn fel mewn sawl ardal arall. Tybed a oes modd, o gloriannu'r hyn oedd yn gynsail i'r gymdeithas honno, i'r cyfundrefnau crefyddol ail ddarganfod cenadwri grefyddol sydd yn wirioneddol "at iws y bobol". Ynteu a ydi hi, mewn difri, ar ben argrefydd y cyfundrefnau mawrion a hynny oherwydd rhyw sglerosis sy'n parlysu? newydd ei gwir bwrpas o gyflwyno'r efengyl i bob person yng Nghymru mewn ffordd ddealladwy ac mewn ffordd a fydd yn berthnasol i'w bywyd. Wrth roi sêl ei fendith ar y fenter meddai yrArchesgob Rowan Williams: "Y mae anghenion y genedl yn galw ar yr eglwysi i gydweithio os am wneud unmywwahaniaeth. Cymeradwyafwaith y "Coalisiwn Cenedlaethol er Efengyleiddio" yn eu hymdrech i adeiladu partneriaeth genedlaethol effeithiol argyfer cenhadu. A yw hyn yn gyfle newydd i ni tybed? Yn wyneb y ffaith fod yna ardaloedd cyfain yng Nghymru mewn perygl o droi'n ddi-gapel, di-eglwys ac yn wir di- Grist o fewn ychydig iawn o flynyddoedd, a fodlonwn ni ar fod yn guraduron ar amgueddfeydd y gorffennol yntau a gydweithiwn ni i gynnig yr enw a'r Person all gwrdd ag angen dyfnaf dyn. 'Does neb ond Ef yn y pendraw all greu eglwysi a fydd yn berthnasol ac yn hanfodol i fywyd ein cymunedau? Rwy'n dymuno ac yn gweddïo'n daer am flwyddyn newydd dda i'r dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru.