Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BLWYDDYN YM MYWYD GWEITHWRAIG IEUENCTID A CHYMUNED CYNLLUN EGLWYSI PENMAENMAWR Dechreuodd gweithgareddau Cynllun Eglwysi Penmaenmawr eleni gyda pharti Blwyddyn Newydd Dda yr Ysgol Sul. Yn wahanol i lawer o ysgolion Sul lle cynhelir parti Nadolig, cawn ni ein parti ar ddechrau'rflwyddyn i ail- ddechrau'r tymor gyda 'BANG'! Sefydlwyd Ysgol Sul Gymraeg y Cynllun yn 1999 ac erbyn hyn daw tua phymtheg o blant rhwng 6 a 16 oed at ei gilydd bob bore Sul. Arferai'r Ysgol Sul gyfarfod yng Nghanolfan Maen Alaw, ond erbyn hyn mae gennym gartref newydd mewn ystafell newydd sbon danlli yn Eglwys y Berth. Mae rota o bump o aelodau capeli'r cynllun yn fy nghynorthwyo a chawn amser hwyliog dros ben yn dysgu storïau o'r Beibl, lliwio, gwneud gwaith llaw, chwarae gemau, canu, gwneud posau a mwy! Mae'n waith prysur bod yn aelod o Ysgol Sui Gymraeg Penmaenmawr, oherwydd dair gwaith y flwyddyn Diolchgarwch, Nadolig a Gŵyl Ddewi cynhelir yr hyn a alwn yn wasanaeth yr Ysgol Sul lle gwahoddir aelodau'r pedair eglwys sy'n rhan o'r Cynllun i ymuno â'r Ysgol Sul i foli Duw. Mae'r gwasanaethau hyn yn anffurfiol ac yn hwyliog dros ben gyda'r plant a'r bobl ifanc yn gyfrifol am ran helaeth o'r gwasanaeth gyda help Eric wrth gwrs! (Os am wybod pwy yw Eric, bydd rhaid holi un o aelodau'r Ysgol Sul neu'rcapel. (CLIW: Mae Ericyn FELYN!!) Daethpwyd â thymor yr Ysgol Sul i ben fis Gorffennaf gyda gwasanaeth arbennig undebol yng ngofal y plant a'r bobl ifanc. Roedd yn gyfle hefyd i gyflwyno tystysgrif ac anrheg i'r holl aelodau am eu ffyddlondeb. Edrych Ymlaen Mae rhan helaeth o'm gwaith fel gweithwraig ieuenctid a chymuned yn ymwneud â'r bobl ifanc. Sefydlwyd Clwb Ieuenctid y Cynllun yn Chwefror 2000 ac erbyn hyn mae deg ar hugain wedi eu cofrestru a daw ugain at ei gilydd bob Nos lau rhwng 7 a 8:30. Eleni, am y tro cyntaf bu'r aelodau yn gyfrifol am un o wasanaethau undebol misol y Cynllun. Fel rhan o'r gwasanaeth, cyflwynasant sgets gyda golwg fodern ar ddameg y gweithwyr yn y winllan wedi ei gosod yn ffatri Mike Baldwin o Coronation Street roedd rhaid bod yno i'w gwerthfawrogi! Y bobl ifanc a minnau fu'n gyfrifol am ddewis yr emynau ac nid oedd syndod eu bod yn hollol wahanol i'r emynau sy'n arfer cael eu canu arfore Sul. Er hyn, roedd pawb yn canu a bu i fwyafrif y gynulleidfa fwynhau dysgu emynau newydd. Yn aml, y cam cyntaf i wneud rhywbeth newydd yw'r cam anoddaf, ac wedi cymryd y cam hwnnw gallwn symud yn ein blaen heb edrych yn ôl. Un feirniadaeth yn aml ar gapeli Cymraeg yw ein bod yn rhy ffurfiol ac eithriadau prin yw'r capeli hynny sy'n ymgeisio i amrywio addoliad a rhoi cynnig ar bethau newydd. Ond, os am symud ymlaen a bod yn Eglwys fyw ar ddechrau'r mileniwm newydd hwn, rhaid arbrofi yn ein dulliau o wneud pethau a chynnwys y 'newydd'. Nid yw hyn yn golygu fod gan Mererid Mair rhaid anghofio'n ddoe a'n hetifeddiaeth, ond gall rhoi gormod o bwyslais ar ein gorffennol amharu ar ein cenhadaeth heddiw. Fel ym myd natur, roedd y Gwanwyn yn gyfnod prysur ym Mhenmaenmawr gyda nifer o weithgareddau yn cael eu trefnu argyfer pob oed. Cynhelir gwasanaeth Sul y Blodau undebol rhwng y capeli Cymraeg a'r eglwys Anglicanaidd Gymraeg ers blynyddoedd bellach ac nid oedd eleni yn eithriad. Cymerodd rhai o aelodau'r Ysgol Sul ran yn y gwasanaeth drwy gyflwyno sgets a chân. Roedd cyfnod y Pasg yn gyfnod cyffrous i'r ddwy Eglwys Bresbyteraidd yn y pentref wrth i Eglwysi Jerusalem a'r Glyn uno i ffurfio Eglwys y Berth. Cynhaliwyd y gwasanaeth cyntaf yn yr adeilad ar ei newydd wedd ar Fore'r Groglith, cyn i'r gynulleidfa ymuno ag aelodau holl eglwysi'r pentref argyfer gwasanaeth awyr-agored, dwy-ieithog o flaen y llyfrgell. Bydd un o aelodau'r eglwys Anglicanaidd yn cario croes bren ac yn ei gosod yn ganolbwynt i'r addoliad. Dyma un o ddau wasanaeth awyr agored a drefnir yn y pentref bob blwyddyn fel tystiolaeth weledol i'r gymuned o'n ffydd fel Cristnogion. Cynhelir gwasanaeth Pentecost hefyd i lawr ary promenâd. Mae'r gwasanaeth hwn wastad yn effeithiol oherwydd fod gwynt go gryf i'w gael mor agos i'r môr, a chawn amryw yn holi sut y llwyddom i drefnu'r 'special effects' mor dda!! Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig o ddathliad a diolch am Eglwys y Berth yn niwedd Ebrill. Cafwyd diolch am waith y gorffennol, ond roedd y pwyslais ar y dyfodol a'r gwaith sydd i'w wneud. Mewn cyfnod lle clywir cymaint am gau capeli a mynegi tristwch am ddirywiad a thrai, cafwyd gwefr o deimlo awydd i hoelio'n golygon ar ddyfodol newydd yn hytrach na chanolbwyntio ar broblemau'r gorffennol. Roedd