Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cyfraniad rhai o aelodau'r clwb ieuenctid yn arwydd pendant o bresennol a dyfodol y gellir ei sicrhau os ydym yn barod i weithio a darparu adnoddau ar gyfer y math hwn o waith, fel sydd wedi digwydd ym Mhenmaenmawr. Ehangu Gorwelion Byddwn wastad yn mwynhau derbyn ymwelwyr o wledydd tramor ym Mhenmaenmawr, ac ym Mis Mai cawsom y fraint o groesawu pum gweinidog o Zambia. Paratowyd cinio croeso iddynt yn Eglwys y Berth gan rai o'r aelodau ac yn dilyn y cinio cafwyd cyfarfod gweddi. Cynhelir cyfarfod gweddi misol ers dros ddwy flynedd bellach fel rhan o weithgareddau'r cynllun. Criw bychan ohonom ddaw at ein gilydd ond credwn ei fod yn gyfle pwysig i weddïo dros y cynllun a'r gymuned ac i gamu allan o'n bywydau prysur i dreulio amser tawel gyda'n Duw. Bu'r cyfarfod gweddi gyda'r Zambiaid yn fendith a bu eu cyfraniad yn werthfawr dros ben. Yn aml, wrth i ni weithio yn ein hardaloedd ein hunain o ddydd i ddydd, anghofiwn am y darlun ehangch yr ydym yn rhan ohono. Bu treulio amser yng nghwmni'r pump yn fodd i ddod â ni yn agosach at ein gilydd fel rhan o deulu Duw a'n gwneud yn fwy ymwybodol ein bod yn rhan o Eglwys Fyd-Eang. Roedd y tawelwch a gafwyd yn y Clwb Ieuenctid pan oeddent yn siarad am eu profiadau yn Zambia yn arwydd hefyd o'r mwynhad a gafodd y bobl ifanc o fod yn eu cwmni. Yn ogystal â'r gweithgareddau yr wyf eisoes wedi sôn amdanynt sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Eglwys, mae fy ngwaith ym Mhenmaenmawr hefyd yn golygu cyd-weithio ag asiantau eraill yn y gymuned a cheisio codi pontydd rhwng yr asiantau hyn â'r Eglwys fel y gallwn gyd-weithio yn ehangach yn y gymuned. Un ffordd y gwnaf hyn yw drwy brosiect 'outreach' Cyngor Sir Conwy lle byddaf fi a gweithwraig ieuenctid arall yn cerdded o amgylch y pentref un noson o bob wythnos yn ceisio adeiladu perthynas â rhai o'r bobl ifanc sydd am ryw reswm neu'i gilydd yn cael eu hunain tu allan i'r sustem. Ceisiwn drefnu gweithdai ar eu cyfer neu fynd â hwy ar dripiau er mwyn eu cynorthwyo i ddatblygu fel unigolion. Ceir llawer o bobl ifanc yn ein cymunedau sy'n wynebu problemau cymdeithasol. Yn aml gall y rhesymau drostynt fod mor syml â diffyg cefnogaeth deuluol, neu eu bod wedi profi sefyllfaoedd na fyddai'r un oedolyn yn hoffi gorfod eu hwynebu. Byddai'n hawdd anghofio pobl ifanc o'r fath gan eu labelu fel fandaliaid neu achos pob trafferth. Onid ein dyletswydd fel aelodau Eglwys lesu Grist yw ymestyn allan at bobl ifanc o'r fath drwy gyd- weithio ag arbenigwyr yn y maes fel ein bod yn cael y cyfle fel Eglwys i ddangos cariad Duw mewn ffordd ymarferol? Cydweithio Bu'r haf hefyd yn llawn gweithgareddau amrywiol. Bûm yn gyfrifol am drefnu trip fel trefnydd ieuenctid Cyfundeb Gogledd Arfon, lle'r aeth criw o Benmaenmawr a chlwb ieuenctid AnniMeth, Caernarfon i'r Bala am y diwrnod. Cawsom gemau awyr- agored yn y Coleg yn y bore ac wedi cinio blasus, daeth yr amser i ganwio ar Lyn Tegid. Cafodd pawb amser arbennig (yn enwedig y rhai ohonom gafodd dorheulo ar Ian y llyn drwy'r prynhawn!!) Gweithgaredd arall a drefnwyd gan bwyllgor ieuenctid y Cyfundeb fu diwrnod o weithgaredd yng nghanolfan Maen Alaw. Cafwyd gweithdai cerdd, drama a chelf cyn gorffen gyda gwasanaeth byr. Daeth pobl ifanc o bum ardal wahanol o Gaernarfon i Lanrwst at ei gilydd ac roedd yn gyfle gwych i bawb gael cymysgu a chael hwyl. Fel mewn llawer ardal, roedd yr Haf hefyd yn gyfle i fynd ar dripiau di-ri. Cafwyd trip y clwb ieuenctid i weithgaredd cyffrous a drefnwyd gan Gyngor Ysgolion Sul yng nghanolfan awyr-agored Conwy lle cafwyd adeiladu rafft..a'i hwylio wel y rhai hynny oedd wedi adeiladu yn ddoeth!! Aeth pererindod y capeli i Lerpwl, ymwelodd aelodau yr ysgol Sul â Chaernarfon a'r Hwylfan a'r trip olaf fu ymweliad y bobl ifanc ag Alton Towers IIe aeth pawb (heblaw'r arweinwraig ieuenctid ofnus!) ar bob roller coaster dan haul. Athymor newydd o weithgareddau wedi hen ddechrau, mae fy mywyd, fel bywyd unrhyw weithiwr/wraig ieuenctid neu gymunedol yn ddigon prysur. Uchafbwynt y flwyddyn wrth gwrs yw Drama Nadolig yr Ysgol Sul a Drama Gerdd flynyddol y Clwb Ieuenctid. Talodd eu hymroddiad drwy ymarfer ddwywaith yr wythnos ar ei ganfed, oherwydd fel y ddwy flynedd flaenorol bu'r cyfan yn llwyddiant ysgubol. Tasg gweddol anodd fu crynhoi blwyddyn i'r ychydig eiriau hyn a gallwn fod wedi mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Mae gweithio i Gynllun eglwysi Penmaenmawr yn rhoi mwynhâd a phleser i mi ac mae treulio amser gyda'r plant a'r bobl ifanc yn rhoi gwefr arbennig. Rhaid cofio, fodd bynnag mai un rhan fechan o'r cynllun wyf fi. Heb ymroddiad, brwdfrydedd a chefnogaeth gyson aelodau'r capeli, ni fyddai'n bosibl cyflawni dim. Gweithiwn drwy nerth Duw a gweddïwn yn gyson am arweiniad yn ein gwaith, am ein bod yn cyflawni'r gwaith nid er ein mwyn ein hunain na'n capeli ond er mwyn achos lesu Grist gan gofio geiriau'r Apostol Paul: 'Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.'