Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CROESAIR CRISTION Enw: Cyfeiriad: Noder: Bydd bloc ar gyfer pob symbol. Felly bydd y llythrennau dd, ng, II etc. yn cymryd dau floc. Anwybydder yr hirnod mewn anagram. Cyflwynir tocyn llyfr £ 10 am yr ateb cyflawn cyntaf a dynnir o gelwrn y Golygydd ar 20 lonawr 2003. Anfoner y bloc wedi ei gyflawni at Parch Olaf Davies, Llys Cerdd, Ffordd Crwys, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2NT Enillydd y mis hwn yw: Mr John R Thomas, Rhos, Wrecsam Efallai y buoch yn ceisio dyfalu faint o Gristnogion Cymraeg sydd yn ein gwlad. Efallai y buoch chi'n meddwl mor dda fyddai cwrdd â nhw, a'u nabod a rhannu cymdeithas. Mae'r Gorlanpc ac UCCF (mudiad Undebau Cristnogol y Colegau) wedi cydweithio i drefnu Encil i Gristnogion ifanc dros 17 oed. Penwythnos fydd hwn ar gyfer unrhyw un sy'n dal yn ifanc! Credwn y gallai fod yn gyfnod allweddol iawn, wrth i ni gwrdd i drafod sut y gallwn, fel pobl ifanc, ogoneddu Duw a pharhau'r dystiolaeth Gristnogol i genhedlaeth arall. Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i'r Drenewydd o 7- 9 Chwefror 2002 i fod yn rhan o'r gweithgareddau. Ceir seminarau ar Weddïo Grymus, Efengylu Effeithiol, Cymru a'r Byd, Addoli Heddiw. Y gost fydd £ 25 (i'w dalu ar y penwythnos) Am fwy o wybodaeth cysyllter â mi yn y cyfeiriad isod: Steffan Jones, 2 Ffordd y Llawryf, Pontaman, Rhydaman, SA18 2JS e.bost: bachan_sinsir@hotmail.com AR DRAWS 3. Parodi T Llew Jones ar deitl "caredig" Caradog (2,6,1) 8. Yr hyn a fu yn agored yng Nghartref Bontnewydd (4) 9. Plant hyn sy'n dangos, yn ôl y gair, arwyddion eu hoedran ( 10. Duw dau-wynebog, ac oer yn ôl Eifion Wyn (6) 13. Yr hyn a deimlai Pilat wrth annerch medd Luc (5) 14. Y dioddefwr rhwng Serbiad a Chroatiad (7) 15. Y merched call a ffôl gyda'i gilydd (3) 16. Y Canon sy'n ên i gyd ac yn gyfaill i Archesgob (7) 17. Yr hyn a gymeradwyir ac a waherddir ar gae socer (5) 21. "Sgwâr, afrosgo, trwm" ydynt yn ôl T Rowland Hughes (6 22. Tanchwa dioddefaint yr Iddew (8) 23. Y nerth y tu ôl i Eleri Carrog (4) 24. Symbol ar gyfer heddiw medd Hebreaid 9 (9) I LAWR 1. Lleoedd yn faen y fendith gynt fel maen melin bellach (9) 2. Gwahanu ag awel i nithio'r gwir (9) 4. Dydd nad yw byth yn dod (5) 5. Ar awyr, fel angel a helicopter (7) 6. Olew iachâd (4) 7. Nid yn y'modd lah (4) 11. Y Davies a glywodd sn y gwynt yn chwythu (9) 12. Diwydiant y pleser difyrrus (9) 14. Y ddau fawr, y naill yn Llundain a'r llall yn Lerpwl (3) 15. Tagu fflam nad oedd wedi digwydd yn y deml eto yn ams Eli (7) 18. Gweithredoedd apostolaidd (5) 19. Offeryn iacháu a ddefnyddid gan lesu (4) 20. Lafur newydd, mae ynot yn chwithig un sydd yn llythrenn bron â bod yn yr wrthblaid (4) Atebion Croesair Rhifyn Tachwedd I Rhagfyr AR DRAWS: 3. Cadoediad 8. Euog 9. Actorion 10. Ingrid 13. Islaw 14. Bwndelu 15. Pas 16. Iraciad 17. Dodwy 21. Echdoe 22. Siôn Corn 23. Anab 24. Holl Saint. I LAWR: 1. Dewiniaid 2. Dolgellau 4. Anadl 5. Octopws 6. Dwrn 7. Afon 11. Cerdd Dant 12. Sul y Beibl14. Bad 15. Pandora 18. Menyn 19. Pigo 20. Unol.