Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfnewid Llwyfan am Bulpud? Y Golygydd yn sgwrsio gyda'r Canwr Opera Timothy Richards Rhowch gipolwg i ni ar eich gwreiddiau a'r blynyddoedd cynnar Mae ngwreiddiau i yng Ngwent ond fe'm ganwyd i yn Hwlffordd ac wedyn symudais i Orseinon, Abertawe Yn bum mlwydd oed symudon ni fel teulu i Gwmbran lle treuliais i fy llencyndod i gyd yn mwynhau actio, canu a chwaraeon yn arbennig rygbi. Yn 15 oed chwaraeais i rygbi dros Gymru. Derbyniais fy addysg uwchradd i gyd trwy gyfrwng y Saesneg yng Nghwmbran. A fu'r capel yn rhan bwysig yn eich magwraeth? O'r dechrau, mae'r capel wedi bod yn rhan bwysig o'm bywyd i. Fy nghof cyntaf i yw cwympo i gysgu ar gôl fy nhad pan oedd e'n chwarae'r organ mewn Cymanfa ganu. Pan oeddwn i'n 14 mlwydd oed ces i fy medyddio gan (fy ffrind erbyn hyn) Y Parchedig Alvan Richards Clarke yng nghapel Siloam Cwmbran. Wedyn panbriodaisiSiwan, bron i 12 mlynedd yn ôl, symudais i Gaerdydd a dod yn aelod yn y Tabernacl. Pa bryd y dechreuodd y diddordeb mewn canu? Mor bell â dwi'n gallu cofio dwi wastad wedi eisiau bod yn Ganwr Opera. Fe astudiais yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru ac yng Ngholeg Addysg Uwch Gwent gan ddod yn athro wedi hynny. Ym 1995 enillais Ysgoloriaeth Fynediad ac ysgoloriaeth S4C i Goleg Cerdd Brenhinol Manceinion. Ym 1998 canais fy rôl operatig broffesiynol gyntaf sef Alfredo yn La Traviata gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Ers hynny dwi wedi canu mewn tai opera ar draws Ewrop. Ers 1999 mae'r teulu, Siwan, Lydia, Joseff ac Isaac wedi byw ar y Cyfandir yn y Swistir, yr Eidal, Awstria, Norwy, Denmarc a than yn ddiweddar yn Dresden yn yr Almaen lle ganwyd Isaac. Mae'n siwr i chi gael profiadau amrywiol wrth addoli mewn eglwysi arycyfandir Pan ddechreuais wneud bywoliaeth o'r canu roeddwn i'n aml yn teimlo bod Duw yn ceisio dweud rhywbeth ond doeddwn i ddim yn gwybod beth yn union. Roeddwn i wastad yn meddwl bod Duw eisiau i fi dreulio mwy o amser yn gweddïo neu ddarllen y Beibl neu wneud mwy dros yr Eglwys. A dyna beth oeddwn i'n ceisio'i wneud ac aeth y teimladau i ffwrdd dros dro Yn yr holl lefydd tramor y buom ni ynddyn nhw aethon ni i'r Eglwys ac fel arfer i'r eglwys ryngwladol. Roedd hyn yn brofiad arbennig i ni fel teulu gan fod y rhain yn eglwysi ac yn gymdeithasau llewyrchus gydag aelodaeth gref ar draws yr ystod oed. Yr un sy'n aros yn arbennig yn y cof yw'r eglwys yn Basel yn y Swistir. Roedd yn wefr i ni weld gymaint o bobl yr un oed â ni a chymaint o blant yn dod i addoli a chymdeithasu gyda'u rhieni. Oherwydd hyn roedd yr Ysgol Sul, oedd yn darparu ar gyfer anghenion plant o bob oed (gan gynnwys yr anabl) ac yn hynod o effeithiol, yn ddylanwad hollbwysig arnom ni fel teulu ac yn arbennig ar y plant. Pryd a lle daeth y trobwynt yn eich bywyd? Wrth i mi ddod yn fwyfwy llwyddiannus roedd llais Duw yn dod yn gryfach. Daeth y peth i uchafbwynt ym mis lonawr 2002, ar ôl pedair blynedd o glywed y llais hwn. Yn Leipzig ar ôl yr ymarfer olaf o'r opera Der Rosenkavalier, cyrhaeddais fystafell wisgo a cefais gipolwg arnai'n hun yn y drych a sylweddolais fod Duw eisiau imi wneud rhywbeth arall â'm bywyd yn ogystal â'r canu ond doeddwn i ddim yn siwr yn union beth ar y pryd. Wrth gwrs roedd hyn yn dipyn o sioc i mi gan fod fy mreuddwyd o ganu'n rhyngwladol wedi dod yn fyw. Yn y dyddiadur roedd gen i ddwy flynedd o waith opera i ddod ar y Cyfandir ac roedd fy CD cyntaf o ŵyl ryngwladol newydd ymddangos. Yr holl ffordd nôl o Leipzig gweddïais i dros y peth a gofynnais i Dduw beth ddylwn ei wneud. Ond am ryw reswm ces i ddim ateb, neu, ddylwn i ddweud, doeddwn i ddim yn gwrando. Ddau ddiwrnod wedyn ar ôl y perfformiad cyntaf yn Leipzig fe glywais i'r neges yn glir bod Duw eisiau imi bregethu Ei Air. Erbyn hyn mae pethau wedi dod yn llawer cliriach. Dwi'n gwbl sicr nad yw Duw eisiau imi gefnu ar yrfa gerddorol ond Ei fod am imi barhau i ganu'n broffesiynol yn ogystal â phregethu. Fel arfer, mae Siwan wedi dangos ei chefnogaeth Iwyr ac rydym fel teulu wedi dychwelyd i Gymru er mwyn imi allu astudio. Rydym yn byw erbyn hyn yng Nghlydach IIe dwi'n ennill profiad o'rgwaith gweinidogaethol yng Nghapel Calfaria a dwi'n astudio'n rhan amser ar gyfer gradd MA mewn Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Cymru Bangor. A'rdyfodol? Does neb yn gwybod beth fydd y dyfodol, ond yn amlwg, nid gweinidogaeth draddodiadol sydd o'm blaen i.