Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU 0 R WASG Llain yn Llÿn;Arfon Huws. Pris: E4.95 Ym Mwlchtocyn y treuliodd yr awdur hafau ei blentyndod ynghanol ei dylwyth, ei gymdogion a'u cartrefi ac yno ymsefydlodd y teulu ac yntau'n ddeg oed. Prin fod yno Gymry ar ôl bellach. Cychwynnodd ysgrifennu yn greadigol yn gymharol ddiweddar a cheir yma amrywiaeth o gerddi mewn gwahanol fesurau ynghyd â phytiau o ryddiaith. Bu'n aelod brwdfrydig o'm dosbarthiadau nos a chanfyddais fod ganddo ddawn i drin a phensaernïo geiriau, dawn oedd yn werth ei sbarduno. Wedi hir berswâd gennyf fi ac eraill, gwelodd y gyfrol hon olau dydd. Ynddi cawn elfennau hunangofiannol o'i blentyndod, ei bleser o hwylio'r don, o ganfod ysbryd adeiladau arbennig ac o werthfawrogi cyfeillion a chydnabod. Mae ei ymlyniad i'w fro yn gryf. Ysywaeth, bygythiad parhaus ydyw ein hanes ym Mhen Llŷn bellach a daw pryder yr awdur yn amlwg mewn nifer fawr o'r cerddi. Mae'r 'gigfran sy'n hongian o'r haul' yn llithro ei chysgod dros bentrefi a chymunedau Llŷn heddiw a chrynhodd yr awdur deimladau llawer iawn ohonom sydd yn ceisio dal ein gafael yn y cilcyn hwn o ddaear. Serch hynny, daw ei synnwyr doniolwch i fyrlymu i'r wyneb yn ei limrigau a'i benillion gyfansoddwyd ar gyfer rhaglenni Talwrn y Beirdd. Mae yma rywbeth yn y llyfr hwn ar gyfer pawb. Llwyddodd i ddal y darllenydd yn ei law o'r cychwyn mewn dull difyr a darllenadwy. Pleser a braint i mi ydyw ategu'r cyflwyniad i'r gyfrol hon fel un a rannodd gyda'r awdur 'hud y darfodadwy'. Cofio Tecwyn: Tudor Davies; Gwasa Pantycelyn Dic Goodman Fis Chwefror diwethaf (2002) dyfamwyd Will Young trwy 4.6 miliwn o bleidleisiau allan o 8.7 miliwn, yn 'Eilun Pop' Prydain. Agorodd y fath Iwyddiant iddo sawl drws: gwahoddiad i ganu.yng Nghyngerdd Jiwbili'r frenhines, canu i gynulleidfa deledu o hanner biliwn yn Chwaraeon y Gymanwlad, a sawl drws arall. Ym mis Mawrth 1933, pleidleisiodd darllenwyr papur newydd o Gymru mai'r Parch D. Tecwyn Evans oedd pregethwr enwocaf y genedl gyda Jiwbili Young yn ail, rhaid fod yna rhywbeth yn yr enw 'Jiwbiti'! Dwy genhedlaeth, dau gyfnod a dau gymeriad, ond y fath wahaniaeth. Yr oedd Tecwyn Evans yn perthyn i'roes honno (1850-1950) pryd y gor-ddyrchafwyd y goreuon o'n pregethwyr a'u gwneud yn Eilun Pop. Tyrrai y bobloedd, rhai i'w gweld ac eraill i'w clywed ac fe sicrhai'r arwyr hyn na chaent eu siomi. Ond ysywaeth, fe gollodd Ymneilltuaeth ei gafael a'i dylanwad ar y bobol a bu farw sêr y pulpud o un i un. Aeth y pregethwr yn gyff gwawd mewn noson lawen gydag ymdrech i ail-adrodd yr hen berorasiynau gynt. Y mae bron i hanner can mlynedd er marw Tecwyn Evans, y blynyddoedd a welodd y newidiadau mwyaf drastig mewn byd ac Eglwys. Nid pwy sy'n 'Cofio Tecwyn' yw'r cwestiwn erbyn hyn, ond pwy sydd ag unrhyw ddiddordeb yn Tecwyn a'i oes? Pam, o pam na fyddai'r Wesleaid wedi ymorol ymhell cyn hyn i sicrhau Cofiant i un o bregethwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif a chymeriad anhygoel o amryddawn. Y mae'r bwlch yma o hanner canrif yn siwr o gyfyngu cryn dipyn ar gynulleidfa'r awdur. Edmygwn, yn siwr ymroad diflino Tudor Davies i'r gwaith enfawr hwn o nithio drwy'r fath gruglwyth o ddefnyddiau a manylion. Yn hyn o beth fe'i rhoddwyd dan gryn anfantais. Mae'n debyg y bu'r ffaith i'r gwrthrych baratoi ar gyfer ei gofiant yn fwy o anfantais nag o fantais i'r awdur. Mae'n amlwg wrth y Cofiant, nid yn unig fod Tecwyn yn Eilun ei enwad a'i genedl, yr oedd hefyd yn mwynhau'r safle. Fel y dywedai G. T. Roberts, ei gyfaill, "yn wahanol i bawb arall, fedrai Tecwyn ddim cuddio'i falchder a'i hoffter o bob brôl!" Yroedd ynddo nodweddion iach a hoffus y plentyn. Heb os, bu iddo baratoi ar gyfer ei gofiant a sicrhau anfarwoldeb iddo'i hun. Cadwai ddyddiaduryn gyson a manwl, yn gywir fel y gwnâi pregethwyr mawr y ddeunawfed ganrif. Nododd yntau y prif ddigwyddiadau a'r achlysuron o bwys yn ei hanes. Yn ôl Arthur Ponsonby (1871-1946), prif bwrpas cadw dyddiadur yn y dull yma fyddai paratoi ar gyfer eu cofiannau yn enwedig bobl mewn safle gyhoeddus. Mae'r awdur wedi llwyddo i ennyn ein chwilfrydedd wrth ddyfynnu o'r dyddiaduron hyn Mawrth 1957 pregethu yn y Central Hall ym Manceinion, yna mewn cromfachau (am y pymthegfed waith ar hugain!) Fel sawl un arall y mae yntau wedi dethol a dewis does wiw dweud popeth mewn dyddiadur o'r natur yma! Ym 1951 fe gyrhaeddodd ei 'Atgofion Cynnar' yn cynnwys hanes ei fywyd am y chwarter canrif cyntaf. At hyn i gyd fe gadwodd bob llythyr o bwys a dderbyniodd ac amryw o Iythyrau a anfonodd ei hun at bobl o bwys. Yn wir, fel y cydnebydd yr awdur, fe sgrifennodd filoedd o Iythyrau fel y Morisiaid o'i flaen ac mi adawodd John Wesley wyth gyfrol o'i Iythyrau! Eto fel golygydd yr Eurgrawn am flynyddoedd rhoes Tecwyn Evans fynegiant i'w brofiadau, ei deimladau, ei farn a'i argyhoeddiadau a dyna ffynhonnell werthfawr i unrhyw gofiannydd. Dyma'r defnyddiau a adawodd y Parch Tecwyn Evans ar gyfer ei gofiant. Ymdrechodd yr awdur i fod yn deg ac yn onest â'r gwrthrych a rhywfodd tyfodd y gyfrol yn eitha swmpus ac wrth