Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

or-ddyfynnu fe gollir y rhediad ar brydiau. Bu William Barclay yn llawer caredicach wrth ei gofiannydd Yr unig gofiant a ddymunaf ei gyhoeddi fydd yr un' meddai "that will paint me warts and all". Cydnebydd Clive Rawlins y bu hynny yn hwylustod iddo sgrifennu Cofiant i'r Scotyn hwnnw. Pleser yw cydnabod yn ddiolchgar a llongyfarch y Parchedig Tudor Davies am gymwynas werthfawr trwy lafur mawr yn sicrhau i'w enwad a'i genedl gofiant teilwng iawn i un o gymeriadau mwyaf amryddawn yr ugeinfed ganrif. Cyfrannodd yn ddi-arbed fel ieithydd, awdur ac eisteddfodwr i'r bywyd Cymraeg, ac fel un o bregethwyr mwyaf ei gyfnod dylanwadodd yn fawr arfywyd crefyddol Cymru. Llwyddodd yr awdur beidio a throi'r cofiant yn gronicl, rhoes awgrym a phortread fel y dylai Cofiant fod. Dadlennwyd inni feddwl, pwrpas a chymeriad y gwrthrych. Diolch i Wasg Pantycelyn am gyfrol hardd a graenus. Emlyn Richards Oerfel Gaeaf Duw, Aled Jones Williams; Gwasg Pantycelyn; pris £ 4.50 Sgwrsio'n ddiweddar â gweinidog Presbyteraidd, ac meddai, Yr ôl- foderniaeth yma sy'n sigo ffydd pobl." Un wedd ar ôl-foderniaeth yw'r ffordd o ystyried iaith. Bellach nid yw gair yn cyfeirio'n syml at ryw wrthrych neu rialiti, mae ystyr gair yn y modd y'i defnyddir ac wedi ei gyflyru gan ein diwylliant dynol. Does dim byd y gellir ei ddeall na'i fynegi oddi allan i iaith a'r diwylliant dynol. Mae effaith y syniadau hyn yn bell gyrhaeddol. Gadawsant eu marc ar feirniadaeth lenyddol, ar y modd y dehonglir hanes, ac nid yw gwyddoniaeth, sydd i fod i ddisgrifio'r byd yn wrthrychol, wedi osgoi'r cyhuddiad o fod yn ddim amgen nag agwedd ar y diwylliant dynol. Ni ddihangodd crefydd ychwaith rhag holl bresenoldeb iaith. Os mai iaith yw'r cwbwl a bod iaith yn pennu terfynau ein byd yna nid yw Duw ychwaith yn ddim amgen nag ymarferiad ieithyddol. Prif gymhwysydd y syniadau ôl- fodernaidd hyn i fyd crefydd yw, Don Cupitt. Tua deng mlynedd yn ôl cychwynnodd ef y mudiad "The Sea of Faith", sydd â'i gyhoeddiadau a'i gynhadledd flynyddol ei hun. Yn erbyn y cefndir hwn y mae deall a gwerthfawrogi llyfr Aled Jones Williams. Mae'n gosod ei stondin yn glir arydechrau: "Nid oes tuhwntrwydd. Nid oes byd arall. Ni sy'n creu ein byd. A'n bydau. Drwy iaith yn bennaf." Iddo fo ffordd arbennig o siarad yw crefydd. Siwrnai eiriol sydd ganddo. Siwrnai yn hytrach na phererindod rhyw "Iwybrau defaid a'r niwl yn hel". Mae'n cychwyn y siwrnai oherwydd ei fod "yn dirnad ym mêr ei esgyrn fod Cristnogaeth fel y gwyddom ni amdani yng Nghymru yn darfod. Ac am fod y rhan fwyaf o grefydda yng Nghymru yn ddiflastod llwyr." Nid creisis adeiladau ydyw'r creisis crefyddol ond creisis cred. O leiaf yn hyn o beth mae'n cytuno â'r ffwndamentalwyr sy'n dod o dan ei lach oherwydd eu bod yn glynu wrth ddogmâu a Duw hollalluog ymyrrol. "Mae'n amhosib dal gafael yn yfathDduwarôl y Somme, Auschwitz a Hiroshima. Collodd y gair Duw ei ystyr, nes mynd yn llawn o bob math o 'nialwch." Nid gwadu Duw y mae, ond gwadu'r disgrifiadau a'r lluniau. Gwacter yw'r gair Duw. Nid oes iddo ystyron dilys bellach. Yna mae'n mynd ati i ail-ddarganfod y gair Duw, a hynny mewn ffordd nodedig. Trwy amrywio Ilythrennau'rgair: dUW, duw, duW, DUW, dwu. Fel hyn mae'n ei sgwennu o'r newydd. Ei ffeindio fo o'r newydd." Fe fydd llawer un yn cael anhawster i dderbyn Duw di-gynnwys a diddiffiniad o'r math yma ac yn gofyn beth sydd ar ôl bellach. Credaf mai'r ateb a gynigir yma yw fod lluniau a delweddau yn aros. Lluniau a wêl o yn y Groes, Bedd Gwag, a'r Enedigaeth Wyrthiol. Daw gwirionedd i'r fei nid drwy y llun ond yn y llun. Ond a yw lluniau crefyddol yn medru newid bywyd yw ei gwestiwn. Bydd ambell un am ofyn a oes modd addoli delweddau a lluniau. Profiad cyfriniol yw'r profiad crefyddol i AJW. Profiad y ffin yw'r profiad cyfriniol iddo. Yn hyn o beth gellir ei gymharu â phrofiad T H Parry- Williams a gâi'rffin yn lle arswydus, yn lle am drwbwl. Synhwyrwn mai felly mae hi yn hanes AJW hefyd. Profiad o fod ar y trothwy,yn y cyfnos, ar yr erchwyn, ar sil y ffenest. 'Rhwng' yw ei air crefyddol bellach. Cyflwr rhwng bywyd a marwolaeth a rhwng ffydd ac an-ffydd. A'r ddau ar unwaith, y naill a'r llall. Paradocsau'r profiad cyfriniol yw'r rhain? Medd T H Parry-Williams am y profiad cyfriniol, Nid yw iaith yn ddigonol i'w ddiffinio Y mae'r rhai sy'n gyfarwydd ag ef yn gwybod, ac ni ellir cyfleu syniad amdano i'ranghyfarwydd." Eto rhaid rhoi cynnig arni er diffygion iaith a geiriau. Seiat sydd yn y gyfrol hon. Agorwn ninnau Drws y Society Profiad gan "glocsio'n ysgafn", fel y dywedai'r diweddar Gwilym O Roberts- un a fu ar yr un siwrnai yn chwilio am y Mawredd Di-dymhorau. Synhwyrwn fod y teimladau'n eirias, clywn o "yn ymgodymu yn lleoedd dioddef', fe'n swynir gan y delweddau. Mae'r iaith, nad oes ganddo ffydd ynddi, yn dameidiog ac addas. Fe'i cipiwyd, fe'i cyfareddwyd, a sibryda, "Weithiau mi wn. Ond feiddia i ddim dweud. Oherwydd o'i ynganu fe'i naceir. Cerddaf o'rgolau. Yn noeth bellach. O fy ôl swn delwau'n malu. Yn fy ngwydd yn y gwyll rhu y môr. A minnau. Yma. Rhwng. Ar yr erchwyn. Yma bob amser rhwng y Distawrwydd a'r Mudandod. Rhwng y gwacter a'r Ceudod. Ar daith yr hiraeth am y trosgynnol. Y siwrnai i'r Efallai. Y dyheu am yr anhraethol fwy na fi a'r fíau. Ie! Yr anhraethol! Y sibrydion yn y galon am yr arall islaw i ddwndwr yr ego: fi, hyn, llall, fan'cw, uwchben, wedyn, enwad, cristnogaeth, pob (c)-aeth arall. Y Daith. Hi bery byth.Aphan na fyddaf. Fe'i tramwyir." Ar hyd yr oesau mae credinwyr wedi defnyddio Duw i roi sicrwydd yn eu bywydau, i'w helpu mewn argyfyngau, i wynebu marwolaeth, ac fel rhoddwr deddf foesol. Hefyd, fe fu'n foddion i uno cymdeithas a rhoi nod i bobloedd. I'r cyfryw bydd y gyfrol yn ddirgelwch llwyr, a'r ansicrwydd yn ddigon i achosi penfeddwdod. Ond i eraill mae hi'n cynnig ffordd o ddefnyddio Duw heb fod yn anghyson â ffeithiau'r byd fel y canfyddir nhw ar hyn o bryd. Mae'r llyfr yn gyfraniad nodedig i ysgrifennu crefyddol yn y Gymraeg. Mae'r arddull yn farddonol delynegol, ac mae'r iaith lafar wedi'i defnyddio'n gynnil a'r gyfeiriadaeth yn rhoi stamp hollol Gymreigi'rgwaith. John Rees Jones