Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HIV ac AIDS yn Ne Affrica Ddechrau mis Mawrth 2003, daeth galwad ffôn yn gofyn a fuaswn yn fodlon mynd i Dde Affrica i gynorthwyo gyda dysgu sgiliau cyfathrebu i fyfyrwyr meddygol. Cynllun dan nawdd y Cyngor Prydeinig sydd yn cynnig partneriaeth rhwng unigolion sydd mewn swyddi ym Mhrydain a rhai mewn gwledydd llai breintiedig oedd yn gyfrifol am y gwahoddiad ac roedd ymgynghorydd ac Uwch ddarlithydd mewn seiciatryddiaeth plant yn dod gyda mi. Pwrpas yr ymweliad oedd helpu'r darlithwyr roedd problemau ganddynt mewn dulliau asesu myfyrwyr a hefyd yn y modd yr oeddent yn dysgu am broblemau HIV acAIDS. Roedd arnynt hefyd eisiau cael darlithoedd a gweithdai i'r staff clinigol ar y ffyrdd ddiweddaraf o drin ac atal HIV ac ar feddygaeth liniarol. Mae prifysgol Medunsa yn un hanesyddol iawn -cafodd ei sefydlu fel y Brifysgol gyntaf yn Ne Affrica i hyfforddi meddygon, milfeddygon a deintyddion du. Yn arbennig, mae'n ceisio denu myfyrwyr o'r wlad gan obeithio y byddent yn dychwelyd yn ôl i'w hardaloedd ar ôl graddio. Yn fynych nid yw hyn yn digwydd a dywedodd Deon y Brifysgol wrthyf mae eich gwlad yn dwyn ein meddygon ac ni allwn ni ddim fforddio eu colli". Mae rhannau mawr o dde Affrica heb wasanaeth meddygol yn enwedig yn yrardaloedd gwledig. Mae problemau newyn, diffyg cyflenwad dŵr glân a phroblemau mawr H IV ac AIDS yn creu problemau iechyd dyrys. Roedd gan y myfyrwyr meddygol ddiddordeb mawr yn y ffaith fy mod yn arbenigo mewn gofal cleifion sydd yn ddifrifol sâl ac yn marw. Nid oes gan y wlad yr arian i dalu am lawer o gyffuriau atal poen. Agwedd y rhan fwyaf hefyd yw y dylai y rhai sydd yn marw fod gartre gyda'u teuluoedd os ydi'r claf yn mynd i'r ysbyty, mae'r gymdeithas yn meddwl fod y teulu wedi methu mewn rhyw ffordd. Roedd llawero'r myfyrwyr yn meddu arargyhoeddiadau Cristnogol cryf yng nghanol y ddarlith roeddwn yn ei chyflwyno i'r myfyrwyr ar AIDS a HIV, daeth swn canu a moliannu uchel iawn y tu allan i'r drws doedd fawr o neb yn cymryd sylw, ac eglurodd un o'r myfyrwyr fod hyn yn arwydd fod myfyriwr wedi cael tröedigaeth a'i fod yn rhannu ei gyffes, a'r grwp o ffrindiau yn llawenhau. Cefais gyfle i siarad gyda nifer o'r myfyrwyr roedd eu hagwedd tuag at atal AIDS yn wahanol iawn eu cred oedd fod ganddyn nhw yr hawl i gael cyfathrach rywiol gyda phwy bynnag y mynnent heb boeni dim am y posibiliadau o AIDS roedd agwedd negyddol y darpar feddygon tuag at ddulliau o leihau AIDS yn y wlad e.e. peidio â defnyddio cyffuriau a pheidio â defnyddio condoms yn creu pryder os mai dyma agwedd meddygon yfory pa obaith sydd o atal y clefyd erchyll yma rhag cymryd bywydau pobl ieuainc y wlad i gyd? Buom wedyn yn ymweld â hosbis ddydd yn Francistown, Botswana a'r enw pwrpasol 'Canolfan Gobaith a Goleuni'. Ers tair blynedd bellach roedd cyd weithiwr imi wedi bod yn gweithio yno gyda'r elusen "skill share Africa" Mae yr hosbis yn derbyn pobl o'r dref a'r pentrefi cyfagos. Ynghyd â gofal meddygol mae rhoi parseli bwyd a dillad hefyd gan Ùr marí Uoyd-Williams sig o'r gwaith yno. Roedd pob diwrnod yn dechrau gyda gwasanaeth dan arweiniad y cleifion neu staff y ganolfan. Setswana yw'r iaith ond er hynny roedd yn hawdd dilyn y canu ac mae rhythm cysurus Gweddi'r Arglwydd yn amlwg ym mhob iaith. Mae stigma HIV ac AIDS yn fawr. Nid oedd y cleifion na'r teulu yn trafod y salwch ond yn ei ddisgrifio fel salwch hir sy'n effeithio ar bob rhan o gymdeithas. Mae prinder meddygon, nyrsys ac athrawon yn enbyd oherwydd eu bod hwythau yn dioddef o'r salwch. Pan oeddem yno galwodd Prif Reolwr y carchar lleol yn yr hosbis i ofyn am gymorth, nid yn unig i'r carcharorion niferus oedd yn dioddef o Aids, ond hefyd nifer fawr o'i staff. Mae llywodraeth Botswana wedi creu polisi o gynnig cyffuriau sydd yn lleddfu effeithiau'r clefyd, ond gyda'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn anllythrennog mae deall sut i gymryd cyffuriau bob12 awr yn amhosib. Roedd yr hosbis hefyd yn cynnig gofal cartref aethom allan i'r pentrefi gerllaw- pentrefi lle mae dau neu dri o deuluoedd yn byw mewn dwy ystafell heb na dwr na thrydan, ac yn gorfod rhannu'r ty gyda'r ieir a'r anifeiliaid. Buom yn ymweld â'r ysbyty y wardiau yn llawn a chleifion ifainc yn gorwedd ar y llawr mae prinder meddygon a nyrsys yn golygu mai y teulu sydd yn gweini a gofalu am y claf. Profiad trist oedd gweld mamau ifainc, a oedd yn amlwg yn marw, yn ceisio bron fwydo eu plant. Yr ymweliad mwyaf ysgytwol oedd yr ymweliad â'r fynwent mynwent a agorwyd bum mlynedd yn ôl ond y beddau yn ymestyn tuag at y gorwel, a phob un o'r placiau yn cofnodi marwolaeth person ifanc. Beth fydd dyfodol De Affrica? mae problemau iechyd fel ym mhob man arall ynghlwm wrth broblemau cymdeithasol ac agweddau a daliadau'r gymdeithas. Daethom oddi yno gyda'r teimlad fod llawer o waith i'w wneud a pha mor bwysig yw hi i'r rhai sy'n cynnig cymorth i wneud hyn o fewn canllawiau a safonau'r gymdeithas leol. Bydd argraff y brifysgol, yr hosbis a'r ysbyty yn aros yn hir. Gall pob un ohonom wneud rhywbeth i leddfu'r sefyllfa trwy weddi; trwy estyn cymorth ariannol i'r mudiadau sy'n ceisio helpu'r sefyllfa; trwy ystyried a yw Duw yn ein galw ni i weithio yn Ne Affrica a thrwy ymgyrchu yn y wlad yma i sicrhau nad ydym yn parhau i fewnforio meddygon a nyrsys o Dde Affrica pan fo'r angen amdanynt yn eu gwlad eu hunain mor fawr.