Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

5. Beth yw Cenhadu gan Glyn Tudwal Jones Roeddwn i mewn cynhadledd ddiwinyddol rai blynyddoedd yn ôl ac un o'r prif siaradwyr oedd Dr. John Habgood, Archesgob Caerefrog ar y pryd. Dechreuodd ei ddarlith trwy awgrymu ein bod yn gwahardd pob defnydd o'r geiriau 'cenhadu' a 'chenhadaeth' o eirfa'r eglwys am o leiaf ddeng mlynedd! Nid ei fod yn erbyn cenhadu mewn unrhyw ffordd, ond ei bwynt oedd bod y gair wedi mynd yn ystrydeb ac yn ateb rhy slic ac arwynebol bryd bynnag y bydd dadleuon yn codi ymysg Cristnogion o wahanol draddodiadau: cawn ein cymell i ddilyn rhyw drywydd neu'i gilydd er mwyn 'hyrwyddo'n cenhadaeth', a hynny heb fod digon o ystyriaeth yn cael ei rhoi i ystyr 'cenhadu'. METHIANT DDOE Dywedir yn gyffredin heddiw bod yr eglwysi wedi colli eu ffordd, a hynny'n rhannol oherwydd eu bod wedi colli'r weledigaeth genhadol a'u nodweddai gynt. Tybed? Mewn astudiaeth fer ond pur drylwyr o ddirywiad yr eglwysi anghydffurfiol yng Nghymru yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif mae Dr. Robert Pope o Brifysgol Bangor yn dangos bod pedwar prif ffactor wedi cyfrannu at y dirywiad hwnnw, sef methiant yr eglwysi i feithrin dychweledigion Diwygiad 1904-05, diffyg ymwybyddiaeth o'r angen i genhadu yma yng Nghymru, methiant i fynd i'r afael â'r cwestiynau cymdeithasol dwys a flinai bobl dlawd adeg y dirwasgiad, ac ymdeimlad o rwystredigaeth Iwyr yn wyneb y secwlariaeth a ymledodd fel barrug oer o'r chwe-degau ymlaen. Teitl ei gyfrol yw The Flight from the Chapels: the Challenge to Faith in a New Millennium, ac fe'i cyhoeddwyd gan yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig yn 2000. Byddai'n dda cael aros uwchben dadansoddiad praff yr awdur, ond rhaid bodloni yma arfanylu ychydig ar yr hyn a ddywed am ddiffyg sêl genhadol yr eglwysi mor bell yn ôl â dechrau'r ganrif ddiwethaf. Yr elfen bwysicaf yn eglwysyddiaeth yr anghydffurfwyr, meddai, oedd y pwyslais a roddid ar bobl yr Arglwydd wedi 'dyfod ynghyd', ac roedd parhad yr eglwys a'i llewyrch yn dibynnu ar feithrin teuluoedd a phlant yn y ffydd ac o fewn cymdeithas yr eglwys nid ar genhadu i'r tyrfaoedd. Mewn cyfnod o gryfder, meddai Pope, collodd yr eglwysi eu cyfle: 'Mission was seen as supplying the opportunity for people to gather for worship and to establish churches as centres of social activity. Once these were in place, it was ex- pected that people would attend as a matter of course. As a result, chapels in Wales never reaìly adopted an evan- gelistic outlook as it appeared unnecessary'. (tud. 12-13). Wrth i'r ganrif fynd rhagddi, cododd cwestiynau newydd eu pennau wrth i'r sefyllfa wleidyddol (y Rhyfel Mawr), economaidd (y dirwasgiad) a diwylliannol newid, a'r darlun a adewir yw un o eglwysi wedi eu gadael ar y lan, fel y llongau y sonia Gwenallt amdanynt yn ei gerdd, a'r llif wedi mynd heibio iddynt. Y gwir yw mai dyna'n sefyllfa o hyd wrth inni gael ein hunain yn brwydro i dystio i Grist o fewn diwylliant sy'n troi nid yn elyniaethus i'r ffydd ond yn ei hystyried yn fwyfwy amherthnasol i fywyd. NATUR CENHADU Mewn sefyllfa o'r fath, daeth yn bryd inni ofyn beth yw cenhadu? Dyma'r cwestiwn y mae'r eglwysi wedi ceisio'i wynebu ers cenhedlaeth neu ddwy bellach, ac mae digon o ddeunydd wedi'i baratoi ar hyd y llinellau hyn gan y gwahanol fyrddau cenhadol a chyrff ecwmenaidd. Byddai'n gwbl annheg peidio â nodi ambell ymdrech lew a wnaed gan yr eglwysi o bryd i'w gilydd i ddeffro i her y sefyllfa ac ymateb yn genhadol iddi, megis sefydlu Mudiad Ymosodol y Presbyteriaid tua chanol y ganrif ddiwethaf, ymgyrch 'Pobl Drws Nesa' yn 1967 a 'Cymru i Grist' yn y saith-degau. Felly hefyd yn y dogfennau sy'n gefndir i'r Cyfamod yng Nghymru a'r 'Ffordd Ymlaen' nodiryrangen dybryd i ymuno mewn un genhadaeth unedig, gref i Gymru heddiw, ond er hyn i gyd ni ellir osgoi'r ffaith bod y ddealltwriaeth o natur cenhadu wedi newid yn ystod yr ugeinfed ganrif a'r ganrif bresennol. Yn fras, mae'r pwyslais cyfoes mewn diwinyddiaeth cenhadu ar ganfod ymhle mae Duw ar waith yn ei fyd fel y medrwn adael ein rhigolau traddodiadol ac ymuno ag ef trwy dystio'n ymarferol i'w bresenoldeb o fewn ein cymunedau. Dyna'r meddylfryd sydd y tu ôl i'r camau cenhadol a gymerwyd gan y gwahanol enwadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda'r pwyslais ar benodi gweithwyr eglwysig cymunedol, codi canolfannau mewn maestrefi newydd, gosod gweithwyr plant ac ieuenctid o fewn ardal, ac yn y blaen. Gwêl Pope ddiffyg yma hefyd, a gwell gadael iddo siarad drosto'i hun: 'On one level, it has reminded the church that it does not exist for itself, but for God and for his service in the world. But, on a negative level, it has surely contributed to a loss ofinterest in the sacred, in that which is holy and set apart'. (t.32). Mae yna eironi rhyfedd yma, oherwydd collodd yr eglwys olwg ar yr hyn sy'n rhoi ystyr i'w bodolaeth yn yr union gyfnod pan yw pobl o'rtu allan iddi yn ail ddarganfod gwerth yr ysbrydol a'r cysegredig! Ond wrth gwrs apêl unigolyddol sydd i grefydd neu ysbrydoledd yn gyffredinol heddiw; er bod ymgyrch hysbysebu ar droed ar hyn o bryd i geisio apelio at yr angen sydd ym mhob person am brofi bendithion cymdeithas, mae'n frwydr anodd. Y broblem yw, at bwy ydym ni'n anelu'rfath apêl heddiw? Mae cymdeithas wedi newid, a'r rhwymau fyddai'n tynnu pobl at ei gilydd yn prysur