Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ymddatod. Mae'r eglwys wedi newid hefyd; collodd yr hyder imperialaidd a nodweddai'r genhadaeth dramor o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen gan droi'n fwy gwylaidd yn y broses, ac nid drwg o beth mo hynny. Nid mater o 'fynd i mewn' i amgylchiadau pobl â'n neges yw cenhadu mwyach, neu o leiaf felly y mae'r eglwysi traddodiadol yn ei gweld hi, ond mater o wrando a cheisio deall cefndir a safbwynt pobl eraill: dechrau lle y maen nhw, a gweithio o'r fan honno. Y gamp yw gwneud hynny a phara'n ffyddlon i'n hargyhoeddiad ein hunain yr un pryd. CREFYDDAU ERAILL Efallai mai'r newid pennaf yw presenoldeb crefyddau eraill d'n hamgylch heddiw, ac fe welwn bod deiliaid y rheini yr un mor ddiffuant â ni. Nid 'Draw draw yn Tseina' y maent yn byw mwyach: ein cymdogion ydynt. Yn dilyn yr ymosodiad ar Efrog Newydd a dinasoedd eraill America ym mis Medi 2001, a holl ganlyniadau erchyll yr ymosodiadau hynny, bu cynnydd mewn ffwndamentaliaeth grefyddol ar draws y byd, a hynny'n aml yn cerdded law yn llaw â ffanatigiaeth wleidyddol, ac mae'r bartneriaeth honno'n codi arswyd ar bobl ac yn eu gwneud yn amheus o ddylanwad pob crefydd. Yn wyneb y newid agwedd hwn, mae'n werth dwyn i gof eiriau'r diwinydd Pabyddol blaengar o'r Swistir, Hans Küng, yn ei gyfrol Theology for the Third Millennium (1989), bod heddwch y byd yn dibynnu fwyfwy ar heddwch rhwng crefyddau'r byd a'i gilydd. Er mwyn hyrwyddo cyd-ddeall rhwng y crefyddau cafodd Senedd Crefyddau'r Byd ei chynnull yn Chicago yn 1993; y bwriad oedd canfod y pethau sy'n gyffredin rhyngddynt ac adeiladu ar hynny, a daethpwyd i'r casgliad bod modd o leiaf iddynt gytuno ar foeseg gyffredin a allai osod sylfaen ar gyfer heddwch a ffyniant y ddynoliaeth. Ategwyd y bwriad hwn gan esgobion Pabyddol Cymru a Lloegr a gyhoeddodd eu datganiad eu hunain yn 1996 mewn llyfryn sy'n dwyn y teitl The Common Good, a chan Küng ei hun yn ei gyfrol Yes to a Global Ethic (1997). Y cwestiwn amlwg sy'n aros yw pwy sydd ar ôl inni eu hela bellach? Rydym yn byw mewn cymdeithas ôl- Fodernaidd ac aml grefyddol lle mae pawb yn mynnu parch i'w safbwynt, gan gynnwys y di-gred. Mae gosod y cwestiwn fel yna'n awgrymu lle mae'r ateb i'w gael, yn fy marn i. Yng ngeiriau'r Llythyr at yr Hebreaid, rhaid inni 'ddal yn fwy gofalus ar y pethau a glywyd'; hynny yw 'dyw parchu safbwyntiau pobl eraill ddim yn golygu'n bod yn glastwreiddio'n daliadau ein hunain. Cred sylfaenol y Cristion yw nad oes 'iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i ddynion, y mae i ni gael ein hachub drwyddo'. Ar un ystyr mae'n anodd cysoni'r ysfa genhadol hon sydd wrth wraidd ein ffydd â'r rheidrwydd sydd arnom i barchu safbwyntiau eraill. Yn bersonol, cefais lawer o foddhad yng ngeiriau'r diwinydd S. J. Samartha o India, a ddywed yn y gyfrol Christ's Lordship and Religious Pluralism (gol. G. H. Anderson a T. F. Stransky): There are differentfaiths, there are alternative ways of salvation, there are different hopes about human des- tiny, there are different affirmations as to what happens in the end. In the last analysis, religions should be recog- nised as having responded differently to the mystery of the Ultimate. While recognising the plurality of these an- swers, Christians believe that in Jesus Christ the Ultimate has become intimate with humanity, that nowhere else is the victory over suffering and death manifested so deci- sively as in the death and resurrection of Jesus Christ, and that they are called upon to share this good news humbly with their neighbours'. DYHEAD 'Uwch deall dynol-ryw fo'r hiraeth dwfn am Dduw a phresenoldeb Ysbryd Crist byth bythoedd'. O fewn ein cymdeithas faterol heddiw mae yna bobl sy'n chwilio am ystyr a phwrpas i'w bywydau, mae ganddynt gwestiynau dwfn wyneb yn wyneb â throeon annisgwyl a chreulon bywyd, a dyheadau na all yr holl gyfoeth materol mo'u hateb. Yn lesu Grist mae gennym neges sy'n werth ei rhannu, stori ryfeddol am ddyfodiad Mab Duw i ganol amgylchiadau dyrys ein byd a'n bywyd ni. Mae'n gyfrifoldeb arnom o hyd i dystio i'n ffydd, rhannu'n Gwaredwr, ac yng ngeiriau Pedr 'i roi ateb i bob un fydd yn ceisio gennym gyfrif am y gobaith sydd ynom'. Er mwyn gwneud hynny'n effeithiol mae'n rhaid inni gael ein hysgwyd allan o'n rhigolau traddodiadol yn yr eglwysi ac edrych allan fel y medrwn ymateb yn gadarnhaol ac yn sensitif i anghenion ein hoes ein hunain a cheisio diwallu peth ar yr 'hiraeth dwfn am Dduw' sydd o fewn ein cymdeithas, a'r angen gwirioneddol a welwn o'n hamgylch am arweiniad ysbrydol a chanllawiau moesol. Dyna pam ei bod yn anodd osgoi'r her i feddwl o ddifrif beth yw cenhadu?