Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dathlu tri chanmlwyddiant geni John Wesley Un o fy hoff arwyr yn y ffydd yw John Wesley, ac fe ŵyr y cyfarwydd ein bod yn cofio eleni am dri chan mlynedd ei eni. Os oedd dyn wadi ei anfon o Dduw erioed, mae lle i gredu mai John Wesley oedd, yn sicr y mae yn ateb y gofynion mewn llawercyfeiriad. Os yw ambell sefydliad yn gysgod o un dyn y mae'r Eglwys Wesleaidd yn gysgod o'i sylfaenydd John Wesley. Y mae ef i'r Wesleaid yr hyn yw Luther i Brotestaniaid a Chalfin i'r Methodistiaid Calfinaidd. Mae ef yn un o ffigurau mawr y ddeunawfed ganrif yn hanes Prydain Fawr a'i ddylanwad yn eang. Dywed mwy nag un hanesydd ei fod wedi achub Lloegr rhag rhyfel cartref fel y digwyddodd yn Ffrainc oherwydd bod ei bregethu a'i weledigaeth yn apelio at bob dosbarth o bobl. Roedd dylanwad yr aelwyd yn fawr arno yn Epworth, Swydd Lincoln, fel un o bedwar-ar-bymtheg o blant i Samuel a Susanah Wesley. Pan oedd yn bum mlwydd oed gosodwyd y Rheithordy ar dân gan rai o'r werin oherwydd fod ei dad yn uchel Eglwysig ac yn "Dori". Cyfeiriwyd at John fel plentyn a achubwyd o'r tân. Roedd ei fam yn ddynes anghyffredin, yn rhoi o'i hamser i hyfforddi yn yr ysgrythurau bob un o'r plant a ddaeth ati am gyngor tra bu hi byw. Dylanwad cryf arall amo oedd y Clwb Sanctaidd yn Rhydychen ar ôl darllen yn 1725 Iyfr Jeremy Taylor ar Holy Living a Imitation of Christ gan gan J Elwyn Jenkins Thomas á Kempis. Fe ddaeth yn arweinydd y grwp yn Rhydychen wrth roi bri ar fyfyrio ar y Testament Newydd, Gweddïo, a Swper yr Arglwydd. Ychydig yn ddiweddarach oherwydd y drefn oedd gan y myfyrwyr hyn yn y Coleg fe'u galwyd oherwydd ei 'fethod' yn Fethodistiaid, agwedd braidd yn wawdlyd ar y pryd. Fe aeth allan yn Gaplan i'r drefedigaeth yn Georgia, America yn 1736. Er iddo weithio'n galed, oherwydd ei ymagwedd uchel Eglwysig a'i berthynas â Sophey Hopkey nad oedd wrth fodd pawb, dychwelodd ym mhen dwy flynedd gan ysgrifennu yn ei ddyddiadur- "Euthum i'rAmerig i achub yr Indiaid, and pwy a'm gwared i o galon ddrwg anghrediniaeth". Yn Rhydychen cyfarfu â Peter Bohler y Cenhadwr Morafaidd a dywedodd hwnnw wrtho "Pregetha y ffydd nes i ti ei chael,ac wedi i ti ei chael-pregetha" Fe gofiwn am y profiad a gafodd pan aeth yn anfodlon i Dŷ Cwrdd yn Ystryd Aldersgate wrth glywed rhywun yn darllen rhagarweiniad Luther i'r Epistol at y Rhufeiniaid. Teimlodd ei galon yn cynhesu wrth ddeall am y newid y mae Duw trwy lesu Grist yn ei wneud trwy ffydd yn y galon, a'r sicrwydd ei fod yn cael ei arbed rhag deddf pechod a marwolaeth. Yna, aeth i chwilio am ei frawd Charles oedd wedi cael tröedigaeth dri diwrnod ynghynt ac ymunodd y ddau i ganu ar y stryd yr emyn yr oedd Charles wedi ei gyfansoddi "Where shall my wonder- ing soul begin?" Dywedir mai dyna ddechrau'r mudiad Wesleaidd. Cafodd wahoddiad gan George Whitefield i'wgynorthwyo pan oedd yn pregethu i'r miloedd ym Mryste. Gadawodd Whitefield am America ond arhosodd John i edrych ar ôl y rhai oedd wedyn he4b arweiniad ac fe apwyntiodd arweinwyr ac ymddiriedolwyr i drefnu seiadau. Yn anffodus cafodd ei wahardd bregethu yn yr Eglwys Anglicanaidd a rhaid oedd iddo bregethu yn yr awyr agored er gwaetha llawer o derfysgoedd tua 60 i gyd. Ond nid oedd erledigaeth yn mynd i'w atal rhag ennill pobl i Grist. Dywed W.T.Stead y newyddiadurwrfel hyn amdano "Marvellous body with muscles like whipcord, lungs like leather and a heart of a lion". Er mai dyn cymharol fyr ydoedd o ran taldra 5 troedfedd a 4 modfedd ac yn pwyso 128 pwys, roedd yn rhyfeddol o egniol. Roedd yn codi am bedwar o'r gloch y bore, yn pregethu am bump o'r gloch, ac yna ar gefn ei geffyl erbyn wyth o'r gloch. Teithiodd yn aml ac ymhell ar gefn ei geffyl a dywedir ei fod wedi teithio 250,000 o filltiroedd yn ystod ei yrfa, gan bregethu tua 44,000 0 weithiau. Yroedd yn Efengylwr mawr, yn Dywysog ymhlith sefydlu Eglwysi ac yn weithiwr diflino. Dywedodd mai y byd oedd ei blwyf. Pe buasai byw heddiw fe allai wneud ffortiwn fel cyfarwyddwr busnes. Fe newidiodd agwedd pobl tuag at fywyd, teulu, gwaith a marwolaeth. Hyfforddodd leygwyr i fynd allan â'r neges gan bwysleisio bod yn rhaid iddynt bregethu yn syml, yn glir, yn Grist ganolog a Beibl ganolog, yn tarddu o argyhoeddiad dwfn. Dywedir bod pobl yn barod i deithio ugain milltir i'wglywed. Fe enillodd bobl o enwadau eraill i'w ganlyn, yn enwedig o blith y Methodistiaid Calfinaidd. Roedd Wesley yn casáu'r athrawiaeth am etholedigaeth, yn ei hystyried yn