Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trwy Ffenestr y Gwyddonydd A elli di ddarganfod dirgelwch Duw Meddyliwch am ddam maint-pysen o wraniwm bob eiliad bydd rhyw fil o atomau yn anfon allan ymbelydredd ac yn dadfeilio. Canran fechan iawn yw'r mil o atomau o'u cymharu â'r can miliwn, miliwn, miliwn arall sydd yn y Iwmpyn; dim ond rhyw hanner yr atomau a fydd wedi dadfeilio mewn mil, miliwn o flynyddoedd. Ond pa atomau sy'n debygol o allyrru ymbelydredd? 'All gwyddonwyr ddim dweud, ac yn wir nid oes unrhyw fodd o ddarogan. Am resymau tebyg y bu i'r ffisegydd enwog Albert Einstein ddatgan ei anhapusrwydd â'r egwyddorion siawns ac ansicrwydd sydd gymaint o sylfaen i'n dealltwriaeth wyddonol o sut mae atomau a gronynnau elfennol yn ymddwyn. Cymaint ei anesmwythyd nes iddo unwaith ebychu: "Ond nid yw Duw yn chwarae deis!" Ond pam dod â Duw i mewn i'r cwestiwn? Ydy Duw yn gwybod pa atom sy'n mynd i ddadfeilio nesaf? A elli di ddarganfod dirgelwch Duw? Dyna'r cwestiwn a ofynnwyd nôl yng nghyfnod Job (Job 11: 7), mae'n gwestiwn sy'n dal i ddrysu'r hil ddynol, a thebyg y bydd yn cael ei holi tan ddifodiant yr hil ddynol ac ar ôl hynny. I'r rheini ohonom sy'n ymddiddori mewn gwyddoniaeth ynghyd â dal ffydd yn y Creawdwr, mae'r cwestiwn yn fwy dyrys a chymhleth: sut mae mynd ati i chwilio? Aall gwyddoniaeth gynorthwyo i ateb y cwestiwn, neu a ydyw gwyddoniaeth o fawr bwys mewn cyd-destun o'r fath? A all ffydd, sydd wrth wraidd y berthynas â Duw, fod yn ddigonol i ateb y fath gwestiwn heb unrhyw ystyriaeth o'r chwilfa wyddonol? Pa wahaniaethau sy'n bodoli rhwng ffyrdd gwyddoniaeth a ffydd wrth ymchwilio am y gwirionedd? Ai gwrthwynebol ai synergyddol yw gwyddoniaeth a ffydd? Ffydd a Gwyddoniaeth Ceir o leiaf bedair agwedd tuag at y berthynas o chwilio am y gwirionedd trwy wyddoniaeth a thrwy ffydd. Yn gyntaf, ac efallai y fwyaf cyffredin, yw'r agwedd honno sy'n dal mai dim ond trwy y broses wyddonol y gellir cyrraedd y gwirionedd. Tipyn haws deall ac ymddiried mewn gwybodaeth a ffeithiau y gellir dangos eu bod yn wir yn y labordy, ac y gellir tystiolaethu iddynt trwy wybodaeth gadam, na'r profiadau llawer llai sylweddol sy'n gysylltiedig â ffydd. Syr George Porter, yn ei Ddarlith Romanes yn Rhydychen yn 1978, a ddywedodd nad oedd crefydd bellach yn cael ei chyfrif o ddifrif, ei bod yn cael ei disodli gan y broses wyddoniaeth sydd gymaint mwy pwerus ac effeithiol, ac mai dim ond mater o amser oedd cyn bod gwyddoniaeth wedi llwyr amnewid safle crefydd yn ein cymdeithas. Agwedd ddigon cyfarwydd ymysg y byd gwyddonol, ac yn wir ymysg y rheini sydd heb fod mor gyfarwydd â'r broses wyddonol. Mae'r ail agwedd yn llwyr-gyferbynnu'r cyntaf ¾dim ond ffydd a all ddarganfod y gwirionedd. Cred rhai mai dim ond yn y Beibl y ceir gwirioneddau ni ellir ymddiried mewn gwyddoniaeth nag unrhyw astudiaeth o'r gwyddorau gan mai'r hi! ddynol sy'n eu gweithredu. Mae unrhyw astudiaeth o'r fath, yn ôl y ddadl, mewn perygl o ddioddef canlyniadau gan Hefin Jones camgymeriadau dynol. Mae gwyddoniaeth hefyd yn newid yn barhaus nid yr un yw dadleuon gwyddonwyr heddiw a hanner can mlynedd yn ôl; ond digyfnewid yw gwirioneddau Duw. Dadl hyrwyddwyr yr agwedd hon yw mai os chwilio am y gwir wirionedd yr ydym, dim ond yn y datguddiad o Dduw yn yr Ysgrythur y gellir gwneud hynny. Yn ôl traddodiad, Michael Faraday, ffisegydd o'r bedwaredd ganrif ar ddeg a fu'n gyfrifol am ddarganfod adwythiad electromagnetaidd (ymysg llawero bethau eraill) ond a oedd hefyd yn bregethwr lleyg, a ddywedodd y byddai'n cyfyngu ei wyddoniaeth i'r labordy a'i ffydd i'r eglwys. Hynny yw, gan bod gwyddoniaeth a chrefydd yn nacáu ei gilydd rhaid ei cadw ar wahân. Dyma'r drydedd agwedd, un hynod o gyffredin ac un sy'n dal i barhau mewn nifer o sefydliadau; erenghraifft, yn 1972 cafwyd datganiad gan yr Academi Wyddonol Genedlaethol yn yr Unol Daleithiau: "whereas religion and science are therefore separate and mutually exclusive realms of human thought whose presentation in the same context leads to misunderstanding of the scientific theory and religious belief We urge that textbooks of science utilised in the public schools of the nation be limited to the exposition ofscientific matters." A hyd yn oed heddiw mae yna gynifer o wyddonwyr, sydd hefyd yn Gristnogion, yn dal i gario allan eu hymchwil heb feddwl am eu ffydd, ac yn wir yn addoli ar y Sul ond heb fynd â'u ffydd i'w labordai. Ond mae yna un agwedd arall yn dal ar ôl. Albert Einstein a ddywedodd "Science without religion is lame, religion without science is blind'. Mae'r agwedd hon yn un bositif iawn tuag at y rhyngweithiad rhwng crefydd a'r gwyddorau, rhwng credu mewn Duw fel Creawdwr a'r broses wyddonol. Yn hon, mae ffydd a gwyddoniaeth, a'r prosesau sy'n ynghlwm wrthynt, yn gorgyffwrdd; hynny yw, gellir holi a darganfod trwy ddefnyddio ymchwiliadau gwyddonol ynghyd ag ymarfer ffydd. Ac mae'n ddiddorol, ac addysgiadol, sylwi cymaint o'n gwyddonwyr cynnar a wnaeth hyn: Robert Boyle Tad Cemeg o'r ail ganrif ar bymtheg a John Ray-Tad Astudiaethau Natur, i enwi dau yn unig. Yn wir yn ei Iyfr The Wisdom of God Manifested in the Works of Creation, a ymddangosodd gyntafyn 1691, mae John Ray yn defnyddio ei wyddor a'i ddarganfyddiadau i arddangos gallu anfesuradwy Duw. Profi Bodolaeth Duw Pe gellid profi bodolaeth Duw, ni fyddai angen ffydd! Pe gellid rhoi Duw, Arglwydd y Greadigaeth, mewn blwch a'i arddangos yn gyhoeddus byddai pob ymdeimlad o ffydd, dirgelwch ac anfeidroldeb yn diflannu. 'All gwyddoniaeth ddim profi na gwrthbrofi bodolaeth Duw, ac eto mae'n codi cwestiynau ynglŷn â rheswm a phwrpas bywyd mae'n rhaid ceisio eu hateb. Ni all ffydd chwaith brofi bodolaeth Duw; ond gall ffydd gynnig tystiolaeth sy'n cyfeirio at fodolaeth Duw fel Creawdwr a Lluniwr Bywyd. Un o'r cwestiynau "mawr" sy'n sylfaen i bron â bod unrhyw a phob trafodaeth ar ffydd a gwyddoniaeth yw "beth ddigwyddodd?" beth