Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddigwyddodd i greu y Bydysawd, beth oedd digwyddiad cyntaf y cosmos? Dyma gwestiwn sydd wedi bod yn trethu rhai o feddylwyr mawr dynoliaeth. Bu i'r athronydd enwog Plato (427 347 C.C.), yn ei Laws, ddatgan bod symudiadau (un o feysydd mawr ei astudiaethau) wedi tarddu o "enaid" unigryw a bod yr enaid hwn yn "bopeth sydd, sydd wedi bod, ac a ddaw". Bu Thomas Aquinas (1225 1274) yn dadlau ein bod yn byw mewn byd o "ddigwyddiad ac achos", hynny yw bod rhaid bod achos i bopeth a ddigwydd. Os ydy hynny'n wir, yna rhaid sylweddoli bod rhywbeth wedi achosi creu'r bydysawd ni all fod wedi digwydd heb achos. Dadl go debyg oedd gan Descartes (1596 -1650) Tad Athroniaeth Gyfoes, a hefyd Leibniz yn ei Iyfr Theodicy, a gyhoeddwyd tua 1710, lle y daw i'r canlyniad bod y Bydysawd yn hollol ddibynnol ar Dduw, sydd heb achos ac sydd heb fod yn ddibynnol ar ddim na neb arall. Ond efallai mai nid "beth ddigwyddodd" a ddylem fod yn ei ofyn ond yn hytrach "pam y digwyddodd"? Dechrau'r 1990au fe gynhaliwyd dadl hynod o ddiddorol ar fodolaeth Duw fel rhan o gyfres o drafodaethau o Brifysgol Rhydychen ar Sianel Pedwar. 'Rwy'n cofio'r Athro Richard Swinbume, a oedd yn dadlau dros fodolaeth Duw, yn dweud rhywbeth tebyg i hyn: "Gall gwyddoniaeth ddweud wrthym beth yw Deddfau Natur ond ni all ddweud wrthym pam y maent yr hyn ydynt". Wrth gwrs mae yna eraill sy'n dadlau mai digwyddiad hap a damwain yw y Bydysawd; hynny yw, nad oes dim angen gofyn pam, a bod y Bydysawd yno am ei bod hi yno! Ond Jonathan Swift a ddywedodd: "That the Universe was formed by a fortuitous concourse of atoms, I will no more believe that that the accidental jumbling of the alphabet would fall into a most ingenious treatise of philosophy." Gwyddonydd y mae gennyf barch mawr tuag ato yw'r Athro Paul Davies, Athro Ffiseg Mathemategol ym Mhrifysgol Adeilade. Nid dadlau o argyhoeddiad Cristnogol na safbwynt crefyddol oedd yr Athro Davies pan ysgrifennodd i'r Guardian ar ôl ennill Gwobr Templeton yn 1995: "I am therefore impressed by the extraordinary ingenuity, felicity, and harmony of the laws ofphysics. It is hard to accept that something so elegantly clever exists without a deeper reason or purpose I have no idea what the Universe is about, but that it is about something I have no doubt." Nid yw holi "beth ddigwyddodd" a "pham y digwyddodd" yn mynd i brofi bodolaeth Duw ond mae'r ffaith eu bod yn cyfeirio at "brif symudwr", "achos gwreiddiol" a "phwrpas sylfaenol" yn dystiolaeth gref i selio cred mewn Duw. Hap a Damwain yw Bywyd? Er gwaethaf holl ymdrechion yr Athro Richard Dawkins mewn llyfrau fel The Blind Watchmakermae yna'n dal i fod ganran uchel o wyddonwyr blaengar yn ei chael yn amhosibl i dderbyn bod bywyd wedi digwydd trwy hap a damwain. Meddai'rAthro Tim Hawthorne, Athro Biocemeg o Goleg Meddygol Prifysgol Nottingham yn ei Iyfr Windows on Science and Faith wrth iddo ddisgrifio sut i ail greu "bywyd gwreiddiol" byddai angen trefnu'n gywir rhyw ddeg mil o flociau asid amino i greu cyfres o broteinau "ln such a case there would be l&wpossible arrangements Then you must stick the nucleotide beads together a process needing a great deal ofchemical energÿ'. Llawfer yw 108000i nodi 1 gyda wyth mil 0 yn dilyn go brin y byddai Golygydd Cristion wedi bod yn fodlon rhoi digon o ofod i mi ysgrifennu'r holl bosibiliadau hynny allan yn llawn! a dim ond un o'r trefniadau fyddai'n debygol o arwain i fywyd. Yn y cylchgrawn Catholig The Tablet, yn Hydref 1988, dywed Mark Doughty wrth drafod ffigyrau tebyg am ddechreuad bywyd: "Nearìy all modem physicists findsuch facts so striking that they are forced to wonder aloud philosphically or even theologicallÿ' Mae annhebygrwydd y fath ddigwyddiad wedi bod yn gatalydd i nifer o brif wyddonwyr yr ugeinfed ganrif i gynnig damcaniaethau amgen ar ddechreuad bywyd. Credai Syr Fred Hoyle bod y syniad i'r fath drefniant ddigwydd trwy hap a damwain mor amhosibl fel y bu iddo ef a'r Athro Wickramasinghe o Brifysgol Caerdydd nodi yn ei llyfr Evolution from Space mai o'r gofod y daeth bywyd, tra bu i'r Athro Francis Crick, yr ydym yn dathlu hanner canmlwyddiant ei ddarganfyddiad o strwythur DNA (asid de-oxy-ribo-niwcleic) gyda James Watson, Maurice Wilkins a Rosalind Franklin eleni, yn ei Iyfr Life Itself: its origin and nature ddatgan mai mewn llong ofod o ryw wareiddiad pellennig y daeth bywyd. Canlyniad yr Athro Lipson, mathemategydd o Philadelphia yn yr Unol Daleithiau, yw "Very reluctantly, I now take the view that evolution cannot be a chance process, and I now postulate the notion of a Creator". I Gristnogion mae credu bod Duw wedi bod yn rhan anhepgor o broses y creu, yng ngwneuthuriad sylweddau ac yn nechreuad bywyd ei hun yn llawer mwy deallusol- foddhaol. Nid yw'r "ods" o'r cyfan yn digwydd trwy hap a damwain yn ffafriol o gwbl byddai tipyn mwy a siawns i ennill y Lotri Genedlaethol!