Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Colofn Stevenson Mae yr Arglwydd Hutton ar ganol saernïo ei adroddiad i'r amgylchiadau am farwolaeth yr arbenigwr arfau Dr David Kelly a'r disgwyl yw y bydd y gwaith yn gweld golau dydd rywbryd cyn y Nadolig. Mae 'na ddarogan canlyniadau gwleidyddol pellgyrhaeddol pan fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi, gyda'r sylwebyddion yn cytuno y bydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Geoff Hoon yn cael treulio mwy o amsergyda'i deulu gan na fydd gan Tony Blair fawr o ddewis ond ei sacio. Does 'na neb am weld golchi'i blwmars yn gyhoeddus ac mae rhai yn dal i ofyn beth ddaeth dros ben Tony Blair i sefydlu'r ymchwiliad yn y IIe cyntaf. Y gwir yw wrth gwrs, nad oedd gan y Prif Weinidog fawr o ddewis ac mai ymateb oedd o i bwysau gwleidyddol enbyd o'r tu mewn a'r tu allan i'w blaid. Cafodd saith deg o dystion eu holi yn ystod yr ymchwiliad, yn eu plith mawrion Downing Street a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, pennaeth y gwasanaethau cudd a Tony Blair ei hun. Bu rhai, fel gweddw Dr Kelly, yn siarad o'r galon am y dyn fu'n wr iddi am fwy na deg mlynedd ar hugain. Welwyd mo wyneb Mrs Kelly wrth iddi roi tystiolaeth ond pwy fyth all anghofio'r cryndod y tu ôl i'r llais ar y llinell sain. Pwrpas swyddogol sefydlu'r ymchwiliad oedd i holi i amgylchiadau marwolaeth yr arbenigwr arfau ac wrth grynhoi'r dystiolaeth ar y diwedd, dywedodd y bargyfreithiwr, James Dingemans fod Dr Kelly, yn ôl pob tebyg, wedi lladd ei hun. Ond beth bynnag am y cymhellion swyddogol, llwyddodd yr Arglwydd Hutton i fynd lawer ymhellach gan godi cwr y llen ar y ffordd mae Downing Street, y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ogystal â'r BBC yn gweithio. Clywyd am gyfarfodydd brwnt a chignoeth wrth i'r bobl sy'n gyfrifol am roi cyngor i weinidogion geisio penderfynu sut i ymdrin â'r ffaith fod Dr David Kelly wedi cydnabod y gallai mai fo oedd ffynhonnell adroddiad y newyddiadurwr Andrew Gilligan. John Yr Arglwydd Hutton Pwrpas holl strategaeth y llywodraeth oedd cadw'r baw oddi ar stepen ffrynt rhif 10 Downing Street ac i sicrhau fod Tony Blair yn dod allan o'r cyfan yn ddilychwin. Bu hon yn flwyddyn herfeiddiol i'r Prif Weinidog a'r gwleidyddion eraill oedd yn cefnogi'r gweithredu milwrol. Cawsant eu beimiadu'n hallt oherwydd yr ymgyrch yn erbyn Saddam Hussein ac mae safle'r Prif Weinidog yn y polau piniwn wedi dioddef o ganlyniad. Dwi'n cofio cael sgwrs gydag Ann Clwyd, un o gefnogwyr mwyaf brwd yr ymgyrch i ddisodli Saddam Hussein, rai misoedd yn ôl. Sôn oedd hi am gael ei heclo gan wrthwynebwyr rhyfel, wrth iddi gyrraedd Cynhadledd Plaid Lafur Cymru yn Abertawe yn gynharach eleni. Roedd hi wedi hen arfer cael ei heclo, meddai hi, ond mi roedd cael ei heclo yn ei hiaith ei hun, yn brofiad newydd, gyda'r feirniadaeth yn swnio'n fwy hallt a brwnt yn y Gymraeg. Y rhai fu uchaf eu cloch yn erbyn y rhyfel oedd rhai o'r arweinwyr eglwysig, enwadol. Yr hyn oedd yn fwyaf trawiadol ynglŷn â'r beirniadu clerigol oedd mai beirniadu gwleidyddol oedd o. Oedd, mi roedd 'na ymgais i wisgo'r geiriau hallt mewn dillad diwinyddol ond mae'n rhaid dweud fod 'na elfen gref yn y beirniadu hwnnw, o ddefnyddio Irac fel pastwn gwleidyddol i waldio'r Prif Weinidog. Mae 'na gwestiynau mawr, moesol a diwinyddol yn codi o'r hyn ddigwyddodd yn Irac. Sut, er enghraifft, y dylai gwladwriaeth ddemocrataidd ymateb pan fo teyrn fel Saddam Hussein yn gormesu ac yn lladd ei bobl ei hun? Pryd mae hi'n gyfiawn i wladwriaeth ymosod ar wladwriaeth arall heb ganiatâd cyfraith ryngwladol? Wedi'r cyfan, nid dyma'r tro cyntaf i wladwriaethau'r byd orfod wynebu'rfath sefyllfa. Ydan, 'da ni wedi "cerdded y ffordd hon o'r blaen" ac onid swyddogaeth yr arweinwyr enwadol yw ymdrin â'r pynciau enfawr hynny ac i geisio cynnig arweiniad athronyddol gwreiddiol o ryw fath yn hytrach na'r cawl di- faeth, ystrydebol sy'n cael ei gynhyrchu. Tybed a yw'r ffaith i'r arweinwyr enwadol fethu gwneud hynny yn arwydd o ba mor dlawd yw safon ein dadansoddi diwinyddol yn yr oes sydd ohoni. Llawn mor siomedig hefyd yw'r diffyg pwyslais o fewn ein henwadau ar yr angen i ddatblygu ymwybyddiaeth o hanes ein henwadau ac o'r ffydd Gristionogol. Yr argraff sy'n aros yn fy meddwl i o ymddangosiad Tony Blair gerbron ymchwiliad Hutton oedd y ffaith ei fod yn gwbl, gwbl argyhoeddedig a hynny ar dir moesol, ei fod o wedi gwneud y peth iawn drwy anfon milwyr Prydain i Irac. Cytuno gyda Tony Blair neu beidio, onid oes 'na wers bwysig i'r enwadau o'r fath gadernid ffydd?