Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tawel Nos! Sanctaidd yw'r Nos! Scersli bilif! Ym mhen ychydig wythnosau fe fyddwn yn cofio i Mair rwymo'r baban lesu mewn cadachau a'i roi yn y preseb, oherwydd nad oedd lle iddynt yn y llety. Pe bai Mair a Joseff yn teithio i Fethlehem heddiw, fe fyddai digonedd o Ie yn y llety, a thrafferthion dybryd i fynd i mewn i Fethlehem oherwydd y rhwystrau a godwyd gan filwyr Israel. Pe byddent yn llwyddo i osgoi'r rhwystrau drwy ddringo'r bryniau cyfagos a cherdded drwy'r meysydd, mae'n bosibl y byddai'r llety wedi cau na, nid yn ílawn ond wedi cau LLYFRAU'DOLIG Gwasg y Bwthyn Eiramango a'r Tebot Pine gan Harri Parri Mwy o straeon am bobol ryfeddol tref Porth yr Aur. Straeon Pabell Lên yn Eisteddfod Meifod. Straeon meistr y stori ffraeth Gymraeg. bwthyn GWASO Y BWIHYNN tlodyn y Golygydd LÔN DDEWI, CAERARFON, GWYNEDDLL55 1ER. Ffôn: (01286) 672018. oherwydd prinder ymwelwyr. Mae'n bosibl y bydd Noswyl Nadolig yn dawel nos, ond nid yn sanctaidd nos. Mae'n bosibl y bydd popeth ond cwsg yn cerdded gwaun a rhos. Bu tref enedigol Tywysog Tangnefedd yn llawn gwrthdaro a thensiwn ers blynyddoedd bellach. Y mae rhyfel a thrais fel cwmwl du uwchben Eglwys y Geni a chryn anghydfod oddi fewn i'r eglwys honno hyd yn oed ymhlith pobl a ddylai wybod yn well. Hwyrach y daw'r Cristnogion Palestinaidd o Fethlehem a phentrefi cyfagos Beit Jala a Beit Sahour o'u cartrefi am ychydig oriau i gerdded i'r eglwys i ddathlu'r ŵyl, "en sha'allah" (Os Duw a'i myn), ond go brin y gwelir tyrfaoedd mawr yn cyrraedd o'r tu allan i Fethlehem. Y mae'r ychydig Gristnogion sy'n parhau i fyw ym Mhalestina (neu'r Llain Orllewinol neu Diroedd y Meddiant neu Jwdea a Samaria, mae'n dibynnu ar eich gwleidyddiaeth neu ar y sawl a luniodd y map a ddefnyddir gennych) wedi eu rhannu i bob pwrpas gan drefedigaethau Iddewig neu ffyrdd osgoi pwrpasol. Nid oes atebion parod a slic i'r trafferthion yn y rhan honno o'r byd, ond eleni, bydded i Dywysog Tangnefedd, a anwyd yn y dref pan oedd dan warchae milwrol, gael ei eni o'r newydd ym Methlehem y Nadolig hwn. Hyderwn y bydd i'w bresenoldeb ef ynghyd â'n hymdrechion ninnau ar eu rhan, ddwyn heddwch drwy gyfiawnder i'w wlad IIe llefodd lesu am y tro cyntaf, lle canodd yr angylion am y tro cyntaf a lle credodd Cristnogion am y tro cyntaf. Bydded newyddion da o lawenydd mawr i'r holl bobl, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith dynion sydd wrth ei fodd. Y Fo yn y Tŷ Mair Wyn Hughes (Ar gyfer plant 12-13 oed) Stori am rywbeth atgas ac ofnadwy sy'n byw yn y ty, stori fydd yn gwneud i chi gloi'r drws. Ond mi fydd gwallt eich pen yn codi wrth ddarllen hon. Mi Wisga' i Gap Pig Gloyw gan Cledwyn Jones Hanes John Glyn Davies bardd y môr a bardd y plant, testun cerddoriaeth a llawer o luniau.