Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y deyrnged a ddarllenwyd ar ddydd ei hangladd gan Mererid Hopwood yn absenoldeb anorfod y gweinidog. Cofiaf holi Norah un tro pam y dewisodd 'Llwybrau' yn enw ar ei chartref, enw anarferol, a dweud y lleiaf, ar dŷ. Atebodd fod ganddi ddau reswm. Yn gyntaf, am ei bod yn awyddus i'r enw ddechrau â llythyren nad yw'n digwydd yn yr iaith Saesneg, fel na byddai gan neb (gan gynnwys y postmon) unrhyw amheuaeth mai Cymry Cymraeg oedd yn trigo yno. A'r ail reswm oedd y ffaith ei bod yn gweld ei bywyd yn nhermau pererindod yn ymestyn allan ar hyd nifer o Iwybrau gwahanol. Dyma a welir yng ngardd flaen y tŷ: nifer o Iwybrau, a'r rheiny'n mynd i sawl cyfeiriad. Os mai bwriad Norah oedd cynllunio'r ardd i fod yn ddarlun o'i bywyd, yna, yn sicr, fe Iwyddodd yn ei hamcan, oherwydd fe droediodd ar hyd nifer o Iwybrau tra phwysig yng Nghymru, a gadael ôl ei throed yn drwm ar bob un ohonynt llwybr addysg a diwylliant; llwybr ysgol a choleg; llwybr Urdd Gobaith Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol; llwybr y ddrama a'r cyfryngau; llwybr crefydd a chapel. Yr hyn sy'n arwyddocaol am y llwybrau yn yr ardd yw eu bod i gyd yn dechrau o un man canolog, man lle y saif carreg fawr, nid annhebyg i un o feini'rorsedd. Os mai niferus acamrywiol oedd diddordebau a gweithgareddau Norah, y tu ôl i'r cyfan yr oedd un bersonoliaeth fawr, fyrlymus, ddeinamig. Heddiw yr ydym yn ymgynnull ynghyd i fawrhau'r bersonoliaeth honno, ac i ddiolchi i Dduw amdani. Fe'n gorfodir mewn gwasanaeth fel hwn i brynu'r amser. Wrth grynhoi ein sylwadau, nodwn dair nodwedd oedd yn amlwg ym mhersonoliaeth ac ym mywyd Norah: 1.EIDAWN. Meddai ar ddawn gwbl eithriadol i gyfathrebu, i drosglwyddo gwybodaeth, ac i rannu gweledigaeth ac argyhoeddiad. Ble bynnag y gwelid hi ar Iwyfan; mewn ystafell ddarlithio; o flaen camera; ar ei haelwyd ei hunan roedd yn gyfathrebwraig ddihafal, yn un a ddaliai sylw ei chynulleidfa Norah Isaac gan Desmond Davies ar unwaith, ac a Iwyddai i gynnal y diddordeb hwnnw hyd y diwedd. Fe gyfoethogwyd y ddawn hon (ac fe gofiwn mai 'rhodd' yw ystyrwreiddiol y gair 'dawn'), gan dair elfen gwbl anhepgor: (i) Gallu. Gallu i ddadansoddi, feirniadu ac i werthfawrogi. A gallu rhyfeddol i gofio. Agyfarfuom erioed â rhywun a chof mor eithriadol o finiog a chynhwysfawr â Norah? Gwyddoniadur o gof! Cofio ffeithiau, enwau, sefyllfaoedd, digwyddiadau, hanesion. Roedd teithio gyda hi yn y car yn troi ar unwaith yn wers hanes, a honno'n llawn cyfeiriadau bywgraffiadol, diddorol at enwogion y fro. (ii) Gwybodaeth. Roedd ganddi wybodaeth gyffredinol eang, ynghyd â gwybodaeth neilltuol am briod feysydd ei hastudiaeth. A gwybodaeth arbennig am eu harwyr, gwroniaid megis William Williams, Pantycelyn; Gruffydd Jones, Llanddowror; Twm o'r Nant; Syr Ifan ab Owen Edwards; T. Gwynn Jones; Saunders Lewis; Gwynfor Evans, heb anghofio, wrth gwrs, am y seren a ddeuai ar frig ei rhestr, yn amlach na pheidio, sef lolo Morgannwg. (iii) Angerdd. Os bu farw Mari Tudur â 'Calais' wedi ei gerfio ar ei chalon, yn sicr bu farw Norah â'r gair 'Cymru' wedi ei naddu mewn llythrennau breision ar ei mynwes. Llosgai cariad at Gymru ei hiaith, ei diwylliant a'i thraddodiadau gorau fel tân eirias o'i mewn. Cymru oedd ei chenhadaeth. Ac ni all neb fod yn genhadwr heb i'r achos mawr a gynrychiola fod yn bopeth iddo. Y nodweddion hyn a'i gwnaeth yn athrawes ac yn ddarlithwraig mor effeithiol. Y mae gennyf yn fy llaw gopi o Rhaglen Ysgol Gymraeg Aberystwyth a sefydlwyd ym mis Medi 1939, a Norah wrth y llyw. Fel hyn y cyfeirir ati yn y llyfryn: 'Y mae Miss Isaac yn athrawes drwyddedig wedi ei hyfforddi yng Ngholeg y Barri. Yno derbyniodd dystysgrif y Bwrdd Addysg gyda chlod. Ni fyddem yn disgwyl iddi ennill dim llai na'r clod uchaf, nac i'r sefydliad a'i hyfforddodd roi iddi ond yr hyn a haeddai. Ac wele sylwadau pennaeth Coleg y Barri ar y pryd, sef y Brifathrawes Ellen Evans, ar yr hyn y bu'n dyst iddo yn Aberystwyth: 'Dyma o'r diwedd freuddwyd yn ffaith plant Cymru yn cael addysg mewn awyrgylch drwyadl Gymreig yng ngofal athrawes o ddawn eithriadol. Bûm yn gweld yr ysgol droeon, a phob tro llonnwyd fy ysbryd wrth weld llwyddiant digymysg y gwaith.'