Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bagad gofalon swyddog yr ysgol Sul gan Nigel Davies Swyddog Datblygu Gwaith Maes yw teitl llawn fy swydd ac fel mae'r teitl yn ei awgrymu fy mhrif ddyletswydd yw ceisio cefnogi a datblygu gwaith Cristnogol mewn cymunedau ymysg plant a phobl ifanc. Mae fy mhlwyf yn ymestyn ar draws De Cymru ac mae'r gwaith rwy'n ei gyflawni yn amrywiol iawn. Mae'n rhaid gweinyddu a threfnu, cyfathrebu a theithio, cynghori a hyfforddi, diddanu ac efengylu. Nosweithiau Arddangos Mae blwyddyn y Cyngor, fel yr ysgol, yn dechrau ym mis Medi. Dyma'r adeg pan fyddaf yn llwytho y treilar bach a'r car hyd at yr ymylon gyda llyfrau ac adnoddau er mwyn eu harddangos mewn canolfannau strategol ar draws y De. Mae'r cyfnod hwn yn galw am dipyn o deithio ac mae'n medru bod yn gyfnod blinedig yn enwedig o gofio am yr holl gario pwysau sydd ynghlwm wrth y gwaith. Mae'r oriau hefyd yn medru bod yn hir, heb gyrraedd adref ambell noson tan 11 :00 o'r gloch ac ambell waith ar ôl yr holl ymdrech mae'r ymateb i'r nosweithiau yn medru bod yn siomedig iawn. Ond, er gwaethaf hyn 011 mae'r nosweithiau hyn a drefnir gennym ym mis Medi yn gyfnodau allweddol bwysig. Maent yn gyfle gwych i athrawon ac arweinwyr Cristnogol i weld drostynt eu hunain y cyfoeth o adnoddau sydd ar gael ar eu cyfer. Mae nosweithiau arddangos hefyd yn rhoi cyfle i mi gwrdd wyneb yn wyneb ag athrawon Ysgol Sul ac eraill sy'n gweithio ymhlith plant ac ieuenctid ac i drafod gwahanol anghenion. Cwis Beiblaidd Yn ystod misoedd Hydref I Tachwedd trefnir gennym Gwis Beiblaidd ar gyfer plant oed cynradd ac oed uwchradd mewn tri rhanbarth ar draws y De a gwahoddir buddugwyr pob rhanbarth ynghyd â buddugwyr rhanbarthau'r Gogledd i rownd derfynol genedlaethol ar ddechrau'r flwyddyn yn Aberyst- wyth. Fel gyda phob gweithgaredd mae llawer o amser yn mynd i drefnu ymlaen llaw, ond mae'r gwaith hwn yn troi'n bleser o weld ffrwyth y llafur yn y nifer o blant ac ieuenctid sydd fel canlyniad yn darllen eu Beiblau ac yn cynyddu yn eu gwybodaeth o Air Duw. Fy ngweddi yw y bydd yr hyn y maent yn ei ddysgu yn aros yn eu calonnau ac yn magu blas arbennig tuag at yr Ysgrythurau. Mewn cyfnod pan fo gwybodaeth Feiblaidd yn rhywbeth prin iawn ymhlith yr ifanc rwy'n ystyried y Cwis yn un o'r gweithgareddau pwysicaf yr wyf yn ei drefnu ar hyd y flwyddyn. Chwaraeon Ygweithgaredd mwyaf poblogaidd yrwyf yn ei drefnu yw'r chwaraeon blynyddol. Cynhelir y cystadlaethau pêl droed a phêl rwyd 5 bob ochr yn ystod hanner tymor mis Chwefror. Trefnir y cystadlaethau hyn ar gyfer oedrannau cynradd ac uwchradd i fyny at 18 oed gan rannu'r De yn ddwyrain a gorllewin. Mae chwaraeon yn bwysig iawn ym mywydau llawer iawn o blant a phobl ifanc ac mae'n wych i gael y cyfle i drefnu cystadlaethau sy'n gyfyngedig i aelodau Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol. Yr hyn sy'n codi calon wrth ymwneud â'r chwaraeon hyn yw gweld plant o wahanol lefel o ran sgiliau yn cael y cyfle i gyd chwarae yn yr un tîm ac yn yr un gystadleuaeth. Yn ystod y blynyddoedd mae sawl plentyn wedi edrych i'm llygaid gyda gwên gan ddweud mai'r tlws cyntaf iddynt ennill erioed oedd yng nghystadleuaeth chwaraeon yr Ysgol Sul. Mae'r chwaraeon hefyd yn gyfrwng da i dorri lawr wahanol fathau o rwystrau a rhagfarn. Maent yn fodd i ddangos i rieni a phlant nad yw Cristnogaeth yn gyfyngedig i awr ar y Sul ond ei bod yn ymwneud â phob agwedd o fywyd. Mae chwaraeon yr Ysgolion Sul wedi bod yn gyfrwng cenhadol hefyd wrth i blant ac ieuenctid ddewis mynychu Ysgol Sul neú glwb Cristnogol er mwyn medru cymryd rhan yn y cystadlaethau. Gwersylloedd Mae'r cysylltiad rhwng y Cyngor Ysgolion Sul a Gwersyll yr Urdd yn Llangrannog yn ymestyn nôl tua 16 o flynyddoedd, cyn i mi ddechrau arfy swydd bresennol. Bob blwyddyn yn ystod yr wythnos sy'n dilyn y Pasg trefnir gennym ddau wersyll yn Llangrannog un ar gyfer plant oed cynradd ac un ar gyfer pobl ifanc. Yn ystod yr wythnos hon mae Ysgolion Sul y Gogledd a'r De yn ymuno ar gyfer gwyliau llawn hwyl mewn awyrgylch Cristnogol. Mae Llangrannog yn ganolfan delfrydol ar gyfer gwersyll o'r fath gydag amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i ddiddori'r plant, dewis da o ran bwyd, a digon o Ie i drefnu digwyddiadau o bob math. Yn ystod yr Haf rwyf hefyd yn gyfrifol am drefnu gwersyll arall ym Mhentywyn. Mae hwn ar gyfer plant i fyny at flwyddyn 7 ac mae'n wersyll poblogaidd iawn gyda'r 80 0 lefydd sydd ar gael wedi eu llenwi erbyn y Pasg bob blwyddyn. Prif bwrpas y gwersylloedd hyn yw darparu gwyliau Cristnogol a chyffrous. Ymysg yr holl hwyl a sbri mae amser