Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tuag at ddaear newydd gan Elenid Jones Daw teitl yr erthygl hon o'r llyfryn o'r un enw a fabwysiadwyd fel Datganiad o Fwriad gan Fwrdd Cymorth Crístnogolym mis Mawrth 2000 A minnau wedi ymddeol yr haf hwn o'm swydd gyda Chymorth Cristnogol, mae'n anodd credu bod bron pedair blynedd ar ddeg wedi mynd heibio ers i mi ddechrau gweithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd. Mae'r amser wedi mynd yn gyflym iawn ond ar yr un pryd mae'r byd wedi newid cryn dipyn ers 1989; mae'r mudiad wedi gorfod addasu ac y mae, ar sawl agwedd, yn wahanol i'r mudiad y dechreuais weithio iddo yn 1989. I ddechrau, mae'n llawer mwy, gyda staff arbenigol i ddelio â phroblemau'r byd cyfoes a'r sefyllfa yn Afghanistan, Congo ac yn awr Irac. Datblygiad arall sydd wedi cael cryn effaith ar y ffordd y mae'r mudiad yn gweithio yw'r dechnoleg fodem. Mae e-bost yn awr yn ffordd gyflym o gyfathrebu gyda'n partneriaid ar draws y byd er nad yw o fudd mewn ardaloedd cefn gwlad lle nad oes trydan ar gael ond, ynghyd â ffonau lloeren, mae wedi'n galluogi i weithio'n agosach fyth gyda'n partneriaid ac i ymateb yn gyflym i argyfyngau. Mae ymgyrchu hefyd wedi dod yn fwyfwy pwysig i Gymorth Cristnogol: heb newid yn y strwythurau sy'n cadw'r tlawd yn dlawd, mae'n amhosib creu gwellianttymor-hir. Yn y nawdegau, bu Cymorth Cristnogol ar flaen y gad wrth ymgyrchu dros Fasnach Deg a Dileu Dyledion y gwledydd tlawd ac y mae nwyddau teg i'w gweld yn yr archfarchnadoedd a Dyled yn uchel ar agenda arweinwyr y byd cyfoethog. Ac yn awr, herio strwythurau system fasnachu'r byd y mae'r mudiad, gan eu bod wedi'u gwyrdroi i ddwyn elw i'r cyfoethog a diystyru'r tlawd. Dyma rôl broffwydol Cymorth Cristnogol un sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn yng ngwerthoedd Cyfiawnder a Chariad ein ffydd Gristnogol. Ond beth yw'r pethau sy'n aros yn y cof ar ôl pedair blynedd ar ddeg? Heb os, mae'r daith dramor gyntaf i ymweld â phrosiectau Cymorth Cristnogol wedi cael ei serio yn y cof. Fy nhaith i Orllewin Affrica yn 1991 oedd y tro cyntaf i mi ymweld â gwledydd tlawd Senegal a Mali yn y cyswllt hwn. Dioddefodd y ddwy wlad yn enbyd gan y sychder ar ddechrau'r wythdegau ac yr oedd diffyg dwr glân yn effeithio ar bob un o'r prosiectau y bûm yn ymweld â hwy yma.Y mae'n dod yn fwyfwy amlwg bod Affrica yn dioddef eisoes oherwydd y cynhesu byd-eang sydd yn cael ei achosi gennym ni yn y gwledydd cyfoethog. Mewn pentref tlawd iawn ar y "dieri", y tir sych yng ngogledd Senegal, nid nepell o'r ffin gyda Mawritania, bûm yn treulio rhai dyddiau yng nghwmni'rtrigolion a oedd yn cael cymorth gan brosiect pwysig y mae Cymorth Cristnogol yn ei ariannu. Profiad bythgofiadwy oedd cysgu allan gyda'r pentrefwyr o dan y sêr am ei bod yn rhy boeth i fod y tu mewn, dan do. Codais tua saith o'r gloch y bore a gweld rhes o wragedd eisoes yn nadreddu eu ffordd yn ôl yn haul y bore o'r ffynnon a oedd rhyw dri chilomedr i ffwrdd. Yr oedd yn ddarlun hardd iawn, y gwragedd tal, gosgeiddig hyn yn cario piser llawn o ddwr ar eu pen. Ond yna sylweddolais eu bod yn gorfod gwneud hyn fore a hwyr, ddydd ar ôl dydd ar hyd eu hoes; dyw realiti eu bywyd ddim yn rhamantus a hardd ac fe roent unrhyw beth i gael dwr tap o fewn eu cyrraedd fel sydd gyda ni. A'r un stori a welais rai blynyddoedd yn ddiweddarach yn Ethiopia. Cofiaf i mi ofyn i un o'r gwragedd wrth y ffynnon yno a gawn i godi ei phiser pridd yn llawn o ddŵr; o'r braidd y medrwn ei godi chwe modfedd o'r llawr gan mor drwm oedd. Does ryfedd mai ychydig o wragedd sy'n goroesi eu hanner cant. Yr oedd llawer o'r prosiectau yn ymwneud â gwragedd oherwydd gwragedd yw'rtlotaf o'rtlawd ym mhob gwlad yn y byd, gan gynnwys Cymru. Ac eto, y mae addysgu a helpu gwragedd yn dod â bendithion i'r gymuned gyfan. Yn y pentref tlawd hwnnw yn Senegal, gofynnais i'r pennaeth pa un o'r nifer o brosiectau a oedd ar waith yn yr ardal trwy bartner Cymorth Cristnogol a oedd wedi bod fwyaf llesol i'w bentref ef nid oedodd y Mwslim traddodiadol hwn am ennyd cyn dweud mai'r prosiect gyda'r gwragedd oedd y mwyaf bendithiol "oherwydd trwy fod y gwragedd wedi cael addysg, mae'n bywydau ni i gyd wedi gwella". Nid yn aml y bydd staff rhanbarth Cymorth Cristnogol yn medru ail- ymweld â phrosiectau ond cefais i'r cyfle pan euthum â grwp bychan o athrawon Addysg Grefyddol i Senegal ryw wyth mlynedd ar ôl fy ymweliad cyntaf â'rwlad. Yr oedd y prosiect hwn ynghanol y wlad newydd ddechrau cael ei ariannu gan Gymorth Cristnogol yn 1991. Dim ond rhai oriau a dreuliais yno arfy nhaith a'rargraff a adawodd arnaf oedd teimlad cryf o dristwch ac anobaith, y pentref yn flêr, dim ffynnon iawn, dim teimlad o fywyd, a'r eglwys fach Gatholig (oherwydd pentref Cristnogol oedd hwn mewn gwlad Fwslemaidd) yn ddim mwy na darnau o sincen dyllog. Yr oedd Moise (Moses yn Gymraeg), gwr anllythrennog ond deallus, wedi sylweddoli na fyddai help yn dod o'r tu allan a cherddodd i'r ddinas i weld ei esgob a hwnnw'n ei bwyntio i gyfeiriad Cymorth Cristnogol. Pan ymwelais â'r pentref hwn wyth mlynedd yn ddiweddarach, dyna beth oedd trawsnewid! Yr oedd balchder yn yr adeiladau, yr oedd yno ysgol ac eglwys newydd wedi eu hadeiladu, yr oedd yno ddwy ffynnon newydd, prosiectau llythrennedd i oedolion a phobl ifanc, côr o bobl ifanc wedi'i ffurfio a grŵp drama a oedd yn perfformio yn y pentrefi cyfagos i ledaenu'r neges am bwysigrwydd glanweithdra, iechyd rhywiol, addysg ac ati. Cawsom berfformiad fin nos gan y grwp actorion greddfol yn cyfleu eu neges gyda hwyl a sbri. Fel yng nghefn gwlad Cymru, y mae cadw pobl ifanc yn y pentrefi yn broblem gynyddol ac yr oedd y prosiect hwn wedi llwyddo i wneud hynny.Yr oedd y ffermwyr yn cael hyfforddiant ar sut i ffermio yn fwy effeithiol, yr oedd prosiect amgylcheddol gyda meithrinfa blanhigion yn annog ffermwyr i blannu