Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PEDWAR BAN tfewyddion ffydd o r byd a r betws Rhybudd Rhag Cyfrif Pennau Y mae gweithwyr eglwysig sy'n gweithio ymhlith puteiniaid wedi eu rhybuddio rhag mesur llwyddiant yn ôl nifer y tröedigaethau. Y mae'r rhybudd yn ymddangos yn Working the Streets, llawlyfr, fel yr awgryma'r teitl, argyfery rhai sy'n gweithio ar y strydoedd. Cymeradwywyd y llyfr gan y Capten Estelle Blake, sy'n arwain prosiect Byddin yr lachawdwriaeth yn ardal "golau coch" Kings Cross Llundain. "Y mae afiechyd diweddaraf cymdeithas wedi cyrraedd yr eglwysi. Y mae'n rhaid wrth ystadegau i brofi eich bod yn gwneud rhywbeth!. Nid cyfrif dychweledigion sy'n mesur llwyddiant i mi ond yn hytrach gweld un o'r merched yn penderfynu troi i mewn i un o'n canolfannau" Y mae Byddin yr lachawdwriaeth yn amcangyfrif bod 5000 o buteiniaid yn cerdded strydoedd Llundain bob nos. Anghyffredin iawn yw tröedigaethau dramatig. Ond boddhawyd Capten Blakë yn fawr pan nododd un o'r merched, ar ei phedwerydd ymweliad â'r ganolfan, ei chrefydd fel "Salvation Army"! 0 Wisg Ledr i Goler Gron Y mae un o sêrffilm James Bond, Tomorrow Never Dies, wedi ei hordeinio i'r offeiriadaeth yng Nghadeirlan Lerpwl. Y mae Shannon Ledbetter yn gyn fodel ac yn un a ddaeth i'r amlwg drwy wisgo'r wisg PVC dynn gwerth £ 250,000 yn y ffilm. Bellach y mae'n gurad yn Eglwys Sant Marc, yn Knowsley, Lerpwl yn ogystal â bod yn ddarlithydd mewn diwinyddiaeth ac astudiaethau crefydd. Y mae'n awdur nifer o erthyglau ar grefydd a'r celfyddydau. Daeth tro mawr ar fyd ers dyddiau'r gwibio o gwmpas y byd ac ymddangos ar gloriau'r cylchgronau llathraidd. "Rwy'n sylweddoli fod hyn yn dipyn o newid" meddai, ond gwyddwn ers blynyddoedd fy mod am weithio un ai o fewn yr eglwys neu'r gymuned o safbwynt ffydd" Dadrithiwyd hi yn IIwyr gan y diwylliant modelu. "Roeddem yn treulio cymaint o amser mewn clybiau ac yr oedd cyffuriau yn broblem fawr. Gwyddai fy nghyflogwyr fy mod yn anghymeradwyo a bod gennyf argyhoeddiadau crefyddol cryfion oherwydd yr oeddwn yn gwrthod gweithio ar y Sul ac yn mynnu mynd i'r eglwys. Ganwyd Shannon yn yr Almaen ond treuliodd ei phlentyndod yn symud o gwmpas gyda'i theulu milwrol Americanaidd. A hithau bellach yn 39 mlwydd oed cychwynnodd yn y byd modelu pan yn 21 oed pan stopiodd gwraig mewn car tra'r oedd yn disgwyl am fws a gofyn iddi a fyddai diddordeb ganddi mewn bod yn fodel. Newid y Cloeon yn Eglwys y Geni Y mae Eglwys Uniongred Groeg ym Methlehem wedi cynddeiriogi Eglwys Rufain a'r Eglwys Armenaidd drwy fynnu rheolaeth Iwyr ar y cloeon a'r allweddau Eglwys y Geni. "Yr ydym yn honni mai ni yw perchnogion yr allweddau, ni yw gwarcheidwaid y drws" meddai'r Archesgob Aristarchos o Eglwys Uniongred Groeg yn Jerwsalem. Cydnabu fod y mynachod Uniongred wedi newid y cloeon a gwrthod rhannu'r allweddau. Y mae rheolau'r "Status Quo" a luniwyd yn 1852 yn dynodi'r gofod y gall Eglwys Uniongred Groeg, y Pabyddion a'r Armeniaid ei ddefnyddio i addoli yn yr eglwys. Y mae'r rheolau hefyd yn nodi mai'r Groegiaid sy'n gyfrifol am agor a chau'r drysau bob dydd ond fod gan y Pabyddion a'r Armeniaid hawl i ddal allweddau. Y mae'r Archesgob Aristarchos yn honni fod yr anghydfod yn deillio o'r cyfnod pan agorwyd y drysau heb ganiatâd i ryddhau cyrff nifer o Balestiniaid a laddwyd gan filwyr Israel, wedi iddynt gymryd lloches yn yr Eglwys. Ymddengys fod y tair carfan lawn mor benderfynol â'i gilydd ynglŷn â'u hawliau. Y mae Awdurdodau Palestina wedi datgan eu parodrwydd i gynorthwyo i ddatrys y broblem.