Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CROESAIR CRISTION Enw: Cyfeiriad: Noder: Bydd bloc ar gyfer pob symbol. Felly bydd y llythrennau dd, ng, II etc. yn cymryd dau floc. Anwybydder yr hirnod mewn anagram. Cyflwynir tocyn llyfr £ 10 am yr ateb cyflawn cynta dynnir o gelwrn y Golygydd ar 20 Tachwedd 2003 Anfoner y bloc wedi ei gyflawni at Parch Olaf Davies, Llys Cerdd, Ffordd Crwys, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2NT Enillydd y mis hwn yw: M C Jones, Bangor ADOLYGIADAU O'R WASG Dyddiaduron India, R. Gerallt Jones, Gwasg Y Lolfa, £ 6.95 Mae cyfaill gennyf sydd yn un o arweinwyr Eglwys De India. Pan ddeallodd hwnnw rai blynyddoedd yn ôl fod yr awyren y teithiwn adref arni o'n cyfarfyddiad yn y Dwyrain Pell yn glanio yn India, mynnai ei bod yn glanio yn y ddinas lle'r oedd ef yn byw, fel y gallai roi croeso imi i'w gartref. "Ond nid yw'r awyren yn glanio yno," meddwn wrtho. "Does wahaniaeth am hynny,' meddai. "Chi ydi'r teithiwr. Mynnwch fod yr awyren yn glanio yno!" Daeth y digwyddiad hwnnw i'm cof droeon wrth ddarllen y gyfrol, 'Dyddiaduron India.' Agor nifer o ffenestri gwahanol i'r hyn a welodd ac a brofodd ar ei AR DRAWS 1. Stormydd, ac o'u gweld, Helo medd Tyst (12) 9. Pâr o'r Gogledd a aeth i'r De i gofrestru (4,1,6) 10. Bwriadau a droi'r yn adfeilion medd Cernyw (8) 11. Go brin y medrai preseb wneud hyn gystal â chrud (5) 13. Dyrchafedig (5) 15. Dyma rwym od i gysylltu dau (6) 18. Fe all cystudd bwyso fel hyn medd leuan Gwynedd (4) 20. Diwrnod i wisgo lifrai a medalau i rai (3,7) 21. Pererinion tua'r Gorllewin yn cludo rhoddion (3,10) I LAWR 2. Tanchwa ysbrydol yng ngeiriau T H Parry-Williams (1,8) 3. Gefyn (4) 4. Cawn edrych ar y rhain a'r ofnau o fryniau Caersalem (8) 5. Traethu, a'rwraig, o ddyddiau Eden, yn hollol ganolog yn y gwaith! (7 6. Canlyniad ysbryd gras yw'r awelon hyfryd yn ôl John Thomas (7) 7. Swydd gyntaf Joseff gerbron Pharo (9) 8. Y crys olaf a roir i'm gwas (6) 12. Hylif trugaredd arffordd Jericho, a hylif creulondeb ar Iraciaid (4) 14. Y di-ddal sy'n cyfarth gyda phob syniad ysbeidiol (7) 15. Y baban o'r Aifft a aeth yn gyfreithiwr pen y mynydd (5) 16. Lliw'r rhosyn a welodd llencyn ar y clawdd yn tyfu (5) 17. Enw Duw a welwyd drwy'r ha cymysg yn y we (5) 18. Pan ddaw'r Arglwydd dyma fydd yn digwydd i'r mynyddoedd yn ô Micha (5) 19. Y gwaith hwn yw hanfod y Nadolig o'r dechrau (4) Atebion Croesair Rhifyn Medi Hydref fa AR DRAWS: 3. Carcharau 8. Hwyl9. Hiliaeth 10. Gwenau 13. Enaid 14. Trybini 15. Pen 16. Newynog 17. Golwg 21. Dethol 22. Myfyriwr 23. Marc 24. Gwastraff. I LAWR: 1. Rhaglenni 2. Cymeradwy 4. Achub 5. Cil-dwrn 6. Araf 7. Arth 11. Diolchgar 12. Diogelwch 14. Teg 15. Potsiar 18. Adref 19. Sylw 20. Byns. deithiau yn India ym 1984 a 1987 y mae'r awdur yn y gyfrol ddiddorol hon. Treuliodd, y diweddar R. Gerallt Jones, oedd yn enedigol o Ben Llyn, rai blynyddoedd yn gweithio fel addysgwr yn Jamaica, gan geisio, wrth wneud hynny, wella ansawdd bywyd pobl yr ynys honno yn y Caribi, ac wrth gofnodi argraffiadau a phrofiadau ei deithiau yn India, lle'r aeth ar wahoddiad Cymorth Cristnogol i arolygu rhai prosiectau, mae'n aml yn gwneud cymariaethau rhwng Cymru ac India, a rhwng tlodi ac angen Jamaica a thlodi ac angen India. Ac yntau, er enghraifft, yn ninas Hyderabad (tud. 60), mae'n adrodd amdano'i hun yn eistedd am awr mewn swyddfa yn aros i'r gweithwyr gyrraedd. "Rwy'n dechrau dygymod â'rffaith," meddai, "nad yw