Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

eistedd am awr dawel yn anghyffredin o gwbl yn India. Ac yna fe ddaeth y dyn crwn o Kerela, a haid o weithwyr gydag o. Fesul dipyn, a chan ddweud wrth un, 'Dos,' ac wrth arall, 'Tyred', roedd wedi trefnu rhaglen wythnos mi mewn amrywiol fannau, ac wedi trefnu brecwast a chinio canol dydd i mi yn ei ganolfan hen-ffasiwn, hen fyngalo Fictoraidd, ac wedi eistedd a'm gwylio'n bwyta'r naill bryd a'r llall. Cyfarfod yr holl staff tuag ugain wedyn o gwmpas bwrdd mawr, a sesiwn o holi ac ateb. Roedd y staff i gyd yn eu cyflwyno'u hunain i mi fesul un y teipyddion a'r Cyfarwyddwr fel ei gilydd. Ac fel y gwelais o'r blaen, mae ansawdd trafodaeth fel hon yn llawer mwy athronyddol yn India nag y byddai hi, dyweder, yn Jamaica, neu hwyrach yng Nghymru Gwir y dywed y Parchg.Tom Evans yn ei ragair i'r llyfr: "Wrth i Gerallt deithio India, cafodd groeso mawr .y dyn gwyn cyhyrog o Gymru a fentrodd i sefyllfaoedd digon peryglus ar brydiau i weld beth y gellid ei wneud i helpu'r gwan-na, nid i helpu'rgwan, yn hytrach helpu'rgwan helpu eu hunain." Mae sawl enghraifft y gellid eu nodi o'r awdur yn cyfarfod rhywrai neu'i gilydd, y cafodd drwyddyntgip arfywyd a thlodi India y slymiau echrydus a godai gyfog arno mor aml; harddwch ambell ddinas Indiaidd "yng nghanol y swn a'r budreddi;" swn byddarol pobl yn canu eu cyrn drwy'r amser," fel Jamaiciaid yn gwneud gwrando ar unrhyw sgwrs fwy neu lai yn amhosibl." Da yw cael cymeradwyo'r "Dyddiaduron lndia,"gyda'rdarluniau a'r mapiau gwahanol sydd yn y llyfr a'r portreadau cryno a difyr a'r sylwebaeth ddiddorol a gwerthfawr. loan W. Gruffydd Rhywbeth i'w Ddweud, Gol. Tomos Morgan, Gomer 2003, £ 14.99 Llythyr na ddarllenir mo'i ddewrach na'i dynerach, ond yn anaml iawn, yw'r un a ysgrifennodd Dyfnallt Morgan pan oedd yn aros am lawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd ac wedi cael ar ddeall y gallai fod terfyn ar ei rawd ddaearol yn gynt na'r disgwyl. Rhag difetha awyrgylch dwys y llythyr, a'i wefr, i ddarpar ddarllenwyr y gyfrol hon o'i waith fe nodir yn unig ei fod yn ddrws diogel, eglur i'w gymeriad, yn gyffes lachar o'i ffydd gadarn ac yn esboniad ar ei holl weithgareddau a'i fyw. Fe all mai â'r llythyr hwn y dylid dechrau darllen y gyfrol. Serch nad hunangofiant, fel y cyfryw, rnohoni, fe'i nodweddirgan elfen helaeth o'r hunangofiannol. Mewn arddull fywiog, ddiymhongar, fe'n tynnir gan Dyfnalltarei ôl i'w fro enedigol, Dowlais, ac i Goleg Prifysgol Aberystwyth 11e bu'n fyfyriwr. Ac yntau'n heddychwr o argyhoeddiad fe'i cofrestrwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel gwrthwynebydd cydwybodol ac, o ganlyniad, bu am gyfnod yn 'labro a gweithio rnewn ysbyty'. Pan ddaeth y cyfnod hwnnw o wasanaeth gorfodol i ben, ymunodd ag Uned Ambiwlans y Crynwyr ac, yn afaelgar ddarluniadol fe'n cyflwynir ganddo i'w waith ymhlith ffoaduriaid rhyfel yn yr Eidal ac Awstria, a chyda'r un Uned i'w orchwylion yn China ar un o'r adegau mwyaf tyngedfennol yn hanes y wlad honno. Yna, oherwydd yr afiechydon blin a'i goddiweddodd, dychwelodd i Brydain ac am flwyddyn gyfan bu'n orweiddiog yn ysbyty Heatherwood yn Ascot. Wedi adennill ei nerth fe'i penodwyd, yn eu tro, i staff ei hen Goleg yn Aber- ystwyth, yn aelod o'r B.B.C. ac wedyn yn diwtor yn Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Gogledd Cyrmu. Dyna'n fras iawn brif gamre'r daith. Ar ei diwedd ni allem ddim llai na theimlo i ni gael ein harwain ar hyd-ddi gan wr cydwybodol, diymffrost, bonheddig a goddefgarei agwedd ond bob amseryn sicr o' i safiad ei hun. Ond rhan o'r gyfrol yw'r daith gyffrous honno. Fe'i cyfoethogir ymhellach gan ddetholiad o'i amryw, ac amrywiol, ysgrifau a cherddi, ei adolygiadau a'i gyfieithiadau, ei sylwebaeth dreiddgar ar y byd o'i gwmpas a'i gynhyrchion eisteddfodol. Ceir yma ei ddrama fydryddol arobryn, 'Rhwng Dau', yn Ei- steddfod Genedlaethol Môn 1957, ynghyd â'i bryddest anfuddugol, 'Y Llen', a ddyfarnwyd yn orau gan Saunders Lewis yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl 1953, pryddest y bu cryn drafod arni. Tra gwerthfawr, ac yn gaffaeliad iddi, yw'r Nodiadau ar ddiwedd y gyfrol, a'r darluniau niferus sy'n ei harddu. Yn ei ryddiaith a'i farddoniaeth, fel ei gilydd, dadlennir consárn angerddol Dyfnallt a'i ofid am ddoluriau'n hoes yn gyffredinol, ac, yn benodol, am ddoluriau'n cenedl ni ein hunain, ei hiaith, ei chrefydd a'i diwylliant. Hyn, yn anad dim arall, sy'n peri bod ganddo 'Rywbeth' o bwys aruthrol 'i'w Ddweud' wrth ein cyfnod ac wrth bob un ohonom yn bersonol. Duw a'n gwaredo rhag anwybyddu ei ddweud a gwrthod ei ddewrder. A chan finioced y dweud, profiad ysgytwol oedd darllen y gyfrol wrol a heriol hon. I'r rheini ohonom a'i hadnabu odid na chlywir gennyrn, wrth ddarllen, ei lais melodaidd, soniarus a 'n cyfareddodd mor fynych. A'r gofod prin a ganiateir i hyn o adolygiad yn cau amdanom, ni fynnwn ei ddirwyn i ben heb ddiolch i Wasg Gomer am ddiwyg atyniadol y gyfrol, i John Gwilym Jones am ei gyflwyniad hyfryd ac i lolo Wyn Williams am y gamp sydd ar ei Gywydd Coffa. Yn bennaf oll y mae arnom ddyled drom i Tomos Morgan, unig fab Dyfnallt ac Eleri, am roi inni yn un gyfrol ddetholiad mor gyfoethog o waith ei dad. Mewn ystyr arbennig nid cyfrol am Dyfnallt mohoni, na chan Dyfnallt. Dyfnallt yw'r gyfrol. Y gwr mwyn â'r grym mewnol, Mor dlawd ein rhawd ar ei ôl. Dr E Stanley John LLYFRAU A DDERBYNIWYD Gwraig gorau o'r Gwragedd, Enid Pierce Roberts, Gwasg Pantycelyn, £ 5 Y mae Dr Roberts wedi trafod 'bwyd y beirdd' gyda chryn ddifyrwch cyn hyn. Yma mae'n troi at faterion yr un math o faes. Gwraig stad Ystumcolwyn, Meifod yw pwnc ei thrafodaeth y tro hwn.