Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gweddi agoriadol lesu ein Duw, cefaist dy eni yn blentyn nad oedd yn rhydd: yn dioddef tlodi, ymyrraeth gan bwerau estron, a pheryglon i'th iechyd. Yn dy enw Di, gad i ni gyhoeddi rhyddid i dy blant yn awr, ar yr adeg hwn, a thrwy y cenedlaethau oll. Boed i ni wrando unwaith yn rhagor am y sibrydion o bresenoldeb Duw yn ein plith, yn yr oriau arbennig pan gcawn gip ar y gwir Nadolig unwaith eto. A boed i oleuni yr Ŵyl hon oleuo pob agwedd o'n bywydau. Amen. Dewis o ddarlleniadau Beiblaidd Eseia 9 adnodau 6-7. Emyn Mawl Mair Luc 1, adnodau 46- 55 Prolog Efengyl loan. loan adnodau 1-5, 14. Darlleniadau y Bugeiliaid a'r Angylion yn Luc 2. Ymweliad y Tri Gwr Doeth Mathew 2. Myfyrdod "Beth mae'r Nadolig yn ei olygu i chi ? Gadewch Ef i mewn i'ch bywyd. Gadewch Iddo'ch arwain chi lle y mae am eich arwain. Mae'n gwybod y ffordd ac mae'n cario'r lamp. Yn wir, Ef yw y ffordd, y gwirionedd a'r bywyd. Ydych chi'n ystyried weithiau a oes gennych gariad at Dduw ar ôl yn eich meddwl a'ch calon ? Peidiwch â phoeni am hynny, ond cofiwch y gwirionedd syml Mae Duw mewn Cariad â chi." (Basil Hume) Cerddi Mae'r olygfa wedi ei gosod y gragen yn ei lle, a disgwyl a dyheu am glywed camau yn nesáu. Mae'r preseb yn ei Ie, ond run o'r cymeriadau cyfarwydd eto wedi mentro ar eu taith anodd tuag yno. Mae'r cyfle yma eto i ni. Tybed a fentrwn ar siwrne ? Neu adael y preseb yn noeth fel hyn heb run o'r cymeriadau a ddawnsiodd eu ffordd i'm calon i un dydd ? Deunydd defosiwn ar gyfer yr eglwys gyfan gan Aled Lewis Evans. Y PRESEB CYFOES (Cadeirlan Lerpwl ar drothwy Adfent) smmsmon NADOLIG Roedd 'na rywbeth yn go arbennig yn nhre'r Nadolig pan ddiffoddodd y trydan. I ganol ein prysurdeb, ein paratoi, daeth amheuaeth i gnoi i'n disgwyl caniataol. Pryd ddeuai'r golau yn ôl ? Dim gwerthu yn Marks, dim coffi yn y caffi, y siopau'n dywyll fud; fel petai'r gwir Nadolig yn ceisio cael cyfle i rannu'i genadwri. Ac roedd rhywbeth yn bra ynyrarafu, yr eistedd, y disgwyl, a'rsiaradefo'ngilydd. Roedd Duw yn deall yn union beth oedd o'n ei wneud pan dorrodd o'r cyflenwad trydan Noswyl Nadolig. Cân gyfoes ( i unigolyn neu barti) TASA DUW FEL CHDI A Fl. (Addasiad o'r gân boblogaidd What if God was one of us Fe'i cenir gan Martyn Joseph ac eraill.) Tasa Duw ag enw, beth a fyddai ? Wyneb yn wyneb allet ei yngan ? A taet ti'n ei gyfarch yn ei holl ogoniant beth ofynnet taet ti â dim ond un cwestiwn ? Ie, ie, Duw sydd ben Ie ,ie Duw sy'n wych, Ie, ie, ie, ie, CYTGAN Tasa Duw fel chdi a fi, llipryn fatha chdi a fi, dim ond teithiwr ar ryw fws ar ei Iwybr adre'n ôl. Tasa Duw â wyneb, sut un fyddai ? Fyddet ti am weld os yw'n golygu DIFFODD Y GOLAU