Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bod gweld yn golygu credu hefyd mewn pethau fel Nef, lesu a'r holl seintiau a'rholl broffwydi Ie, ie. Duw svdd ben Ie, ie, Duw sy'n wych. Tasa Duw fel chdi a fi, llipryn fatha chdi a fì, dim ond teithiwr ar ryw fws ar ei Iwybr adre'n ôl yllwybrhiradre'nôl nôl i'r nefoedd unig hon a neb i wrando ar y ffôn, ac eithrio'r Pâb ym mhendraw'r lôi Ie, ie, Duw sydd ben Ie, ie, Duw sy'n wych. CYTGAN Dim ond ceisio'i gartref nôl fel rhyw deithiwr sanctaidd ffôl nôl i'r nefoedd eto'n ôl, yn teithio ar y daith fythol Neb yn galw ar y ffôn Dim ond y Pâb ym mhendraw'r lôn. Tasa Duw fel chdi a fi Gweddïau Tyrd, O Dduw, Tyrd yn agos i'th fyd dan gysgod Rhagfyr. Yn y dirgelwch morwynol boed i Ti hau hadau Nadolig Llawen rasMrara LLANDYSUL-CEREDIGION-SA44 4QL HHCTrma gobaith. I dawelu pobl syml sydd heb y ffydd orchestol, na chwaith yn sïwr o'r ffordd i'r nef, sibryda iddynt ddirgelwch dy ddyfodiad. Boed i bob un ohonom sy'n gaeth i'r sioe dymhorol a'r marweidd-dra parselog chwilio am lonyddwch fel y bugeiliaid mwyn, a chlywed y gân o ogoniant o'r nef. Amen. Dad Nefol rho i mi Gariad diffuant tuag at eraill, y rhai dwi'n hoff ohonynt a'r rhai nad ydwyf. Helpa i mi oresgyn fy ofnau a'm rhagfarnau, er mwyn dy weld Di ymhob un. Grist fe groesawaist Ti y rhai dan draed, y rhai a deimlai'n fach, helpa ni i ddyrchafu pobl yn hytrach na'u hiselhau, i'w hatgyfnerthu yn hytrach na'u diraddio. Amen. Dduw, ffynhonnell gweledigaeth, fe ddatgelwyd dy ddyfodiad ymhlith y cenhedloedd ar lin Mair, nid ymhlith y pwerus a'r dylanwadol. Rho'r gras i ni i dy geisio lle y gellir dy ganfod, er mwyn i ddoethineb honedig y byd hwn gael ei iselhau, i ddarganfod dy Lawenydd annisgwyl Di. Amen. Y Fendith. "Yn nosyroesau, Trwy dywyllwch blinderau, Goruwch egrwch croesau Llewyrchodd golau Annileadwy y baban O Bethlehem am byth." A daw geiriau fel goleuadau i dywyllwch dynion Fel hen gof am gân orfoleddus angylion "Canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad yn ninas Dafydd, yr Hwn yw Crist, yr Arglwydd." GOMER 01559 363758 (Gwyn Thomas) iniBni