Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYNNWYS SiH y Mamau 3 Beti-Wyn James Gweddio-Cymuno-Cymodi 5 Glyn TudwalJones Chwarae yng nghwmni Duw 7 TegidRoberts Her i'r Ysgol Sul 8 Huw John Hughes Medalau Coffa Gee 9 S Wayne Roberts Cylchgrawn Cynnar 10 Maldwyn Thomas Cofio Dafydd Owen 12 Branwen Niclas Croesair Cristion 15 Llun a Stori 16 Gwenda Richards Crefydd yn yr Ynysoedd Føroyar 18 Clive James PEDWAR BAN 20 OlafDavies Defosiwn y Sul 22 Denzil I John Llun y clawr: Eglwys Newydd, Torshaun, Ynysoedd Føroyar Golygydd: Parchg Aled Davies, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6SH FfOn: 01766810092 Cyfeiriad e-bost: aled.davies@bangor.ac.uk Ysgrifau, Llythyrau, Llyfrau i'w hadolygu i'r cyfeiriad hwn. Golygydd testun: Cylchgrawn dau-fìsol yw Cristion a gyhoeddir gan Fwrdd Cyhoeddi ar ran yr eglwysi canlynol: Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Yr Eglwys Fethodistaidd, Yr Eglwys yng Nghymru, Undeb Bedyddwyr Cymru, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a'r Eglwys Gatholig Rufeinig. Cynllunydd: Parchg. Aled Davies Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli: Parchg. Desmond Davies Ysgrifennydd: Parchg. Clive Hughes, The Vicerage, Hanmer, Whitchurch, SY13 3DE. Ffôn: 01948 830468 Trysorydd: Mr Hywelfryn Jones, Ffin yr Afon, Gwbert, Aberteifi SA43 1 PP. Ffôn: (01239) 613075 Cylchrediad a Hysbysebion: Parch S Wayne Roberts, Glasfryn, Gellifor, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1RY. Ffôn: 01824 790364 Argraffwyr: Gwasg Y Bwthyn, Lôn Ddewi, Caernarfon. Ffôn: (01286) 672018 Wrth i'r rhifyn hwn o Cristion gael ei roi at ei gilydd fe welir maes diddordeb y golygydd yn glir. Mae yna thema clir i'w weld yn y rhifyn hwn, sef maes gweinidogaeth gyda phlant a ieuenctid. Diolch i'rcyfeillion hynny a gyflwynodd erthyglau amrywiol, yn sôn ychydig am y ddoe a'r heddiw, ac ambell her i'r yfory yn ogystal. Mae Huw John Hughes yn tynnu ein sylw at Morgan John Rhys, a oedd yn arloeswr ym maes addysg Gristnogol; a Maldwyn Thomas yn ein atgoffa o hanes gyhoeddi cylchgrawn Trysorfa yr leuenctid i blant ac athrawon Ysgol Sul. Mae eleni hefyd yn ganmlwyddiant cyflwyno medalau Gee i ffyddloniaid yr ysgol Sul, a ceir erthygl gan Wayne Roberts, sy'n gweinyddu'r medalau yn y gogledd, ac yn ein gwahodd oll i ymuno yn y dathlu yn Llandudno eleni ar y 18fed o Fai. Un a wnaeth gyfraniad enfawr ym maes gwaith plant a ieuenctid yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn oedd y diweddar Dafydd Owen, ac yn y rhifyn hwn y mae Branwen Niclas yn talu teyrnged iddo. Trwy ei waith yng Ngholeg y Bala, ac o fewn Adran leuenctid Esgobaeth Bangor, bu ei gyfraniad a'i ddylanwad ar Gristnogaeth yng Nghymru yn gwbl anhygoel, a diolchwn i Dduw amdano. Cawn flas hefyd ar y presennol gan Tegid Roberts, sy'n sôn am ddull newydd o gyflwyno'r stori Gristnogol, sef cynllun Godly Play neu Chwarae yng Nghwmni Duw. Mae Gwenda Richards ar y llaw arall yn ein atgoffa o Ie plant ym mywyd lesu ei hun, wrth fyfyrio ar lun Rembrandt, 'Cristyn bendithio'r Plant'. Dyna yw ein gweddi ni o hyd yng Nghymru, trwy'r gwahanol weithgarwch ac ymdrechion y bydd i'n plant deimlo 'bendith fawr Crist' wrth ddod i adnabod lesu yn Arglwydd ac yn Waredwr. Annwyl Danysgrifwyr a Hysbysebwyr, Yn wylaidd iawn y bu imi dderbyn y Swydd o farchnata Cristion, i geisio dilyn dyn mor arbennig ag Alun Creunant Davies. Ond o barch i'w ymroddiad a'i sêl frwdfrydig dros y pethe, yr oedd yn amhosib gwrthod. Rwy'n ddyledus i Gwenan a chyfeillion eraill am osod y gwaith papur mewn trefn a'i ddiweddaru. Ond yn fwy na dim carwn ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi ateb y llythyrrau, a chydweithio yn y dechrau fel hyn Diolch yn fawr. Edrychaf ymlaen at gydweithio i'r dyfodol. Yn gywir, S Wayne Roberts