Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
gan Beti Wyn James
Neilltuir un Sul y flwyddyn, ym mis Mawrth, yn Sul
y Mamau. Ond beth yw ystyr y Sul hwn i ni?
Ymhlith y cyfeiriadau sydd gennym yn llenyddiaeth
ein cenedl at Fam, fe gofiwn i Waldo ddweud am ei
rieni yn un o'i gerddi mwyaf adnabyddus, Y
Tangnefeddwyr,
'Pa beth heno, eu hystad,
Heno pan fo'r byd yn fflam?
Mae Gwirionedd gyda 'nhad,
Mae Maddeuant gyda 'mam,
Gwyn eu byd yr oes a'u clyw,
Dangnefeddwyr, plant i Dduw.'
Yn ogystal  Moli'r Fam ar ffurf Salm,
'Rhoes yr Arglwydd yn hon
angor i deulu
ac amddiffynfa i gartref.'
canodd W Rhys Nicholas yn hyfryd am ei fam ei hun,
'Bu fyw'n dda, bu fyw'n ddiwyd
A lle bu hon, mae gwell byd.'
A phwy ohonom nad yw, yn ddistaw bach, efallai
wedi llunio cerdd yn ei galon (ei chalon) i'r un a'n
magodd ar ei bron ac a siglodd ein crud?
Mewn un man yn yr Hen Destament, mae Duw yn ei
gyffelybu ei hun i fam trwy ddweud, 'fel y cysurir plentyn
gan ei fam, byddaf fi'n eich cysuro chwi' (Eseia 66:13),
ac mewn man arall fe gawn bortread lliwgar iawn o'r
wraig, neu'r fam, rinweddol 'sy'n fwy gwerthfawr na
gemau y mae'n sylwi'n fanwl ar yr hyn sy'n digwydd
i'w theulu, ac nid yw'n bwyta bara segurdod. Y mae ei
phlant yn tyfu ac yn ei bendithio, a bydd ei gur yn ei
chanmol' (Diarhebion 31). A phan drown at y Testament
Newydd fe'n cyflwynir i'r wir fam fedrus a rhinweddol,
sef Mair, mam lesu, mam yr edrychir arni yn y
traddodiad gorllewinol felpatrwm i bob mam ac yn fodel
mamolaeth.
Mae'n wir nad ydym ni Brotestaniaid yn addoli
Mair, nac ychwaith yn galw arni hi yn ein gweddau,
ond rydym yn ei hanrhydeddu hi, oherwydd trwyddi hi
y daeth 'Duwdod mewn baban i'n byd.' Wrth i Elisabeth
deimlo'i baban yn llamu yn y groth pan gyfarchwyd hi
gan Mair ar ei hymweliad  thy Sachareias, llefodd
Elisabeth  llais uchel 'Bendigedig wyt ti ymhlith
gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth', llef y bu i
Sut y Mamau
Mair ymateb iddi ar gn yn ei Hemyn o Fawl 'Y
mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd, a
gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw, fy ngwaredwr.
(Luc 1:39-55).
Ychydig a wyddom ni am Mair ond, ar bwys
yr hyn a wyddom, ni allwn ddim llai na gweld ynddi,
yn un peth, ei hufudd-dod, a pheth arall, ei
gostyngeiddrwydd.
Ei hufudd-dod
Pan ddywedwyd wrthi hi gan yr angel y byddai'n
esgor ar fab, Mab y Goruchaf 'fe'i cythryblwyd
drwyddi' Ac er na ddeallodd Mair yn iawn beth
yn union oedd ystyr y cyfarchiad hwnnw, fe
ddywedodd 'Dyma lawforwyn yr Arglwydd;
bydded i mi yn l dy air di'. (Luc 1 :38). Ufuddhaodd
heb ddeall yn iawn. Ac onid dyna yw ffydd?
Cymryd Duw ar ei Air ac ufuddhau iddo ef? O
ganlyniad i'w hufudd-dod, daeth Mair i'w hadnabod
fel yr Efa Newydd. Anufudd-dod oedd y ddelw ar
weithredoedd yr Hen Efa. Roedd y demtasiwn i
fod fel Duw yn ormod iddi ei gwrthsefyll, ac fe
gymerodd o ffrwyth y pren a'i fwyta a'i roi hefyd
i'w gwr. A'r pris a dalwyd, ac a delir o hyd, am bob
anufudd-dod tebyg yw doluriau a blinderau'n byd.
Ond yn ufudd-dod Mair, yr Efa newydd, daeth
gobaith newydd i fyd trallodus oherwydd trwyddi
hi fe aned 'Ceidwad a fyddai'n gwaredu ei bobl'.
Yr olwg olaf a gawn ar Mair yw wrth droed
y Groes, yn gweld ei Mab yn dioddef a marw. Ond
fe gadwodd hi y cyfan yn ddiogel yn ei chalon.
Mewn ymateb i waith lesu yn bwrw cythraul allan
o ddyn mud fe'i cyfarchwyd yn emosiynol iawn,
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for non-commercial purposes only while respecting the moral rights of the creators.