Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gan wraig o'r dyrfa, 'Gwyn eu byd y groth a'th gariodd, a'r bronnau a sugnaist', ond meddai lesu wrthi, 'Nage, gwyn eu byd y rhai sy'n clywed gair Duw ac yn ei gadw' (Luc 11:27-28). Cyfrinach gwynfydedd Mair oedd iddi hi glywed a chadw'r gair. Ei gostyngeiddrwydd Ac fel y mae'r sawl sy'n cadw Gair Duw yn ufudd, mae'r sawl sy'n ufudd yn ostyngedig. Yn ei hemyn, clywir Mair yn mawrygu Duw am iddo 'ystyried ei distadledd', ei gwaeledd, hynny yw bod yr Ysbryd wedi disgyn arni hi yn ei hisel radd. Disgynnodd yr Ysbrydlle yr oedd dynoliaeth wannaf, croth difywyd, ond allan o'r cnawd hwnnw ganed un sy'n fywyd ac yn llawenydd y byd. Nid yw Duw yn dewis ei bobl yn ôl unrhyw allu neu gymhwyster ynddynt hwy eu hunain, fel y cyfryw, ond oherwydd yr hyn y gall ef ei wneud ohonynt. Allan o ddaear afliniaidd a gwag y creodd Duw nefoedd a daear a throi'r chaos yn gosmos, ac anhrefn yn drefn, neu, o'i roi mewn geiriau eraill, allan o ddim y creodd Duw y byd, ac oni fyddwn ni yn ddim ni all Duw wneud dim ohonom ni. Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen Pontrhydfendigaid 2006 ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid Dydd Gwener, Ebrill 28 Dydd Sadwrn, Ebrill 29 Dydd Llun Gŵyl Calan Mai, Mai 1 Gwobrau hael ym mhob cystadleuaeth. Tair prif gystadleuaeth gorawl, gyda £ 750 o wobr gyntaf ym mhob un. Her Unawd Ø o wobr gyntaf. hefyd Yr Wyl Ddrama Mai 19/20 Rhestr Testunau oddi wrth: Yr Ysgrifenyddion Cyffredinol: Selwyn a Neli Jones Glanrhyd, 12 Maesydderwen, Pontrhydfendigaid Ystrad Meurig, Ceredigion SY25 6EU Ffôn: 01974 831695. e-bost: glanrhyd@btopenworld.com Os trwy Mair y ganed bywyd lesu, Duw oedd awdur ei fywyd. O'r Ysbryd Glân y deilliodd yr hyn a genhedlwyd ym Mair. Duw gymerodd y cam cyntaf. 'Cyn llunio'r byd, cyn lledu'r nefoedd wen, cyn gosod haul na lloer na sêr uwchben, fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn Un i achub gwael, golledig euog ddyn.' Ac fel y daeth bywyd Iesu trwy Mair ond o Dduw, felly hefyd creadigaeth Duw yw'n bywydau ni. Ar wahân i ewyllys Duw, nid yw mamolaeth na mabolaeth yn wynfydedig. Beth yw ystyr Sul y Mamau i ni, felly? Ai cyfle i roi teyrnged yn unig i'n mamau? Os dyna yw'n hymateb, fe allwn yn rhwydd dreulio oriau'r Sul arbennig hwnnw yn rhywle arall yn hytrach nag mewn Capel neu Eglwys. Ond i'r addolwr y mae'r Sul arbennig hwn, wrth ei ddathlu, yn gyfle i gydnabod mai rhodd Duw yw pob bywyd; mai rhodd Duw yw mamolaeth, ac mai oddi wrth Dduw y daw pob peth. yr unig radd Meistr o'i bath. MTh Astudiaethau Ecwmenaidd e Dewis o astudiaeth llawn-amser neu'n rhan- amser e Nifer o agweddau a datblygiadau ecwmenaidd e Canolbwyntio ar anghenion unigolion 01267 676767 www.drindod.ac.uk Coleg Tri College Eglwysig fewn Prifysgol Cymru