'Mae'r eglwys yn well am roi elusen nag ydyw
am uniaethu gyda phobl: gwell gennym roi
i'r digartref nag eistedd gyda hwy'.
'Ni allwn rannu'r bara toredig heb dderbyn
cyfrifoldeb am fyd toredig'.
'Nid oes rhaid inni chwilio am Dduw yn
unman, oherwydd y mae gyda ni. Nid oes
llwybrau tuag at Dduw; yr unig Iwybr yw ei
Iwybr ef tuag atom ni. Felly y mae pob person
yn fod sanctaidd, wedi ei greu ar ddelw Duw:
dyna fan cychwyn pob dealltwriaeth o'r
Cymun.'
CRISTNOGAETH A'R CREFYDDAU
Yn ddiweddar cyhoeddodd Eglwys Bresbyteraidd
Cymru ddogfen wedi ei pharatoi ar y cyd rhwng y
Panel Athrawiaeth a Bwrdd y Genhadaeth yn
ymwneud â'n perthynas â chrefyddau eraill, a chefais
gyfle i'w gyflwyno yn y Grwp; roedd gwerthfawrogiad
mawr o'r gwaith hwn, a gellir cael copïau ohono o brif
swyddfa'r Presbyteriaid yn yr Eglwys Newydd,
Caerdydd. Testun rhyfeddod i lawer o aelodau TUG
oedd bod Panel Athrawiaeth a Bwrdd Cenhadol wedi
gallu dod i un meddwl ar bwnc mor ddadleuol â hwn!
Yn sicr ni allwn osgoi'r cwestiwn hwn ymhle
bynnag rydym yn byw heddiw, oherwydd bydd
deiliaid crefyddau eraill y byd yn siwr o fod yn
gymdogion inni. Gan hynny, nid mater diwinyddol yn
unig mohono bellach, ond sut i fyw a gweithio gyda'n
gilydd o fewn un gymuned. O leiaf rhaid inni barchu'n
gilydd a cheisio dysgu oddi wrth ein gilydd, ac fel yr
ydym wedi gweld yn ddiweddar, mae camddeall a
cham-bortreadu'n gilydd yn gallu arwain at ddrwg
deimlad a hyd yn oed derfysg ar ein strydoedd.
Ond ni allwn droi o amgylch y cwestiynau hyn
yn hir nes i'r cwestiynau diwinyddol ddod i'r golwg.
Sut ydym ni i ystyried y genhadaeth Gristnogol
heddiw? Ayw'n iawn ein bod yn ceisio troi Moslemiaid,
er enghraifft, at Gristnogaeth? Ai un Duw sydd, a
bod syniadau pobl amdano'n amrywio yn ôl y
datguddiad a gawsant? Os nad ydym yn barod i
dderbyn hynny, rhaid inni un ai ddadlau bod llawer o
dduwiau'n bod, neu bod pobl eraill yn addoli'r hyn
sydd gau. A fyddem yn barod i ddweud hynny wrth
Foslem sy'n llawer mwy defosiynol ei grefydd na ni?
Dechreuodd un pregethwr amlwg annerch
cynhadledd aml-ffydd yn ddiweddar trwy ddweud:
'Felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd Moses yn
ddeddfwr; felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd
Mohamed yn broffwyd; felly y carodd Duw y byd fel
y rhoddodd lesu'n waredwr'. Cofiwn mai o'r un cyff
y tarddodd y tair crefydd honno.
Yn sicr mae gennym ffordd bell i fynd eto cyn y
medrwn ffurfio barn aeddfed yn ein meddyliau'n
hunain ar y cwestiynau hyn, heb sôn am eu trin a'u
trafod mewn ffordd gyfrifol o fewn ein heglwysi. Ond
mae yna elfen o frys inni dyfu mewn dealltwriaeth o'n
gilydd o fewn y gymuned ehangach yn ogystal.
Un gair i gloi
Mae TUG newydd gyhoeddi geiriadur defnyddiol iawn
o dermau eglwysig ('Ecumenical Glossary'), sef
geiriau yr ydym yn eu defnyddio mewn ffyrdd
gwahanol o fewn ein traddodiadau gwahanol. Er
enghraifft, nid yw'r gair 'eglwys' yn golygu'r un peth i
bawb ohonom, na'r gair 'diacon', neu 'presbyter'.
Mae hwn yn adnodd gwerthfawr iawn, ac yn adeiladu
ar lyfryn tebyg a gafodd ei baratoi gan Cytun rai
blynyddoedd yn ôl. Dyna enghraifft arall, dybiwn i, o
Gymru'n dangos y ffordd i weddill Prydain!
DECHRAU CANU
DECHRAU CANMOL
pob nos Sul
S4C
Green Bay
029 20 642387
dechraucanu@green-bay.tv
This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.
The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for non-commercial purposes only while respecting the moral rights of the creators.