Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

D "blannu'r fath ysgolion ymhob cymdogaeth D bod pregethwyr ac eraill sy'n ofni Duw yn ffurfio cymdeithas ymhob cymdogaeth i olygu'r fath waith a gwneud casgliadau i gynnal ysgolfeistri a rhoi llyfrau i'r plant. D cymell yr ysgolion i ddysgu'r plant ddarllen a'u cadw rhag gwneud drygau ar ddydd yr Arglwydd. D i'w dysgu i ffieiddio'r drwg a glynu wrth y da. D po fwyaf a fyddo gofal pob gwlad am ddysgu'r tlodion, lleiaf i gyd o ladrata a mwrdro fydd yno. Medalau Coffa Thomas a Susannah Gee: 100 oed eleni! Eleni fe welir canmlwyddiant gwobrwyo ffyddloniaid hyn yr Ysgol Sul. Gweledigaeth Miss Susannah Mary Gee Dinbych yn gwahodd ei brodyr a'i chwiorydd (wyth i gyd) i gyflwyno Medal Gee ercofam eu rhieni. Fe welir llythyr yn y Goleuad mis Mawrth 17eg 1906 gan Dr David Oliver, Treffynnon, yn gwahodd unrhyw un oedd yn 60oed a drosodd ac wedi rhoi ffyddlondeb arbennig i'r Ysgol Sui i geisio am y Fedal. Uchafswm o Wyth medal a gyflwynwyd am nifer o flynyddoedd ac yn 01 pob tebygrwydd yr un faint yn y De. Pwy oedd Thomas Gee? Mab Thomas Gee, argraffydd a Mary Ffoulkes, Hendrerwydd ger Dinbych. Addysgwyd ef yn Ysgol Grove Park Wrecsam, ac Ysgol Ramadeg, Dinbych. Priododd Susannah Hughes, merch John Hughes, Plas Coch, Llangynhafal, mis Hydref 1942. Fe'i prentisiwyd yn bedair ar ddeg oed yn argraffdy ei dad,Gwasg Gee. Treuliodd dwy flynedd yn dysgu'r grefft yn D trwy ddiwydrwydd personau neilltuol a chymorth y cyfoethog fe ellir gwneud llawer o ddoniau. D y pregethwyr ac eraill i holi'r plant am eu hadnabyddiaeth o Dduw ac ohonynt eu hunain." Mewn llyfryn arall o'i eiddo, "Cyfarwyddyd ac Anogaeth i sefydlu Ysgolion Sabothol ac Wythnosol" dengys yn glir nad ysgolion Sul enwadol oedd yn ei fwriad. Mewn sawl cymdogaeth yn Nghymru heddiw dydi'r Ysgol Sul ddim yn bod. Beth am dderbyn her Morgan John Rhys a cheisio creu ysgolion Sul pentref neu ardal mewn neuadd, festri, neu hyd yn oed ar aelwyd. Anghofiwn am Llundain cyn dychwelyd i ymuno â busnes ei dad. Roedd ei sêl dros yr Ysgol Sut yn arbennig, ac fel arwydd o'u gwerthfawrogiad o'i lafur diflino, cyflwynodd Ysgolion Dosbarth Rhuthun dysteb o oriawr aur ac anerchiad addurniedig. Fe wnaed hyn ym mis Rhagfyr 1877. Yn ôl y cyfamod a luniwyd gan Thomas a Susannah Gee, un o brif amcanion bywyd oedd hyrwyddo achos Crist. Credai Thomas Gee mai un o'r ffyrdd o wneud hynny oedd cefnogi'r Ysgol Sul. Mewn anerchiad frwdfrydig, disgrifiodd Thomas Gee yr Ysgol Sul fel 'ysgol ddringo a oedd yn codi a dyrchafu dyn. enwadaeth a phethau eraill cyffelyb sy'n caethiwo a llesteirio twf a datblygiad a mentrwn ymlaen yn hyderus. Ond mi clywa i chi'n gofyn, 'Beth fedra i wneud?' Trwydudalennau'rBeibl mae Duw yn defnyddio unigolion i gyrraedd ei bwrpas. Ewch ati i gynnull plant eu bro a'ch ardal a phwy a wyr na welwn eto yng Nghymru ysgolion Sul ar eu newydd wedd. Trwy weledigaeth Morgan John Rhys daeth bywyd newydd i fyd addysg a chrefydd yn y wlad. Ar wyl ein nawddsant wynebwn ei her ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain. YSefyllfaHeddiw. Erbyn hyn mae'r Fedal yn cael ei gyflwyno i ffyddloniaid yr Ysgol Sul sydd wedi cyrraedd 75oed ac yn parhau i fynychu'r Ysgol Sul. Eleni yn Eglwys Unedig Seilo, Llandudno ar brynhawn lau Mai 18fed am 2-30, fe welir gwobrwyo pum deg a naw o ffyddloniaid yr Ysgol SuI. Medal Anrhydedd Ers rhai blynyddoedd hefyd fe gyflwynir Medal, i berson a enwebir gan y Cyngor Ysgolion Sut am gyfraniad arbennig i'r ysgol Sul yn genedlaethol. Nid yw'r cyngor wedi cyflwyno'r enw am eleni hyd yma. Y Dyfodol. Ar hyn o bryd mae Holiadur yn mynd allan i'r enwadau a'r eglwysi i geisio darlun o sefýllfa'r Ysgol Sul yng Nghymru er mwyn rhagweld y gofyn am Fedalau yn y dyfodol. Mae'n waith pleserus iawn ac yn hollol amlwg fod derbyn y Fedal yma yn un o anrhydeddau mwyaf ym mywydau y rhai sy'n derbyn. S Wayne Roberts.