Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyfer ei bywyd newydd yn y wlad ddieithr, bell. Ac yn cael amser hefyd i ysgrifennu llythyrau at ei chariad, llythyrau sy'n dangos meddwl ymholgar a phryderus. Erbyn 1831 yr oedd cyfrifoldebau gwr a gwraig yn gyfrifoldebau tad a mam a chyflog gofalaeth Pendref yn annigonol. Ychydig o eiriau sydd ar gael am Josiah Thomas Jones y gweinidog yr oedd o yn 'hollol efengylaidd ei bregethu,' ond doedd yna fawr o lewyrch ar ei waith bugeiliol. Mae yna wawl o ddirgelwch ynglŷn âg o yn y cyfnod hwn rhyw bethau sy'n cael eu hawgrymu ond heb eu hesbonio yn y sylwadau coffa amdano. Ar ôl cyfnod fe ddaeth 'Caledfryn,' y golygydd a'r radical, yn olynydd i Josiah Thomas Jones yn eglwys Pendref ar Sul cyntaf 1832. Erbyn hyn yr oedd J.T.J. yn barod i gychwyn ar ei yrfa yn argraffydd a chyhoeddwryng Nghaernarfon. Dyma gam dramatig yn ei fywyd. Mae'n debyg mai ef oedd y mwyaf dibrofiad o holl argraffwyr a chyhoeddwyr y dref pan sefydlodd ei wasg Swyddfa Yr Eryr -ar stryd Bangor ac felly'n agos at gapel Pendref. Ond yr oedd ganddo un fantais fawr, sef cefnogaeth ariannol Augustus Lines yn Aston Abbotts. Y fo a dalodd am lawer iawn o offer argraffu y swyddfa newydd. Ac erbyn gwanwyn 1832 yr oedd popeth yn ei Ie, popeth yn barod ar gyfer antur newydd J.T.J. Bu J.T.J. yn argraffydd a chyhoeddwr yng Nghaernarfon, yn gyfrifol am Y Seren Ogleddol, (misolyn radical, gelyniaethus iawn i'r Torïaid a'r Eglwys Wladol) yn lonawr 1835, ac yn gydweithiwr â 'Chaledfryn' a 'Christion', Hugh Hughes yr artist a'r cynhyrfwr a'r pryfociwr proffesiynol. A hyn yng nghanol gwleidyddiaeth frochus deupen Menai yn ystod brwydrau etholiadol canol y tri-degau. Roedd J.T.J. yn creu gelynion ar raddfa beryglus yn y dyddiau hynny. Trysorfa yr leuenctid oedd cylchgrawn cyntaf 'Swyddfa yr Eryr.' Roedd yna lawer o gydweithredu rhwng 'William Jones Amlwch' a J.T.J. Y golygydd oedd yn gyfrifol am hel arian oddi wrth dderbynwyr y cylchgrawn ym Môn, a'r argraffydd yn gwneud y gwaith hwn ar y tir mawr. Cyflwynwyd y cylchgrawn bychan hwn i ieuenctid Cymru ac i athrawon yr Ysgol Sul. Yr oedd y cynnwys wedi ei baratoi ar gyfer dosbarthiadau'r Ysgol Sul gyda'r disgyblion yn cael eu hannog i dyfu yn y ffydd trwy alw arnynt 'I Wneuthur Arddeliad o Grist ym Moreu eu Hoes.' Roedd ymarweddiad priodol yn bwysig, ac mae'r cyfarwyddyd ar 'Y modd y dylai plant ymddwyn mewn tŷ addoliad' yn dangos natur gyfeiriadol y cylchgrawn. hc yn y byd yr oedd canllawiau Trysorfa yr leuenctid yn hollol unionsyth yn ôl uniongrededd y dydd: 'Tri pheth anhebgor i Gymro: ymddarbod yn ddoeth, bydio yn gall, a bucheddu yn lân.' Yr hyn sydd yma ydi egin y cylchgrawn enwadol ar gyfer ieuenctid fe welwyd cyhoeddiadau cyffelyb yn swyddfeydd y dref gyda'r blynyddoedd fel Cylchgrawn Yr Ysgol Sabbothol a'r Esboniad, y ddau ohonyn nhw yn ymddangos yn 1854. A'r dref wrth gwrs a fu'n gartref i'r Llusern o 1883 hyd 1916 heb sôn am Drysoría'r Plant ar adeg arall. Fe fu gyrfa J.T.J. yng Nghaernarfon yn ddolurus arbennig. Colli achos cyhoeddus yn llys sesiwn chwarter y sir ynglŷn â chyhuddo gweithiwr o ddwyn llyfr yn Ebrill 1836. Ac yn waeth, yn llawer gwaeth, cael ei gyhuddo o fod yn dad plentyn anghyfreithlon Mary Parry, merch leol, hynny eto yn y sesiwn chwarter, cyn i'r llys wrthod cais am wneud J.T.J. yn gyfrifol am y plentyn er mawr siom i elynion perchennog 'Swyddfa yr Eryr' a oedd yn y llys ar y cyntaf o Orffennaf 1836. Y gelynion mae'n debyg oedd y sawl oedd yn eiddigeddus o'r rhwyddineb a gafodd J.T.J. wrth gyfnewid pulpud Pendref am 'Swyddfa yr Eryr', a'r sawl a oedd yn elynion gwleidyddol iddo yng nghrochan politicaidd Caernarfon a'r cylch. Fe fynnodd J.T.J. gynnal cyfarfod mawr yng nghapel Pendref gyda chynrychiolaeth fawreddog o'r enwadau anghydffurfiol yn bresennol, er mwyn chwilio'i gymeriad a'i fuchedd. Dedfryd derfynol y cyfarfod rhyfeddol hwn oedd gwrthod pob un o'r 'cyhuddiadau dieflig' yn ei erbyn. Ond sibrydion, y winc slei, y wên gam dyma oedd tapestri dyddiau olaf J.T.J. yng Nghaernarfon. Dyma efallai sydd yn peri pryder i Rees a Thomas yn eu sylwadau ar yr argraffydd a'r cyhoeddwr yn Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru. Bu J.T.J. farw yn Aberdâr ar 26 lonawr 1873 ar ôl diwrnod rhagorol o waith yn argraffu ac yn cyhoeddi deunydd Cristnogol Cymraeg.