Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar y llaw arall roedd cymaint yn digwydd i Dafydd ar y sail yma o wthio ffiniau ar hap a damwain pobl neu sefyllfaoedd oedd o'n 'digwydd' taro ar eu traws a fyddai wedyn yn rhan annatod o'i fywyd. Ar hap y cafodd Dafydd y cyfle i gyfarfod y Fam Theresa, ac wrth gwrs fe Iwyddodd Dafydd i siarad ei ffordd rownd y wraig i gael ei ffilmio achlysur prin iawn yn ei hanes hi. Ond chafodd y Fam Theresa eilun i gymaint ddim argraff rhy dda ar Dafydd wrth gwrs toedd hi ddim yn groesawgar iawn a ddaru hi ddim gwenu a gwnaeth Dafydd ddim argraff rhy dda ami hitha chwaith achos roedd Dafydd yn hwyr! Yna i ynys lona, fel warden i Ganolfan MacLeod. Yma cafodd hafan i fyw mewn cymuned a gredai yn yr un weledigaeth â Dafydd cyfiawnder, heddwch a chymod a chyd-weithio er mwyn creu byd gwell. Yma hefyd roedd Dafydd yn berson poblogaidd, egnïol, fu'n ysbrydoliaeth i lawer. Ac mi 'roedd yr anrhydedd o gael ei dderbyn yn aelod llawn o gymuned lona ar y 4ydd o lonawr eleni yn anrhydedd hollbwysig i Dafydd. O lona yn ôl i Gymru, ac i Esgobaeth Bangor fel Swyddog leuenctid ac yn rhinwedd fy sywdd i gyda Chymorth Cristnogol buom yn cydweithio ar sawl prosiect. Yn y swydd hon roedd o wastad yn un i sbarduno syniadau newydd a 'Sbardun' roddodd o fel enw i'r gwasanaeth ieuenctid. Yn y cyfnod hwn llwyddodd hefyd i gael amser i raddio mewn diwinddiaeth o Brifysgol Rhydychen. Rhai o'r pethau fu Dafydd falcha ohonynt yn ystod ei gyfnod yma oedd y gweithgareddau drefnon ni ar y cyd adeg Dydd Rhyngwladol AIDS y Byd, Rhagfyr 2002- cynhadledd arweinyddion ieuenctid yn trafod HIV acAIDS, yn lleol ac yn rhyngwladol a'r gwasanaeth yng Nghadeirlan Bangor oedd ar y cyd gyda hosbis Tyddyn Bach ym Mhenmaenmawr hefyd. Yna yn anffodus ddiwedd y mis hwnnw, yr un mis ag yr oedd yn gadael ei swydd yn yr Esgobaeth, cyn dychwelyd i'r BBC fel Rheolwr Prosiect y Stiwdios Cymunedol fe gafodd y wybodaeth am ei gancr. Ond toedd y cancr ddim am goncro Dafydd. Parhaodd i fyw bywyd mor llawn ag y medrai ac fe barhaodd i deithio cymaint ag y gallai. Roedd Dafydd yn enghraifft o rywun oedd yn sicr yn byw gyda cancr nid yn 'diodde' o gancr. A mi fuodd yn agored am ei sefyllfa hefyd roedd codi ymwybyddiaeth am gancr y prostad yn bwysig i Dafydd yn ogystal â chodi arian ar gyfer ymchwil yn y maes. Llynedd pan ofynais i Dafydd a fyddai'n barod i gymryd rhan yng ngwasanaeth dathlu penblwydd Cymorth Cristnogol yn 60 yn Eisteddfod Eryri mi roedd yn sioc iddo fo a dwn i ddim pam. Achos roedd gan Dafydd ymlyniad cryf i Gymreictod ac i fudiadau fel Cymorth Cristnogol, Stonewall ac eraill sy'n brwydro dros gyfiawnder a hawliau cyfartal. Ym Mhen Llyn fu Dafydd yn ystod ei wythnosau diwethaf. Ac roedd Dafydd yn caru Bryn Bela, caru Llanbedrog ac yn caru Pen Llyn ei thirwedd a'i golygfeydd, ei hiaith a'i phobl. "Ma hyn yn wych", meddai Dafydd wrth edrych o'i gwmpas pan aeth allan am dro yn y car ar y pawn dydd Sul ola. Drwy gymaint o wahanol ffyrdd mi ddaeth Dafydd â miloedd o bobl at ei gilydd yn ystod ei oes fel y daeth â chynifer o bobl at ei gilydd yn ystod ei salwch ac yn ei wasanaethau angladdol. Bu'n lonawr hir i deulu a chyfeillion, ond bydd ystyr amgenach i'r lili wen fach ar ôl leni i mi. Roedd, mae a bydd Dafydd yn berson arbennig iawn i ni diolch iddo am rannu cymaint hefo ni. Bydd bywyd yn wahanol heb Dafydd mi fydd yn dipyn tawelach yn un peth! Ond Diolch Dafydd am bob dim nes di roi i ni yn her, yn brofiad, yn ddylanwad, yn atgofion Diolch o galon.