Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLUN Ä STORI gan Gwenda Richards Rwy'n cofio, flynyddoedd yn ôl, mynd i'r 'pictiwrs' i weld y ffilm 'The Greatest Story Ever Told'. Roeddwn i yn fy arddegau ar y pryd a gweinidog eglwys Engedi Caernarfon, y Parchedig Trefor Jones, wedi trefnu bws i Fae Colwyn. Roedd y bws yn llawn, a phawb, yn blant ac yn oedolion yn edrych ymlaen at weld y ffilm y bu cymaint o sôn amdani yn ystod y cyfnod hwnnw. A chawsom ni mo'n siomi. Nid gwylio ffilm yn unig ddaru mi'r noson honno, ond ymuno â'r tyrfaoedd a ddilynai Iesu Grist i bob man. Bûm gyda Iesu ar Fynydd y Gweddnewidiad ac roeddwn ymhlith y Pum Mil a gafodd eu digoni ar lan Llyn Galilea. Nid rhamant mo hyn, dyna'r gwir oherwydd onid oeddwn wedi tyfu yn swn yr hanesion a'r cyfan wedi creu cyfres o ddarluniau byw i aros yn fy nghof am byth? A'r cyfan a wnaeth y ffilm y noson honno oedd cadamhau'r darluniau a fu'n gymaint rhan o'm plentyndod. Gwn erbyn heddiw fod i'r ffilm ei gwendidau amlwg ac yn yr oes dechnolegol hon ymddengys yn druenus o arwynebol, ond yn y saithdegau bu ei gweld yn wefr i'r llygaid yn ogystal ag i'r deall. Yn gam neu'n gymwys rydym ar hyd y blynyddoedd wedi ffurfio darluniau pendant yn y meddwl wrth ddarllen y Beibl ac mae hynny'n wir am yr Hen Destament a'r Testament Newydd. Cofiwn yr hen Feibl Mawr ers talwm â'i luniau prin ond trawiadol. Erbyn heddiw mae'r darluniau a gynnigir i blant yn llawer mwy deniadol ac yn llawer nes at y gwir. Fy mhwynt i ydy ein bod ni fel Cristnogion, ar hyd y canrifoedd, wedi dibynnu llawer ar luniau wrth gyflwyno'r stori Gristnogol a'n bod wedi elwa llawer o'r lluniau hynny. Mae llun yn gyfrwng gwerthfawr i gyflwyno stori ac mae athrawon yn arbennig wedi manteisio ar hynny. Pam ddylen ni fel aelodau eglwysig fod yn wahanol? Yn arbennig felly o sylweddoli bod y datblygiadau diweddar ym myd technoleg yn agor drysau newydd i arweinwyr a phawb arall sy'n awyddus i weld y ffydd Gristnogol yn dod yn rhywbeth byw a pherthnasol ym mywyd addolwyr. Un o'r datblygiadau rheiny ydy 'PowerPoint'. Dwi'n cofio, rhyw ddwy flynedd yn ôl, archebu bwrdd i ddal y taflunydd ac meddai'r sawl oedd yn sgwrsio â mi ar y ffôn, wrth ddeall fy mod i ar fin anturio'n bryderus i fyd 'PowerPoint' "It'll transform your Sunday services and you'll never look back!" Ychydig a feddyliais i ar y pryd ei fod o'n dweud y gwir. Mae posibiliadau'r cyfrwng hwn yn bellgyrhaeddol. Fel un sy'n ymddiddori mewn ffotograffiaeth ac wedi mopio hefo'r cyfrwng digidol mae defnyddio llun mewn oedfa yn apelio'n fawr ataf, ac yn ystod y tair blynedd ddiwethaf rwyf wedi arbrofi gyda lluniau mewn sawl oedfa. Mae llawer o ddarluniau'r Meistri yn cynnig eu hunain megis 'Dychweliad y Mab Afradlon' gan Rembrandt neu 'Crist yn Bendithio'r Plant' gan Nicolaes Maes. Un arall ydy 'Y Sgrech' gan Edvard Munck sy'n addas i'w ddefnyddio yn nhymor y Grawys. Gellir tynnu neges Gristnogol ddofn o ddarlun nad yw'n portreadu golygfa o'r Beibl yn uniongyrchol ond sy'n amlwg yn fynegiant o fywyd yn ei holl gyfoeth a'i gymhlethdod. Erbyn hyn mae nifer o gwmnïau yn cynnig cyfres o ddarluniau ynghyd â sylwadau arnynt wedi eu paratoi'n arbennig ar gyfer eu defnyddio mewn oedfaon a nifer o'r darluniau hynny ar ffurf cyflwyniad 'PowerPoint'. Yn ôl, am eiliad, at ddarlun Rembrandt. Darlun digon tywyll ydyw ar un olwg, ond o syllu'n fanwl arno gwelir ei fod yn llawn symbolaeth a'r arlunydd yn amlwg wedi treiddio i ddyfnder ystyr ac arwyddocâd dameg Y Mab Afradlon. Defnyddia oleuni a chysgod i adrodd y stori ac mae dillad y Tad a'r ddau fab yn portreadu natur a chyflwr y tri chymeriad. Yn wir, gellir rhannu'r darlun a'i ddefnyddio mewn dwy oedfa, y naill yn canolbwyntio ar berthynas y Tad a'i fab ieuengaf, a'r llall ar berthynas y mab hynaf â'i Dad ac â'i frawd bach. Yr hyn ddaru mi oedd cyflwyno stori'r Mab Afradlon trwy gyfrwng y darlun a'i rannu rhwng dwy oedfa gymun. Yn ei gyfrol 'The Return of the Prodigal Son' cawn Henri M J Nowen yn gosod dameg y Mab Afradlon yn gyfochrog â bywyd Rembrandt a thrwy hynny yn dadansoddi'r darlun. Yr hyn a gyflwynir inni gan yr arlunydd Nicolaes Maes yn ei ddarlun 'Crist yn Bendithio'r Plant' yw geneth fach swil yr olwg yng nghwmni Iesu Grist. Mae ganddi gwdyn yn ei llaw ac mae golwg digon sarrug arni, sy'n awgrymu nad yw'r cyfarfod hwn â Iesu wrth ei bodd. Byddai'n llawer gwell ganddi