Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CREFYDD YN YR YNYSOEDD F0ROYAR Un o bleserau sydd ar gael i Gristion sy'n addoli mewn mannau cyhoeddus eglwysi, yw ymweld â mannau addoli Cristnogol eraill yn ystod y gwyliau blynyddol, ac felly blasu dulliau gwahanol o addoliad. Llynedd ail-ymwelais ag ynysoedd Shetland a Føroyar (Faroe) dau ynysfor yng ngogledd Môr yr Iwerydd rhwng Yr Alban, Norwy a Gwlad yr lâ, Tra yn ynysodd Shetland cerddais ar tan y môr Ynys Unst ar fore Sul i eglwys (Presbyteraidd) y plwyf. Nid oedd nemor gwahaniaeth rhwng ffurf y gwasanaeth i wasanaeth Cymraeg, anghydffurfiol yng Nghymru, ac eithrio, wrth gwrs, defnydd o'r iaith fain. Gyda llaw, y Methodistiaid biau'r eglwys fwyaf gogleddol yn yr ynysoedd hyn, sef Eglwys Haroldswick ar gongl gogledd-ddwyreiniol Ynys Unst. Fodd bynnag, gellir disgwyl gwahaniaeth ar yr ynysoedd Føroyar onid fod yr eglwysi yn rhan o'r gyfundrefn eglwysi "Lutheraidd", sydd wedi datblygu o'r diwygiad Protestannaidd yng ngogledd Ewrop? Lleolir yr un ynys ar bymtheg sy'n rhan o'r ynysfor 190 milltir i'r gogledd o ynysoedd y Shetland. Arwynebedd yr ynysoedd yw 540 milltir sgwâr gyda phoblogaeth o 49,000 (llai nag Ynys Môn), gyda 15,000 yn y brifddinas, Tórshavn. Mae'r ynysfor yn rhan o wlad Denmark, heb fod yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd, ond efo mwy o hunan-Iywodraeth na sydd gan Yr Alban heddiw. Mae'r iaith frodorol yn agosach i Norwyeg na Daneg. Wrth hwylio i borthladd Tórshavn, gwelir dwy eglwys fodern, un mewn pentref bychan a'r ail yn eglwys y plwyf trefol gorllewinol y prifddinas, yn ogystal ag eglwys hynafol y Gadeirlan eglwysi Llutheraidd i gyd. Trwy'r ynysoedd gwelir eglwysi hynafol y pentrefi mewn cyflwr ardderchog ac eglwys newydd lle mae'r boblogaeth wedi cynyddu. Gellir gweld enghraifft dda arall o eglwys modern yn yr ail dref, tref pysgota Klaksvik. Fel rhan o wlad Denmark, Daneg oedd iaith yr eglwysi Llutheran yn yr ynysfor, gyda'r mwyafrif o'r offeiriad o'r "mamwlad". Dim ond ym mlynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif y dechreuodd rhai offeiriad draddodi'r bregeth yn yr iaith frodorol (iaith pawb ond mewnfudwyr o Ddenmarc a gwledydd eraill). Bu rhaid disgwyl tan 1937 cyn cyhoeddi'r Testament Newydd yn yr iaith frodorol a 1961 ar gyfer yr Hen Destament a'r llyfrau emynau a threfn gwasanaeth. Wrth i chi fynychu oedfa gellir meddwl eich bod adref mewn eglwys anglicanaidd oherwydd ffurf y gwasanaeth yn wir mae'r eglwysi yn cyd-gymuno ac yn adnabod eu hurddau. Mae'r offeiriaid yn gwisgo coler "tuduraidd", gyda'r gwasanaeth i gyd yn yr iaith frodorol. Gan fod y genhedlaeth hwn wedi arfer efo gwasanaeth Daneg, gan Clive James clywir ar y radio adeg cyhoeddi amser gwasanaeth angladd fod angen i'r sawl sy'n dod gofio dod a'u llyfrau gwasanaeth ac emynau Daneg. Yr unig wahaniaeth o bwys yw'r modelau manwl o longau sy'n hongian o dô'r eglwys uwchben y gynulleidfa. Wedi'i lleoli yng nghanol Môr Iwerydd, pysgota yw prif ddiwydiant yr ynysfor. Hefyd, oherwydd cyfoeth y môr o amgylch yr ynysfor bu pysgotwyr o'r Alban, yn arbennig y gogledd-ddwyrain, yn ymweld â'r ynysoedd a glanio. Roedd rhai o'r pysgotwyr hyn yn "Plymouth Bretheren" ac wrth iddynt siarad efo rhai cenedlaetholwyr lleol gwelwyd fod cyfle i gyflwyno eu cred hwy i'r ynyswyr trwy'r famiaith, yn groes i arferiad yr eglwys wladol adeg hynny. Cyn y Rhyfel Mawr roeddent yn fudiad o bwys trwy'r ynysfor yn arbennig yn y canolfannau pysgota. Argraffwyd llyfr emynau ganddynt yn 1920 a chyfieithiad o'r Beibl yn 1949. Erbyn hyn ceir 30 o fannau addoli wrth grwydro trwy'r ynysfor. Mae'r enwau beiblaidd yn eich taro Berea, Elim, Hebron, Nebo, Siloa, Bethesda, Zaron, Ebenezer, Gideon, Nazareth, Bethania, Bethel, Salem, Kedron. Dyma addoldai'r Brødrasamkomur y Bretheran, neu'r "Baptists" ar lafar. Mae'r adeiladau mewn cyflwr da gydag estyniad diweddar i lawer ohonynt. Wrth edrych trwy'r ffenestri gwelir natur anffurfiol yr addoli cadeiriau mewn cylch o amgylch cadair hefo bwrdd, gyda Beibl a gitâr o'i flaen. Yn aml iawn mae eglwysi hanesyddol y plwyfi naill ai'n bell o aneddleoedd presennol neu yn anaddas am fwy na phrif wasanaethau'r Sul. Felly gwelid "missiónshúsid" canolfannau cenhadol, yn agos i gartrefi'r plwyfolion. Ceir 35 ohonynt trwy'r ynysfor, rhai