Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hefo enwau fel Carmel, Emmaus a Libanon. Fel hefo capeli'r "Bretheren" gwelir natur llai ffurfiol yr addoliad efallai ail wasanaeth y Sul neu wasanaeth canol yr wythnos, a defnydd cymdeithasol a chymunedol o'r adeiladau. Yn ogystal, mae'r Pentecostaliaid wedi agor saith o fannau cwrdd ar y prif ynysoedd a cheir un eglwys Gatholig yn Tórshavn. Bum yn teithio trwy'r ynysfor ar ddydd Sadwrn braf ym mis Awst. Roedd caeau bychain yn ymyl pob pentref yn llawn prysurdeb hefor tair cenhedlaeth y teulu yn casglu gwair er mwyn ei sychu ar gyfer yr anifeiliaid trwy'r gaeaf. Roedd y diwrnod canlynol yr un mor braf, y cynhaeaf gwair ar ei hanner, ond neb yn gweithio yn y caeau ar y Sabboth! Ar ôl dychwelyd i Gymru mi gefais gyfle i archwilio Gwefan yr ynysoedd (www.region.fo). Ynglŷn â'r Eglwys Lutheran, gyda'r esgobaeth yn ffurfio esgobaeth ar wahân ers ychydig hefo esgob a deon i'r Gadeirlan yng nghanol Torshavn, gwelir fod 14 o blwyfi modern. Yn ogystal ceir 25 o eglwysi plwyfol â'r 35 canolfan genhadol 60 o addoldai i gyd ar gyfer 119 o bentrefi a threfi. Gwasanaethir yr eglwysi gan 22 0 offeiriad plwyf. Cyfanswm yr "aelodau", o bob oed yw 40,500 sef 84% o'r boblogaeth i gyd. Mae'n anodd darganfod llawer o ffeithiau am y "Bretheren", ond amcangyfrifir for 10% o'r boblogaeth yn perthyn iddynt. Maent yn gryfach yn yr ynysoedd gogledd-ddwyreiniol, sy'n cynnwys yr ail dref a phrif borthladd pysgota -Klaksvik (lle mae 66% yn unig yn aelodau o'r eglwys sefydledig). Tua tri-chwarter y boblogaeth sydd yn priodi mewn eglwys. Gyda'r enwadau Cristnogol yng Nghymru i gyd yn wynebu problemau cyllidol, mae'r Wefan hefyd yn datgan cyllideb yr esgobaeth. Mewn costau'r Krona Daneg (nid yw'r ynysoedd neu Danmark yn defnyddio'r "Euro"), y gwariant oedd:- cynnal yr offeiriadaeth Kr12,780,000 37% cynnal adeiladau Kr14,104,000 41% gweinyddiaeth Kr518,000 1% ar gyfer cronfeydd Kr7, 152,000 21 Kr34,554,000 100% Mae'r incwm yn cael ei godi felly o'r wladwriaeth (cyflogau) Kr12, 780,000 37% o Gronfa Eglwys Foroyar Kr2,105,000 6% o'r Cyngor Plwyf Kr19,669,000 57% (Gwerth un Krona Danmark yw 10c] Pe baech yn awyddus i ymweld â gwlad fach arall, a digon o arian ar gyfer y costau teithio ac aros, sy'n debyg i gostau uchel gwledydd eraill Llychlyn, beth amdani? Enghreifftiau eraill o rôl ganolog yr eglwysi ym mywyd yr ynyswyr yw natur ceidwadol y ddeddfwriaeth trwyddedu alcohol (a'r gost !). Hefyd tri o'r prif westai, yn Torshavn, Klaksvik a Vestmanna, oedd yn wreiddiol wedi eu hadeiladu ar gyfer morwyr a physgotwyr, naill a'i yn astudio neu ar y tan yn y tair prif dref. Hyd heddiw cesglir arian er mwyn Ueihau'r costau ac nid yw alcohol ar gael neu i'w yfed yn yr adeiladau, ond maent yn darparu llety digonol a chymharol rhad i ymwelwyr.