Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pregethau Pod Y mae Ficenaia yn rhoi eu pregethau ar y wê er mwyn i'w plwyfolion wrando arnynt ar eu teclynnau /pod. Y mae'r defnyddwyr yn tanysgrifio i'r gwasanaeth sy'n caniatáu iddynt lawr Iwytho'r pregethau. Dywedodd y Parchg. Shannon Ledbetter o Eglwys y Santes Fair, Knowsley, "Mae hyn yn drefniant gwych ar gyfer yr henoed a'r bobl hynny sy'n gaeth i'w cartrefi. Yr unig beth sydd angen ei wneud yw trefnu eu bod yn cael teclyn /pod ac y mae nhw'n barod i fynd. Mae digon o gymorth arnyn nhw hefyd i gynorthwyo'r ifainc ateb cwestiynau ynglŷn â'u ffydd. Dywedodd Steve Evans o eglwys Bridge Chapel, Lerpwl fod llawer o bobl newydd yn ymddangos yn ei gynulleidfa o ganlyniad i'r fenter hon. Y mae'r Pab Bened ar y llaw arall wedi rhybuddio am beryglon y dechnoleg fodern. "Mae perygl" meddai, i bobl gael eu hunain mewn "diffeithwch ysbrydol". Safonau Dwbl Eglwys Loegr Y mae aelod seneddol o Gymru wedi cyhuddo Eglwys Loegr o safonau dwbl gyda golwg ar faterion eiddo. Daw'r cyhuddiad wrth i'r Eglwys brynu tŷ gwerth £ 2.5 miliwn i esgob nesaf Rhydychen, tra ar yr un pryd mynd ati i drefnu gwerthu eiddo yn Ne Llundain a allai olygu digartrefedd i lawer o denantiaid difreintiedig. Bwriad yr Eglwys yw prynu Pullens End yn Headington, Rhydychen fel cartref olynydd y Gwir Barchedig. Richard Harries, sy'n ymddeol eleni. Y mae hyn yn digwydd trabodymgyrcharwaith yn Ne Llundain i rwystro Comisiynwyr yr Eglwys rhag gwerthu tair stad o dai i ddatblygwyr preifat. Y mae PEDWAR BAN tenantiaid, clerigwyr lleol ynghyd â llawer o aelodau seneddol yn cynnal ymgyrch na welwyd mo'i thebyg i rwystro'r gwerthiant. Y mae Aelod Seneddol Ordeiniedig a chyn Gadeirydd y "Mudiad Sosialwyr Cristnogol" yn cyhuddo'r Eglwys o ragrithio. Dywedodd Chris Bryant, Aelod Seneddol, Rhondda, ar lawr y Senedd bod llawer o bobl yn credu fod gwerthu Stadau Octavia Hill i godi arian tra'n bwriadu gwario £ 2.5 miliwn ar balas i Esgob yn warthus. "Nid fy mwriad yw amharchu Esgob Rhydychen" meddai. "yn wir, y mae'n ddyn arbennig iawn. Ond mewn difrif calon a oes angen cymaint o lofftydd ar esgobion?!" Dim Croes ar "Hot Cross Buns" Y mae ysgol yn Suffolk wedi gwahardd "hot cross buns" rhag ofn iddynt dramgwyddo disgyblion o grefydd leiafrifol. Gofynnodd y brifathrawes Tina Jackson i'r arlwywyrddileu'r croesau rhag ofn iddynt darfu ar Dystion Jehofa o blith y disgyblion!. Y mae rhieni wedi cyhuddo'r brifathrawes o fynd dros ben llestri'n llwyr. Ond y mae Miss Jackson o ysgol gynradd "The Oaks" yn Ipswich yn benderfynol o ddal ei thir oherwydd nad yw'r fynsen yn rhan o gred y disgyblion sy'n aelodau o Dystion Jehofa. "Dilëwyd y groes er mwyn parchu eu cred" meddai Miss Jackson. Dywedodd yr offeiriad lleol, Y Tad Haley Dossor, mai dyma'r penderfyniad rhyfeddaf eto yng nghyfnod gwallgof y "PC".