Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Meddalu Chwaraewr Caled Y mae seren pêl-droed o Groatia yn dweud fod ei dîm yn colli gemau oherwydd na all droseddu mwyach ar y maes ers iddo ddarganfod Duw. Y mae amddiffynnwr tîm enwog Hajduk Split, Goran Granic wedi ei feirniadu'n hallt gan sylwebyddion pêl-droed am ymwrthod â'r taclo caled fu'n nodwedd mor amlwg o'i chwarae yn y gorffennol. Ond y mae Granic wedi cyhoeddi fod ei ffydd newydd wedi ei wneud yn chwaraewr newydd. "Rwyf wedi ymroi cymaint i Dduw fel bod yn rhaid i mi feddwl ddwywaith cyn taclo neb. Y mae Duw wedi creu pêl-droed yn gyfrwng adloniant ac nid yw'n hoffi'r math o gemau a geir y dyddiau hyn." Ychwanegodd y gallai fod wedi arbed sawl gôl yn ystod y tymor, gan gynnwys gemau yn rowndiau rhagbrofol Pencampwyr Ewrop, pe byddai wedi troseddu er mwyn rhwystro'r gwrthwynebwyr rhag sgorio. Hajduk Split yw pencampwyr presennol Croatia ond eleni y maent wedi methu sicrhau lle yng Nghynghrair y Pencampwyr ac ar hyn o bryd, mae nhw'n bumed yng nghynghrair Croatia. Priodasau 666 Y mae Swyddfeydd Cofrestru yn yr Iseldiroedd wedi derbyn nifer fawr o geisiadau gan gyplau sy'n dymuno priodi ar 6/6/06. Y gred yw mai'r rheswm am hyn yw'r cyfeiriad yn Llyfr Y Datguddiad at 666 fel 'Rhif y Bwystfil' (Datguddiad 13:18). Hyd yn hyn y mae 17 o gyplau wedi cofrestru i briodi yn Ninas Enschede, ac fel arfer does dim mwy na 3 seremoni ar ddydd Mawrth. Mae 14 wedi cofrestru yn Rhanbarth Rotterdam o'u cymharu â'r chwech i wyth seremoni arferol. Y mae'r dyddiad yn boblogaidd hefyd yn ninasoedd Arnhem, Utrecht, Groningen a Nijmegen. Yn Amsterdam ei hunan cafwyd cais gan un cwbl yn arbennig i briodi am chwe munud wedi chwech y bore hwnnw. Er hynny, daeth y prif swyddog cofrestru lleol i'r penderfyniad na allai gael yr un cofrestrydd i godi'r adeg honno o'r bore i fodloni yr un bwystfil! "Twt Twt" meddai Tutu Mewn llythyr at y Canghellor Gordon Brown y mae'r Archesgob Desmond Tutu wedi cyhuddo'r wlad hon o fod yn "fên ei hysbryd" ac yn gofyn iddo ddychwelyd yr E 1. 7biliwn y bydd Prydain yn ei derbyn gan Nigeria fel ei chyfran o gytundeb rhwng y gwledydd cyfoethog i ddileu dyledion Nigeria. Ym Mis Hydref 2005 cytunodd Nigeria dalu$12.4biliwn i gredydwyr gwledydd cyfoethog yn gyfnewid am ddileu$18biliwn. Ym mis lonawr derbyniodd y Trysorlys y rhandaliad cyntaf o £ 811miliwn. Disgwylirygweddill, £ 900miliwn y mis hwn. Yn ei Iythyr (dyddiedig 271onawr) dywed Archesgob Tutu, tra'n croesawu'r ffaith fod llawer o'r ddyled wedi ei dileu, y mae'r ffaith fod yn rhaid talu 40%($12.4biliwn) fel un taliad ar ei phen ei hun yn gwbl annerbyniol. Y mae'n annog y Prif Weinidog a'r Canghellor i arwain y byd drwy ddychwelyd eu cyfran o'r arian hwn a thrwy hynny achub a gwella amodau byw miliynau o'i gyd-Affricanwyr. Datganodd Tony Blair ar 23 lonawr nad yw'n fwriad gan Brydain ddychwelyd yr arian.