Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Defosiwn y Sul: Sul y Blodau Deunydd defosiwn ar gyfer addoliad cyhoeddus MOLIANT SUL Y BLODAU Dduw cariadlon ymunwn heddiw mewn moliant llawen. Croesawn Crist o'r newydd fel ein Brenin, ein Harglwydd a'n Gwaredwr- gan addo iddo ein teyrngarwch, gan ddwyn ein cariad, gan gablu o'i flaen, gan ryfeddu wrth ei gyfarch Hosana i Fab Dafydd, gogoniant yn y goruchaf. Dduwcariadlon tyrd atom eto drwy'r Crist heddiw. Llefara wrthym fel y darllenwn y geiriau cyfarwydd, wrth i ni ganu emynau cyfarwydd, wrth i ni gofio ei fynediad dathliadol i fewn i Jerwsalem mor bell yn ôl, wrth i ni gofio amcan a chost y cyfan. Hosana i Fab Dafydd gogoniant yn y goruchaf. Helpa ni i weld nad yn unig yn y croeso ar Sul y Blodau, ond yn y gwrthod a ddilynodd, y datguddiodd lesu dy ogonianat, ac felly helpa ni i'w wasanaethu yn y dyddiau sydd o'n blaen, drwy yr amseroedd da a drwg. Hosana i Fab Dafydd gogoniant yn y goruchaf, nawr a hyd byth. Amen. SUL Y BLODAU: CROESAWU'R BRENIN Dduw grasol, wrth i ni gofio'r dydd hwn sut y mynychodd lesu i fewn i Jerwsalem i floeddiadau dathliadol, helpa ni i'w groesawu o'r newydd i'n calonnau a'n bywydau. Derbyn ein moliant a'n haddoliad a dyro i ni synnwyr real o ddisgwyl wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodiad ei deyrnas. Hosanna i Fab Dafydd, gogoniant yn y goruchaf. Dduw grasol fel dy bobl amser maith yn ôl, ni fyddwn yn gweld yn glir, ac mae'n ffydd yn fâs a hunan-ganolog; nid ydym yn deall fel y dylem, ac mae ein moliant yn fyrhoedlog ac arwynebol. gan Denzil leuan John pan nad wyt yn gweithredu IIe roeddem wedi gobeithio, pan rwyt yn cyflwyno syniadau gwahanol i'n heiddo ni. Rydym ni hefyd, hyd yn oed wrth broffesu ffydd yn mynd drwy'r arfer o ymroddiad ac yn dy wthio o'r neilltu ac yn dewis ein ffyrdd ni yn hytrach na'th ffyrdd di. Arglwydd lesu, bydd drugarog. Arglwydd lesu Grist, ar y dydd hwn rydym yn cael ein hatgoffa mor hawdd yw hi i'th groesawu fel brenin y Brenhinoedd, ond mor anodd yw hi i ddilyn yn Ffordd y Groes. Arglwydd lesu, bydd drugarog wrth i ni ofyn hyn yn dy enw. Amen. Ond, gofynnwn ar i ti gymryd y ffydd a gyflwynwn er ei fod yn wan, a'i ddyfnhau heddiw, fel y gallwn wir groesawu Crist fel ein Brenin, a'i addoli ef mewn moliant llon, nawr a hyd byth. Hosanna i Fab Dafydd, gogoniant yn y goruchaf, nawr a hyd byth. Amen. CYFFES SUL Y BLODAU Arglwydd lesu Grist, daethost i Jerwsalem 'a'th gyfarch gyda bonllefau o lawenydd, a'th groesawu fely gwaredwr a addawodd Duw, yr un a ddewiswyd ganddo i achub ei bobl. Ond pan ddaeth natur dy deyrnas yn amlwg, ac amlygu'r math o ryddid roeddet yn ei gynnig newidiodd yr ymateb. Aeth y bloeddiadau o 'Hosanna!' yn gri o 'Croeshoelier Ef!' Trodd y dwylo a estynnwyd mewn cyfeillgarwch yn ddyrnau caeedig o gasineb. Aeth y datganiadau o deyrngarwch yn leisiau yn llawn gwawd a gwrthod. Arglwydd lesu Bydd drugarog. Rwyt yn dod i'n bywydau ni a chroeshawn di yn llawen. Rydym wedi dy dderbyn di fel ein Gwaredwr, yr un sy'n ein rhyddhau. Ond gallwn ninnau hefyd newid ein cân pan nad wyt yn cyflawni ein disgwyliadau,