Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Defosíwn y Sul: Sul y Pasg Deunydd defosiwn ar gyfer addoliad cyhoeddus ADDOLIAD Y PASG Arglwydd lesu Grist, maddau i ni ein bod mor aml yn anghofio hynny. Wedi profi by bresenoldeb atgyfodedig rydym yn ei gadw i 'n hunain. Wedidygyfarfod, rydym heb dy gyflwyno i eraill. Wedi derbyn cymaint, rydym wedi methu rhannu'n llwyr. Rhoddaist i ni newyddion da; dysg ni i'w rhannu. Arglwydd lesu Grist, diolchwn i ti am y sawl a gyflawnodd dy alwad- y sawl a rannodd yr Efengyl gyda ni, y sawl sy'n ei gyhoeddi i eraill, y sawl sy'n hau, a gofalu amdanynt gan eu dwyn i lawnder aeddfedrwydd hadau'rffydd. Gweddiwn dros bawb sydd â doniau arbennig i gyhoeddi'r newyddion Da- pregethwyr ac efengylwyr, gweinidogion a chenhadon, athrawon ac awduron. Boed i lawer dy gyfarfod drwy eu hymdrechion ac i'th adnabod fel Arglwydd a Gwaredwr byw. Rhoddaist i ni newyddion da; dysg ni i'w rhannu Arglwydd lesu Grist, gelwaist pob un ohonom i fod yn dystion- ddweud wrth eraill ein bod wedi profi dy gariad, ac i ddweud am yr hyn a wnaethost drosom, ac i dystio i'r modd y newidiaist ein bywydau. Helpa ni i wneud hynny'n ffyddlon, ac i wneud ein rhan yn dy deyrnas a'th bwrpas. Fel y daw eraill i'th gyfarfod a'th adnabod drostynt eu hunain. Rhoddaist i ni newyddion da; dysg ni i'w rhannu, erdy ogoniant. Amen. MOLIANT Y PASG Dduw y bywyd, diolchwn i ti am y dydd hwn o foliant a dathliad, dydd o obaith ar ôl anobaith, llawenydd yn IIe tristwch bywyd yn lle marwolaeth- a dydd i godi ein calonnau ac estyn i ti ein moliant. gan Denzil leuan John Dduw y cariad, cofiwn heddiw am bopeth a wnaethost drosom a thros bawb yn y byd- dy fuddugoliaeth fawr dros bechod a marwolaeth, dy oruchafiaeth dros bopeth sy'n ein cadw arwahan i ti a'n rhwystro rhag byw'r bywyd rwyt am i ni ei arwain. Dduw yr achub ymunwn heddiw gyda'th Eglwys ym mhob oes i ddwyn addoliad y Pasg- i'th gydnabod di fel Duw cariad a grym, ac i groesawu lesu fel ein Harglwydd byw. DduwyBrenin anadla fywyd newydd i mewn i'n calonnau heddiw. Tania ni gyda hyder a brwdfrydedd newydd. Llenwa ni gyda grym yr atgyfodiad, a chaniatâ i ni gyfarfod a theithio gyda Christ, yn dwyn iddo ein gwasanaeth llawen a ffyddlon heddiw a bob dydd, er mwyn ei enw. Amen. MOLIANT AC EIRIOLAETH Y PASG Dduw y cariad molwn di heddiw am y diwrnod hwn o ddathlu, diwrnod i foli diwrnod i ddiolch, diwrnod sy'n newid y ffordd a feddyliwn y ffordd a weithredwn, y ffordd rydym yn byw- diwrnod sy'n newid popeth. Arglwydd y bywyd, clyw ein gweddi. Ac felly fe weddïwn nawr am weld newid yn y byd, am newid ym mhobman lle mae angen dynol. Gweddïwn dros y tlawd, y digartref, yclafa'rnewynog. Arglwydd bywyd, clyw ein gweddi. Gweddïwn dros y trist, yr ofnus, y sawl sy'n gythryblus eu calon a'u meddwl. Arglwydd bywyd, clyw ein gweddi. Dduw y bywyd boed i wirionedd y Pasg ymddangos ym mhob un o'r sefyllfaoedd hyn. Arglwydd bywyd, clyw ein gweddi, drwy lesu Grist ein Harglwydd. Amen.